This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Ynglŷn â phlant y Lluoedd Arfog

Ynglŷn â phlant y Lluoedd Arfog

Pam cofnodi data ar blant Milwyr

  • Data yw'r allwedd i ddeall effaith bywyd yn y Lluoedd Arfog ar blant Milwyr
  • Gall ysgolion fod wedi paratoi’n well i gefnogi plant Milwyr
  • Gellir gwneud cymariaethau o ran lefelau cyrhaeddiad rhwng plant Milwyr a phlant nad ydynt yn blant Milwyr
  • Gellir canfod patrymau o ran absenoldeb o'r ysgol
  • Gall awdurdodau lleol baratoi i gefnogi plant milwyr o ran eu hiechyd meddwl a'u hanghenion o ran lles
  • Gall asiantaethau ddarparu cefnogaeth a nodi lle mae yna fylchau o ran darpariaeth
  • Gellir targedu adnoddau i gefnogi anghenion penodol mewn lleoliadau daearyddol gwahanol
  • Gellir cynnal ymchwil pellach gyda grŵp cynhwysol o gyfranogwyr

Yn Adroddiad Blynyddol Cyfamod y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru 2019, fe wnaeth Kirsty Williams AC, y Gweinidog dros Addysg yr ymrwymiad i gasglu data ar blant Milwyr yng Nghymru. Mae SSCE Cymru a Chyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu’r newid hwn.

Ffilm gyda phlant teuluoedd Lluoedd Arfog

Mae’r ffilm hon yn cynnwys plant aelodau’r lluoedd arfog o bob rhan o Gymru gan roi enghreifftiau o'r math o brofiadau y maen nhw wedi’u hwynebu a sut y mae hyn wedi gwneud iddyn nhw deimlo.

Oriel

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan