This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Digwyddiadau

Digwyddiadau

Cyfnodolyn SSCE Cymru

Mae cyfnodolyn SSCE Cymru yn rhoi trosolwg o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau y mae aelodau tîm SSCE Cymru wedi bod yn rhan ohonynt.
 

Mis y Plentyn Milwrol

April/Ebrill | #MotMCCymru

Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol, sy’n tynnu sylw at rôl bwysig plant milwyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog. Mae’n gyfle i gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog a’u plant oherwydd yr aberth maen nhw’n ei wneud bob dydd a’r heriau maen nhw’n eu goresgyn.

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2024

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn  gyfle i ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.

Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r Lluoedd Arfog ac o brofiadau unigryw plant y Lluoedd.

Little Troopers virtual workshop

Bydd y gweithdy ar-lein rhad ac am ddim yn dod â Phlant y Lluoedd Arfog sydd mewn sefyllfa debyg at ei gilydd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd unigryw maen nhw’n eu profi fel aelodau o gymuned Lluoedd Arfog Prydain, a dathlu beth mae’n ei olygu i fod yn ‘Little Trooper’. Mae’r sesiwn wedi’i recordio o flaen llaw fel digwyddiad ‘byw’, a chaiff ei darparu gan dîm profiadol o hwyluswyr gan ddefnyddio adnoddau ysgol gynradd Little Troopers sy’n cynnwys adrodd straeon, symudiad, trafodaethau grŵp a chwarae rôl. Mae’r gweithdy ar gael i holl Blant y Lluoedd Arfog oed cynradd yn eich lleoliad, ac mae’n addas ar gyfer grwpiau o unrhyw faint.

Cynhadledd Pecyn Cymorth Thriving Lives SCiP Alliance

Dyddiad: 7 & 14 Rhagfyr

Amser: 15:30 – 17:30

Lleoliad: Rhith

Canlyniadau:

Bydd y gynhadledd yn rhoi gwell dealltwriaeth i gynrychiolwyr o blant y Lluoedd Gwasanaeth a'u profiadau mewn addysg. Bydd y cyfle i drafod grwpiau, cyngor ymarferol ac enghreifftiau o arfer da a rennir yn y gynhadledd yn sicrhau bod cynrychiolwyr yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Bywydau Ffyniannus i werthuso a gwella'r cymorth sydd ar gael i blant y Lluoedd Gwasanaeth yn eu lleoliadau addysg.

Gweminar Cyllid Cefnogi Plant Milwyr

Cynhaliwyd y weminar SSCE Cymru gyntaf erioed gan dîm SSCE Cymru ym mis Mehefin 2021

Roedd y weminar yn gyfle i ysgolion yng Nghymru glywed gan ystod o ffrydiau cyllido sydd ar gael i gefnogi plant Gwasanaeth mewn addysg, ynghyd ag enghreifftiau arfer da gan ysgolion â phlant Gwasanaeth sydd wedi defnyddio'r cyllid sydd ar gael, yn dilyn y cyflwyniadau gan y mynychwyr wedi cael cyfle i ofyn eu cwestiynau i'r panel Holi ac Ateb.

 

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan