This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd Gilwern (Sir Fynwy) – Defnydd effeithiol o gyllid i gefnogi plant milwyr

Ysgol Gynradd Gilwern (Sir Fynwy) – Defnydd effeithiol o gyllid i gefnogi plant milwyr

Mae Ysgol Gynradd Gilwern yn ysgol bentref wedi’i lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gerllaw Pencadlys Cymru'r 160ain Brigâd (Cymreig), y barics hyfforddiant Brwydro i Droedfilwyr ac yn agos at safle hyfforddi Pontsenni. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar gefnogi grwpiau agored i niwed ar draws yr ysgol. Mae rhai teuluoedd yn byw yn neu’n agos at Gilwern ac mae’r rhiant yn cymudo i’r gwaith ac mae dosbarthiad cyfartal o deuluoedd personél y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr (cyn-bersonél y Lluoedd Arfog) yn yr ysgol ar hyn o bryd. Yn aml gall fod diffyg datgeliadau fod aelod o deulu yn, neu wedi bod yn, y Lluoedd Arfog. Llwyddodd Ysgol Gynradd Gilwern i dderbyn cyllid gan gynllun grantiau Llywodraeth Cymru i gefnogi plant Milwyr gyda’u hanghenion yn rownd gyllido 2019-20.

 

Nifer o blant Milwyr yn Ysgol Gynradd Gilwern: 8 (4%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Sue Marles, Dirprwy Bennaeth 

Estyn 2014

”Mae’r ysgol yn creu cymuned agored a chynhwysol iawn drwy ei nodau a’i amcanion, yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r rhain yn rhoi gwybod i’r disgyblion am eu hawliau a’u cyfrifoldebau yn effeithiol iawn. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol wrth ddatblygu parch disgyblion at ei gilydd, gofal am yr amgylchedd a hunanhyder. Mae mynediad cyfartal gan yr holl ddisgyblion at bob agwedd ar fywyd yr ysgol.”

 

Pa heriau mae plant y Milwyr yn eu hwynebu yn Ysgol Gynradd Gilwern?

  • Mae’r teuluoedd wedi eu gwahanu gan fod rhieni yn cymudo i weithio dros gyfnodau hirach ac mae angen cefnogaeth ar y plant gyda’u hemosiynau a materion cymdeithasol i ddelio â hyn
  • Mae eu hanghenion emosiynol yn effeithio ar eu cynnydd dysgu, sy’n creu gostyngiadau yn eu canlyniadau dysgu yn eu tro
  • Gallai’r rhieni weithiau fod yn anymwybodol o effaith hyn ac anghenion penodol eu plentyn
  • Gall y gwaith mae’r rhieni’n ei wneud yn y Lluoedd Arfog fod yn sensitif ac mae angen delio'n briodol â hyn.
  1. Nodi anghenion plant Milwyr
  2. Defnydd o’r cyllid
  3. Mesur effaith a llwyddiant
  4. Gwerth am arian
  5. Buddion Hirdymor

1.    Sut mae Ysgol Gynradd Gilwern yn nodi anghenion plant Milwyr?

Dyfyniad o Estyn, Iach a Hapus - Effaith yr Ysgol ar Iechyd a Llesiant Disgyblion – Mehefin 2019

"Yn Ysgol Gynradd Gilwern, mae staff hyfforddedig yn defnyddio dull y Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) i gefnogi disgyblion agored i niwed yn effeithiol.  Mae’r dull hwn yn cynnig gofod myfyriol lle y gall disgybl rannu’i feddyliau a’i deimladau’n onest, a nod y dull yw deall yr angen seicolegol sydd wrth wraidd hunan-barch gwael neu ymddygiad annymunol. Trwy’r dull hwn, cefnogwyd disgybl yn yr ysgol ag anghenion ymddygiadol a chymdeithasol sylweddol i uniaethu’n well â’i gyfoedion, gwella’i benderfyniadau mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac adnabod sefyllfaoedd peryglus yn well. Gan ddefnyddio’r un dull, helpwyd disgybl pryderus a drosglwyddodd yno o ysgol wahanol i ymgartrefu’n dda, a chefnogwyd disgybl â phresenoldeb gwael i ddod yn ôl i ymwneud yn llawn â’r ysgol, trwy ddychwelyd fesul cam.”

 

1.    Sut mae Ysgol Gynradd Gilwern yn defnyddio cyllid?

  • Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella addysgeg Meddylfryd Twf drwy gydol y cyfnod cynradd gyda hyfforddiant a chyfarfodydd staff i rannu arfer da
  • Rydym wedi cydnabod fod y nifer o blant Milwyr ar y gofrestr, mae hyn wedi cynyddu dros y dair blynedd ddiwethaf, maen nhw’n grwp o ddysgwyr agored i niwed a byddwn yn nodi rhaglenni dysgu a allai gael effaith ar eu canlyniadau dysgu a’u cynnydd
  • Bydd oriau staffio ychwanegol yn ein galluogi i weithio’n agos gyda rhieni wrth nodi materion personol a all effeithio ar berfformiad academaidd a gweithio gyda grwpiau llai o ddisgyblion i ddarparu sesiynau gyda ffocws a all greu cyfleoedd dysgu dwys i annog agweddau fel gwydnwch a dwyochredd ymhlith dysgwyr.  
  • Byddwn yn penodi un o’r staff am un diwrnod yr wythnos i gefnogi anghenion emosiynol plant Milwyr
  • Prynu'r adnodd Anghenion Meddyliol, Iechyd a Lles Little Troopers i’w ledaenu ar draws y cyfnod cynradd.

2.    Sut bydd Ysgol Gynradd Gilwern yn mesur effaith y strategaethau a roddwyd ar waith?

  • Rydym yn dadansoddi data pob disgybl yn drwyadl drwy system lwybro gadarn. Asesir pob disgybl bob tymor a darperir lefel cyrhaeddiad iddynt ac yna caiff targedau eu rhagweld ar gyfer diwedd y flwyddyn a diwedd y cyfnod. Drwy roi egwyddorion Meddylfryd Twf ar waith, rhagwelwn y bydd cyrhaeddiad o ran canlyniadau disgyblion yn cynyddu, bydd angen mesur hyn dros gyfnod i ddilysu’r canlyniadau
  • Bydd data’n cael ei gofnodi drwy PASS ar ddechrau’r prosiect ac ar y diwedd
  • Drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus a Rheoli Perfformiad, byddwn yn hyfforddi staff drwy hyfforddiant a rhoi Meddylfryd Twf ar waith, fel eu bod yn fwy hyderus wrth hwyluso egwyddorion Meddylfryd Twf yn eu dysgu o ddydd i ddydd
  • Bydd arolwg staff sy’n defnyddio mynegai ffynnu yn rhannu manteision a meysydd datblygu o fewn y set sgiliau staff
  • Byddwn yn adolygu cynnydd staff drwy Adolygiad Rheoli Perfformiad tymor canolig sy’n gysylltiedig â’r datblygiad
  • Bydd data meintiol yn cael ei ddefnyddio i lwybro cynnydd disgyblion fesul hanner tymor, gan ddefnyddio asesiad athro ac arfau ar-lein e.e. Asesiad GL monitro academaidd a PASS
  • Defnyddir data ansoddol i werthuso cynnydd ac agweddau drwy lyfrau disgyblion, cyfranogiad ym mywyd yr ysgol a drwy siarad ag unigolion
  • Bydd presenoldeb dyddiol disgyblion yn cael ei fonitro drwy’r System Reoli Gwybodaeth Ysgol
  • Bydd holiaduron rhieni yn cael eu dadansoddi a’u gwerthuso a’u rhannu mewn dogfennaeth Hunanwerthuso gan yr Ysgol.

3.   Sut ydych chi wedi ceisio cyflawni gwerth am arian?

  • Cynyddu oriau gwaith aelod staff presennol i ddatblygu arbenigedd a phrofiad a chynnal y datblygiad
  • Mae’r aelod staff wedi derbyn hyfforddiant llawn mewn diogelu, disgwyliadau proffesiynol ac yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau yn yr ysgol, felly ni fydd angen sesiynau cyflwyno a hyfforddiant mewnol  
  • Bydd eu gwybodaeth a’u profiad o raglenni ymyrraeth, disgyblion a theuluoedd Milwyr yn creu defnydd effeithlon o amser wrth weithredu’r rhaglen a lledaenu adnoddau a hyfforddiant
  • Bydd amser yn cael ei neilltuo i ddadansoddi data a rhaglenni ymyrraeth gan felly gefnogi staff gyda chanlyniadau
  • Bydd yr holl staff yn derbyn hyfforddiant a’r wybodaeth ddiweddaraf o fewn yr ysgol i sicrhau cynaliadwyedd.

4.    Beth yw bendithion hirdymor y datblygiad hwn?

  • Cynyddu canlyniadau disgyblion ar draws y cwricwlwm yn arbennig ar gyfer grwpiau o ddysgwyr agored i niwed a data ansoddol i ddangos yr effaith.
  • Mwy o hyfforddiant i athrawon a chyfleoedd am ymchwil gweithredu i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol
  • Gellir defnyddio’r pecyn adnoddau ‘Little Troopers’ gyda chenedlaethau’r dyfodol o ddysgwyr
  • Mwy o ymgysylltu gyda rhieni / gofalwyr a theuluoedd Milwyr
  • Mae amrywiaeth o gefnogaeth a strategaethau ar gael ar gyfer teuluoedd Milwyr
  • Mwy o gydweithio gyda Barics lleol y Fyddin ac asiantaethau allanol.

 “Mae gan fy mam dair medal ac mae hi’n eu cadw ar ei iwnifform. “

 “Mae gan fy rhieni wyth medal rhyngddynt,“

 “Mae gan fy mam rai medalau hefyd.”

Dyfyniadau gan ddisgyblion am eu rhieni yn y Lluoedd Arfog.

 

Pa gysylltiadau sydd gennych chi â’r gymuned leol a chymuned y Lluoedd Arfog?

  • Mae Arglwydd Raglaw Sir Fynwy yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd
  • Rydym yn cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol a chenedlaethol y Lluoedd Arfog
  • Rydym yn gweithio gyda’r gymuned leol i ddatblygu arddangosiadau ar gyfer y pentref lleol ar thema Cofio
  • Mae ein cwricwlwm yn amlygu rolau'r gymuned leol ac o fewn hynny rolau’r Lluoedd Arfog, gan ddatblygu sgiliau dysgu gydol oes a gwybodaeth am ddiwydiannau a swyddi lleol
  • Mae’r ysgol yn cefnogi elusennau’r Lluoedd Arfog; gwnaethom godi arian yn ddiweddar tuag at ‘Help for Heroes’, a gafodd ei gynllunio a’i drefnu gan y plant wrth ymchwilio a chefnogi gwaith elusennol fel rhan o’u haddysg
  • Rydym y gweithio'n agos gyda Swyddog Cefnogi Addysg Lluoedd ei Mawrhydi dros Gasnewydd a Sir Fynwy i sicrhau fod gan yr ysgol y wybodaeth a’r gefnogaeth bersonol ddiweddaraf.

Dyddiad cynhyrchu: Ionawr 2020 

   

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan