This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Ysgolion ac Awdurdodau Lleol

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol

Sesiynau hyfforddi

Yn seiliedig ar gynnwys Pecyn Cymorth SSCE Cymru, mae sesiynau hyfforddi bellach ar gael ar gyfer ysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru

Cyllid

Mae ysgolion ledled Cymru’n bod yn rhagweithiol iawn ac yn gwneud gwaith gwych i sicrhau nad yw plant Milwyr dan anfantais yn sgil bod yn rhan o un o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog

Mae SSCE Cymru yn gefnogol iawn i lais y dysgwr a chynnwys Plant y Lluoedd Arfog mewn gweithgareddau y byddwn yn eu cynnal a’r adnoddau y byddwn yn eu datblygu. Mae yna nifer o ffyrdd y mae SSCE Cymru ac addysgwyr yng Nghymru yn elwa o ymrwymiad Plant y Lluoedd Arfog.

Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog

Tîm Ymgysylltu y Llynges Frenhinol
 

Cystadleuaeth ‘Royal British Legion 100’ CYMRU

I ddathlu ei chanmlwyddiant, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru yn cynnal cystadleuaeth canmlwyddiant greadigol, gyda’r cyfle i arddangos eich gwaith yng Ngŵyl Goffa Cymru 2021 y mis Tachwedd hwn. Gobeithiwn y bydd hyn yn gyfle gwych i roi cyfle arni, dysgu am y Lleng Brydeinig Frenhinol ac i wneud eich cyfraniad chi at ganfed flwyddyn y Lleng.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan