This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd Prendergast (Sir Benfro) - Cefnogi plant y Lluoedd Arfog i bontio

Ysgol Gynradd Prendergast (Sir Benfro) - Cefnogi plant y Lluoedd Arfog i bontio

Mae lleoliad Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn agos i Farics Cawdor, Catrawd Signalau 14, Hwlffordd. Mae rhai teuluoedd yn cael eu lleoli yma am ddwy/tair mlynedd. Mae yna drosiant uchel o blant, dros amser mae’r nifer o blant sydd wedi aros yn y garfan o ddosbarth meithrin yn isel, oherwydd y symudedd parhaus.  Mae’n ardal wledig ac mae rhai teuluoedd yn teimlo’n ynysig yma.

Mae’r ysgol yn agos i’r ysbyty ac mae trosiant uchel o blant i staff meddygol. Mae gan yr ysgol blant o nifer o ddiwylliannau ac yn siarad nifer o wahanol ieithoedd. Yn ddiweddar mae’r ysgol wedi gweld newid yn nifer y plant lluoedd arfog yn yr ysgol, o bosib oherwydd bod teuluoedd priod yn penderfynu peidio â byw gyda’u gilydd gyda dim ond y rhiant yn y lluoedd arfog yn symud i weithio yn Hwlffordd, gan adael teuluoedd yn agos i’r rhwydweithiau cymorth mewn llefydd eraill Mae rhai cyn-filwyr sydd wedi setlo yn lleol, ac mae hyn yn cynnwys rhai o aelodau staff yr ysgol. Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos â’r barics a swyddfa lles lleol ac felly yn gwbl ymwybodol o adleoliadau, ymarferion hyfforddi a chynlluniau i symud.  

Nifer o blant y lluoedd arfog yn Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast: 37 (9%)

Astudiaeth achos wedi’i gwblhau gan: Kay Reynolds, Gweithiwr Allweddol a Chefnogwr Lles i’r Weinyddiaeth Amddiffyn

Pa heriau y mae’r plant lluoedd arfog yn eu hwynebu yn Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast?

  • Maent yn methu eu rhiant pan fyddan nhw’n cael eu adleoli neu’n gweithio i ffwrdd
  • Mae rhai plant yn ei chael yn anodd i setlo mewn amgylchedd newydd
  • Ardal wledig/ynysig
  • Plant i ffwrdd o’u teulu estynedig
  • Plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gallu wynebu heriau gyda pharhad darpariaeth ac adnabod anghenion unigol, yn enwedig plant iau
  • Cludiant i, ac o’r ysgol gan ei fod yn dipyn o bellter o dai y Weinyddiaeth Amddiffyn

Pa brofiadau cadarnhaol y bydd plant lluoedd arfog yn ei ddod i’ch ysgol gymunedol?

  • Maent yn methu eu rhiant pan fyddan nhw’n cael eu adleoli neu’n gweithio i ffwrdd
  • Mae rhai plant yn ei chael yn anodd i setlo mewn amgylchedd newydd
  • Ardal wledig/ynysig
  • Plant i ffwrdd o’u teulu estynedig
  • Plant gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gallu wynebu heriau gyda pharhad darpariaeth ac adnabod anghenion unigol, yn enwedig plant iau
  • Cludiant i, ac o’r ysgol gan ei fod yn dipyn o bellter o dai y Weinyddiaeth Amddiffyn

Sut y mae Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn cefnogi plant lluoedd arfog gyda thrawsnewid o un ysgol i’r llall?

  1. Cyfnod cynefino i deuluoedd newydd
  2. Adnabod anghenion plant lluoedd arfog
  3. Cefnogaeth i blant a theuluoedd lluoedd arfog
  4. Mesur effaith y gefnogaeth
  5. Ymgysylltu â’r gymuned Lluoedd Arfog

1. Sut y mae’r ysgol yn cefnogi teuluoedd gyda chyfnod cynefino?

  • Rydym yn cwrdd â rhieni fel rhan o system cynefino’r ysgol ac yn siarad gyda nhw am yr ysgol a’r ardal leol
  • Rydym yn darparu pecyn cynefino yn llawn gwybodaeth i deuluoedd sydd yn cynnwys gwybodaeth ar yr ysgol – arferion yr ysgol, pwy i ofyn am gymorth a llyfryn am Gymru.
  • Rydym yn darparu pecyn cynefino i bob teulu eu llenwi, sydd yn cynnwys adrannau i’r ysgol allu magu dealltwriaeth am y plentyn, eu cefndir, diddordebau a gwybodaeth am y teulu
  • Byddwn yn trefnu cyfarfod dilynol gyda’r teulu i weld sut y maen nhw’n setlo a sut mae pethau’n mynd
  • Rydym yn trefnu cyfleoedd i rieni gwrdd  â gweithiwr allweddol y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Mae gan yr ysgol sesiynau galw heibio wythnosol arbennig i’r holl deuluoedd i’w cefnogi nhw gyda’u lles a gyda setlo yn yr ardal  

Estyn 2017

 “Cysylltiadau hynod effeithiol gyda swyddfa’r Weinyddiaeth Amddiffyn lleol yn darparu cyfleoedd dysgu buddiol i’r holl ddisgyblion. Er enghraifft, roedd yn helpu disgyblion Blwyddyn 6 i ddysgu am sgiliau goroesi yn yr Arctig fel rhan o’u gwaith pwnc.  Mae gweithiwr allweddol wedi’i ariannu’n rhannol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cefnogi rhieni a disgyblion teuluoedd lluoedd arfog pan fyddan nhw’n dechrau yn yr ysgol a phan fyddan nhw’n symud ymlaen i ysgol newydd. O ganlyniad mae’r disgyblion yn setlo i mewn yn sydyn ac yn hyderus yn eu hamgylchedd newydd.”          

2. Sut y mae’r ysgol yn adnabod anghenion plant lluoedd arfog yn dilyn derbyniad ac yn ystod eu hamser yn yr ysgol?

  • Rydym yn olrhain ac yn monitro addysg plant ar draws yr holl feysydd gan adnabod unrhyw anghenion
  • Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar gynnydd disgyblion gydag athrawon dosbarth a’r uwch arweinwyr i adnabod y plant hynny sy’n cael trafferthion neu sydd angen estyniad
  • Rydym yn siarad gyda rhieni am gymorth ac addysg blaenorol eu plentyn
  • Mae gan yr ysgol asesiadau parhaus sydd yn adnabod anghenion unigol

3. Pa gymorth sydd ar gael i blant a theuluoedd lluoedd arfog?

  • Mae’r ysgol wedi cymryd amser i ddod i nabod cymuned yr ysgol a’i unigrywiaeth, yn cynnwys y Lluoedd Arfog, y rhwydwaith meddygol ac anghenion teuluoedd
  • Mae ymwybyddiaeth o brofiadau ac anghenion Plant y Lluoedd Arfog yn rhan o feddylfryd holl staff yr ysgol
  • Wrth y giât mae cyfle i ‘Gwrdd a Chyfarch’ yn ddyddiol gyda gweithiwr yr Weinyddiaeth Amddiffyn/Cymorth Lles. Mae’n golygu bod rhywun ar gael sy’n weladwy/hawdd sgwrsio â nhw i staff yr ysgol a’r holl deuluoedd.
  • Dyma ysgol ymwybyddiaeth o ymlyniad, ac mae’r holl staff wedi derbyn hyfforddiant i’w helpu nhw ddeall effaith ymlyniad ar ymddygiad a lles plant
  • Staff wedi hyfforddi fel Cynorthwywyr Cefnogi Llythrennedd Emosiynol (ELSA) er mwyn rhoi cymorth emosiynol ar draws yr ysgol
  • Cymorth anogaeth ar gael mewn grwpiau bach ac rydym yn defnyddio’r proffil Boxall i fesur cynnydd ac effaith
  • Rydym yn cyflwyno staff ‘Ffynnu’ hyfforddedig, sy’n cyflawni asesiadau a chynnal sesiynau ar draws yr ysgol
  • Mae’r staff yn cefnogi drwy gofnodi a monitro lles plant yn ddyddiol, a dilyn hynny gydag ymyrraeth os oes angen gyda gweithiwr allweddol/cymorth lles y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Pan fydd plentyn y lluoedd arfog yn symud ysgol rydym yn parhau i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth yn ystod y cyfnod trawsnewid; yn arbennig ar gyfer plant y lluoedd arfog gydag ADY
  • Mae gan yr ysgol gymorth ar gael gyda chludiant dyddiol os oes angen.

4. Sut y mae’r ysgol yn mesur effaith y cymorth sy’n cael ei roi?

  • Olrhain a monitro yn defnyddio dangosyddion pynciau craidd ar draws y cwricwlwm
  • Defnyddio ac adolygu asesiadau Meithrin/Ffynnu/Proffil Boxall
  • Defnyddir arolwg PASS i fonitro ac olrhain lles
  • ‘Sut ydw i’n teimlo?’ dogfen fapio
  • Yn dilyn y proses cynefino defnyddir y broses ‘Sut ydw i’n teimlo?’ 

Enghraifft o effaith....

“Yn 2019 – fe gyflawnodd 100% o Flwyddyn 6 y dangosyddion pynciau craidd, yn cynnwys plant lluoedd arfog

Mae Plentyn X yn blentyn lluoedd arfog ym Mlwyddyn 6 gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae ei Chynlluniau Addysg Unigol (CAU) wedi cynnwys targed yn berthnasol i gynyddu annibyniaeth ac i ddatblygu cadernid. Mae hi wedi bod yn destun nifer o ymyraethau yn cynnwys mathemateg, ar ôl ysgol ac yn ystod amser cinio, bedair gwaith yr wythnos. Mae hi’n darllen yn aml gyda Chynorthwywr Cymorth Dysgu fel rhan o ymyrraeth dan arweiniad athrawon ar gyfer darllen mewn grwp.

Mae mam Plentyn X wedi mynegi yn ddiweddar bod ei phlentyn yn dysgu ac wrth ei bodd yn yr ysgol. Mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn arsylwadau’r athro o Blentyn X yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r athro dosbarth wedi sylwi bod hyder plentyn X wedi tyfu ac ei bod yn fwy na pharod bellach i gyfrannu i waith yn y dosbarth. Mae’r gwelliant i’w weld yn yr asesiad canlynol o’i gymharu â Hydref 2017 i 2018.

Asesiad cyn cymorth PASS

Plentyn Teimladau am ysgol

Gallu dysgu ymddangosiadol

Hunan-ystyriaeth y Dysgwr

 

Parodrwydd i ddysgu Agwedd at athrawon Etheg waith cyffredinol Hyder mewn dysgu Agwedd at bresenoldeb Ymatebion i’r cwricwlwm

Blwyddyn

n 6

9.2 74.6 42.3 6.4 48.8 21.7 56.2 49.2 6.8

Asesiad ar ôl cymorth PASS

Plentyn Teimladau am ysgol Gallu dysgu ymddangosiadol

 Hunan-ystyriaeth y Dysgwr

 

Parodrwydd i ddysgu Agwedd at athrawon Etheg waith cyffredinol Hyder mewn dysgu Agwedd at bresenoldeb Ymatebion i’r cwricwlwm

Blwyddyn

n 6

51.2 83.2 64.8 21.7 75.7 20.4 76.8 78.3 53.6
 
 

Estyn 2017

“Disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod fuddiol o weithgareddau cymunedol. Er enghraifft disgyblion hyn sy’n cael cinio gydag aelodau hyn o’r gymuned sydd yn mynychu’r ganolfan ofal ddydd cyfagos. Mae ‘Addurnwyr gyda Gwlân’ yr ysgol yn codi arian drwy wneud crochet ac yn gwneud addurniadau ar gyfer yr ysgol a chanol tref Hwlffordd.  Mae disgyblion hefyd yn cymryd rhan yng ngwasanaethau Diwrnod y Cofio yn y dref ac yn cefnogi elusennau lleol.” 

 5. Pa gysylltiadau sydd gan yr ysgol gyda’r gymuned Lluoedd Arfog? 

  • Cymryd rhan mewn cyfarfodydd Cyfamod Lluoedd Arfog lleol, sy’n cael eu mynychu gan Gefnogwr Lluoedd Arfog yr awdurdod lleol
  • Mae’r ysgol wedi cydweithio gyda’r awdurdod lleol, athro ymgynghorol ar gyfer y Gymraeg i ddatblygu arweiniad i gefnogi rhieni gyda’r Gymraeg – ‘Arweiniad cefnogol i chi a’ch plentyn i ddechrau dysgu Cymraeg’
  • Mae’r ysgol wedi datblygu prosiect ar y cyd ag Oriel VC Hwlffordd, galw heibio’r Ganolfan Ddydd sef Prosiect Heddwch i ddathlu canmlwyddiant ers y Rhyfel Byd I https:www.thevcgallery.com
  • Rydym yn cynnal clwb Arwyr MKC i’n plant lluoedd arfog.
  • Dyma ni’n cyfrannu astudiaeth achos arfer da i lyfryn Addysg Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • Rydym yn cysylltu’n rheolaidd â gwasanaethau lleol yn Barics Cawdor yn cynnwys cefnogaeth cymunedol, y swyddfa lles a’r gweithiwr ieuenctid.
 
Dyddiad creu’r ddogfen: Rhagfyr 2019

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan