This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru, Powys - Gweithgaredd Mis Plant Milwrol

Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru, Powys - Gweithgaredd Mis Plant Milwrol

Mae Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru yn ysgol gynradd wledig fechan sydd wedi’i lleoli ym Mhowys, ac mae plentyn y lluoedd arfog ym mhob dosbarth. Mae’r ysgol yn cefnogi plant gyda dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu eu hannibyniaeth, eu hymgysylltiad a’u brwdfrydedd. Cynhaliodd yr ysgol sawl gweithgaredd ym mis Ebrill 2021 i ddathlu Mis Plant Milwrol a dathlu profiadau plant y lluoedd arfog.

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:  

Louise Edwards - Cydlynydd Lles (Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru, Powysell) 

Caitlin Woodland – Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol – Plant Milwyr, Dwyrain Cymru (Cyngor Dinas Casnewydd ac SSCE Cymru)

"Roedd hi’n ddiwrnod pwysig iawn i mi"

Isabella, plentyn y lluoedd arfog, 4 mlwydd oed

 

"Roedd yn llawer o hwyl ac yn gyffrous i sôn wrth fy ffrindiau am dad a’r holl bethau mae o’n eu gwneud. Roeddwn i wrth fy modd yn dangos lluniau o fy nhad i’r dosbarth ar y sgrin fawr."

Dylan, plentyn y lluoedd arfog, 6 mlwydd oed

Pa weithgareddau a gynhaliwyd i ddathlu Mis Plant Milwrol? 

Yn rhan o’r gweithgaredd a awgrymwyd gan SSCE Cymru ar gyfer Mis Plant Milwrol, cynhaliodd disgyblion Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru sawl gweithgaredd. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Defnyddiodd yr ysgol wefannau Little Troopersy Lluoedd ArfogSSCE Cymru i ddod o hyd i syniadau er mwyn gosod gweithgareddau yn y dosbarth.
  • Gyda chefnogaeth gan y Cydlynydd Lles, fe greodd pob plentyn y lluoedd arfog gyflwyniad PowerPoint oedd yn tynnu sylw at rôl eu rhiant, eu profiad mewn ysgolion blaenorol, sut y gwnaethant symud i ffwrdd o’u ffrindiau, a’u hemosiynau wrth iddynt ddechrau mewn ysgol newydd. Roedd y cyflwyniadau yn cynnwys gwybodaeth a lluniau a gawsant gan eu rhieni.
  • Cyflwynodd plant y lluoedd arfog eu PowerPoint i’w cyfoedion. Casglodd y dosbarth y cwestiynau a rannwyd gyda theuluoedd plant y lluoedd arfog ac yna eu hateb. Roedd hyn yn gyfle i ddisgyblion ddysgu a chael gwell dealltwriaeth am brofiadau plant y lluoedd arfog.
  • Fe wisgodd yr ysgol gyfan rywbeth piws am y dydd. Cafodd y dosbarth a wisgodd y mwyaf o biws ddeg munud ychwanegol o amser chwarae.
  • Dyluniodd ddosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2 fathodynnau allai fod yn addas i blant y lluoedd arfog eu gwisgo. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddod o hyd i’r dyluniad buddugol.
  • Defnyddiodd y cyfnod sylfaen eu sgiliau TGCh ac ymchwilio i greu ffeiliau ffeithiau. Fe wnaethant greu amrywiaeth o gerbydau wedi’u hysbrydoli gan y lluoedd arfog allan o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
  • Fe greodd y dosbarth Meithrin a Derbyn fathodynnau piws gydag amrywiaeth o luniau, yn cynnwys y dant y llew hadog.
  • Er mwyn rhannu’r wybodaeth am y gweithgareddau gyda disgyblion a theuluoedd, darparodd yr ysgol wybodaeth trwy gyfwng newyddlen yr ysgol, negeseuon Schoop a hysbysfyrddau yn  y gymuned leol. 

Beth oedd yr effaith? 

Roedd y gweithgareddau yn gyfle i blant y lluoedd arfog rannu eu straeon ac integreiddio’n llawn yn yr ysgol wrth iddynt ymuno â’r ysgol yn ystod pandemig Covid. Fe gododd ymwybyddiaeth y staff a disgyblion o blant y lluoedd arfog a’r Luoedd Arfog, trwy ddarparu gwybodaeth am fywyd teulu’r lluoedd arfog, rôl y rhiant yn y lluoedd arfog a sut mae hynny’n effeithio ar blentyn y lluoedd arfog yn y teulu. 

"Wrth i’r gweithgareddau gael eu cyflwyno gan blant y lluoedd arfog, roedd y cyfan trwy lygaid y plentyn felly yn ddealladwy ac yn hawdd uniaethu ag o. Roedd y gweithgareddau hwyliog yn ddiwrnod i’w fwynhau ac yn gofiadwy."

Louise Edwards, Cydlynydd Lles

Cafodd gweithgaredd yr ysgol ei gynnwys yn y papur lleol ‘Brecon and Radnor Express’, i hyrwyddo’r gefnogaeth ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog o fewn y gymuned leol.

Sut ydych chi wedi cael cefnogaeth i blant y lluoedd arfog er mwyn sicrhau buddion hirdymor?

Mae pob aelod staff wedi mynychu hyfforddiant CPD SSCE Cymru i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion plant y lluoedd arfog. Mae’r ysgol yn parhau i ddilyn awgrymiadau’r Swyddog Cyswllt Ysgol Rhanbarthol, ac yn siarad yn gyson i gael cyngor, rhannu syniadau a gweithredu rhagor o gefnogaeth i blant y lluoedd arfog. Mae’r ysgol hefyd wedi creu dangosfwrdd o weithgareddau i’w hatgoffa am weithgareddau a thestunau i gychwyn trafodaeth i ymwelwyr, staff a disgyblion. 

"Fe brofodd y gweithgareddau Mis Plant Milwrol a gynhaliwyd yn Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru bod yr holl staff yn ymwybodol o’r hyn mae’n rhaid i’n plant fyw ag o weithiau, peidio gweld rhiant am fisoedd ar y tro a’r pryder sy’n cyd-fynd â hynny."

Mrs Loftus, Mam

"Roeddem ni’n teimlo anrhydedd pan ddewisodd Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru i gymryd rhan yng ngweithgareddau Mis Plant Milwrol. Roedd Ellie wrth ei bodd yn teimlo mor arbennig a chael cyfle i rannu cefndir milwrol ei thad a’i bywyd hi hyd yma gyda’i ffrindiau newydd. Nid yw’n rhywbeth y mae hi wedi cael cyfle i wneud o’r blaen felly rydym ni’n diolch i Ysgol Llanbedr yr Eglwys yng Nghymru am ein croesawu ni fel teulu milwrol gyda breichiau agored."

Mrs Young, Mam

Pa feysydd o Gyfamod y Lluoedd Arfog sy’n cael eu cefnogi? 

  • codi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r materion sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
  • gwella argaeledd gwybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: 

Rhestr wirio ysgolion SSCE Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a awgrymir a ffyrdd o ddathlu profiadau plant y lluoedd arfog. 

Dyddiad cynhyrchu:  Mai 2021

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan