This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Pembroke Dock Community School – Mini Explorers

Pembroke Dock Community School – Mini Explorers

Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn Sir Benfro. Gellir disgrifio’r dalgylch yn un dan anfantais economaidd​ ac mae’n Ardal Cymunedau’n Gyntaf. Mae Ward Canolog a Llanion Doc Penfro wedi’u dosbarthu yn y safle 1af a’r 10fed safle o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Sir Benfro (gyda Llanion yn y 10% uchaf o’r mwyaf difreintiedig yng Nghymru). ​ Mae Ysgol Gymunedol Doc Penfro yn Ysgol ‘Gold Right’s Respecting School’, ac mae hawliau plant wrth wraidd popeth maent yn ei wneud. Maent yn tanategu’r addysgu a’r dysgu ac yn darparu amgylchedd sy’n paratoi’r disgyblion i fod yn ddinasyddion hyderus a hapus. Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw ‘Proud to be a community school, striving for success for all’.

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:  

Michelle Thomas - Pennaeth (Ysgol Gymunedol Doc Penfro)

Jenny Cottrell - Athrawes Ddosbarth a Chefnogwr Plant y Lluoedd Arfog (Ysgol Gymunedol Doc Penfro)

“Rwy’n hoffi pob rhan o fod yn y grwp, mae’n fy ngwneud yn hapus ac rydw i’n edrych ymlaen ato.”

Plentyn y Lluoedd Arfog - Ysgol Gymunedol Doc Penfro

“Mae bod yn y grwp bach gyda nifer o wahanol weithgareddau yn rhoi hwb i mi ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato.”

Plentyn y Lluoedd Arfog - Ysgol Gymunedol Doc Penfro

Beth yw’r fenter Archwilwyr Bychain a pham mae’n cael ei gynnal?

Cafodd y fenter Archwilwyr Bychain ei weithredu i ddarparu gofod i blant y Lluoedd Arfog gwrdd â’u cyfoedion sydd mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, er mwyn sefydlu rhwydwaith cefnogi cyfoedion (gydol oes gobeithio) ac i gynyddu grwpiau cyfeillgarwch ar draws y blynyddoedd. 

Mae’r grwp yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd, megis Ysgol y Goedwig ac Arfordir, ymweliadau addysgol a sesiynau STEM.

Mae’n ffordd wych i blant y Lluoedd Arfog adeiladu perthnasau gyda staff. Erbyn hyn mae plant y Lluoedd Arfog yn deall y gallent fynd at oedolyn diogel sy’n eu hadnabod yn dda, pryd bynnag maent eisiau cefnogaeth, cyngor neu gysur.

Yn olaf, mae’n rhoi cyfle i’r plant ymlacio, cael hwyl a mwynhau!

Sut effaith mae wedi ei gael?

Mae prosiect Archwilwyr Bychain wedi rhoi nifer o fanteision i blant y Lluoedd Arfog, gan gynnwys:

  • Datblygu eu sgiliau hunan-reoli
  • Datblygu gwytnwch
  • Synnwyr o gyflawniad
  • Cynyddu cymhelliant a chanolbwyntio
  • Gwella sgiliau datrys problemau
  • Ehangu eu geirfa a sgiliau cyfathrebu
  • Teimlo wedi’u grymuso ac ennill safbwyntiau newydd
  • Adeiladu perthnasau cadarnhaol gydag oedolion a chyfoedion. 

 

Mae’r holl fanteision hyn gyda’i gilydd yn cyfrannu tuag at gael gwell iechyd meddwl a lles cyffredinol.

O fewn y chwe mis cyntaf o’r plant yn mynychu’r grwp, mynegodd yr holl blant y Lluoedd Arfog, frwdfrydedd cryf i fynychu’r grwp, ac adroddodd pob un ohonynt fod y profiad yn un cadarnhaol.

 

“Mewn cyfnod byr o amser mae’r grwp wedi datblygu cydlyniant a synnwyr o berthyn. Mae cyfeillgarwch wedi cael ei sefydlu ar draws y grwpiau blwyddyn. Mae gan bron bob un o’r grwp frodyr neu chwiorydd sy’n mynychu gyda nhw, ac mae’r holl blant wedi dweud eu bod wrth eu boddau’n cael cyfle i rannu’r profiadau hyn gyda’i gilydd, oherwydd fel arfer ni fyddent gyda’i gilydd yn ystod y diwrnod ysgol.”

Jenny Cottrell, Cefnogwr Plant Lluoedd Arfog yr Ysgol

 

Sut fydd y cymorth yn cael ei gynnal ar gyfer plant y Lluoedd Arfog er mwyn sicrhau manteision hirdymor?

Mae staff yn Ysgol Gymunedol Doc Penfro wedi ymrwymo i hyrwyddo llais y disgybl a gwrando ar blant y Lluoedd Arfog. Roedd llais y disgybl yn allweddol i ddatblygiad y prosiect hwn a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol, fel bod gweithgareddau yn cael eu cynnal yn unol ag anghenion disgyblion.

Bydd staff hefyd yn parhau i ddarparu cyfleoedd i blant y Lluoedd Arfog ddod ynghyd mewn gofod diogel lle gallent siarad a rhannu eu pryderon.

Bydd yr ysgol yn parhau i weithio gydag SSCE Cymru i gael gwell dealltwriaeth o brofiadau ac anghenion plant y Lluoedd Arfog. Bydd y staff hefyd yn chwilio am gyfleoedd i ddathlu cyswllt unigryw plant y Lluoedd Arfog gyda’r Lluoedd Arfog trwy gydol y flwyddyn ysgol.

 

Pa feysydd o Gyfamod y Lluoedd Arfog a gefnogwyd?

Codi ymwybyddiaeth o Gyfamod y Lluoedd Arfog a’r materion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

Rhestr wirio ysgolion SSCE Cymru, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a ffyrdd i ddathlu profiadau eich plant y Lluoedd Arfog.

Dyddiad a gynhyrchwyd: Hydref 2023

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan