Cronfa Cefnogi Plant Milwyr Mewn Addysg yng Nghymru (2023/24)
Gall ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru wneud cais am £1,000 neu £5,000 ar gyfer prosiect i gefnogi plant o deuluoedd y Lluoedd Arfog ym mlwyddyn academaidd 2023/24.
- prosiectau £1,000 - ar agor i bob ysgol ac awdurdod lleol yng Nghymru.
- prosiectau £5,000 - ar agor i ysgolion sydd wedi ennill Statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru a phob awdurdod lleol.
Gellir gwneud cais am y cyllid drwy gydol y flwyddyn academaidd (1af Medi – 24ain Mai) a bydd yn cael ei adolygu bob tymor.
Cyfnodau/dyddiadau cau derbyn ceisiadau yw:
- 27 Hydref 2023*
- 5 Rhagfyr 2023*
- 9 Chwefror 2024*
- 22 Mawrth 2024*
- 24 Mai 2024*
*Dim ond hyd at y cyfnod yn dod i ben 9 Chwefror y bydd ceisiadau am brosiectau *£5,000 yn cael eu derbyn.
Bydd ceisiadau’n cael eu hadolygu o fewn 14 diwrnod o’r terfynau amser a nodir uchod.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Cwestiynau yn y cais (sampl - PDF)
Cwestiynau yn y cais (sampl - Word)
Ffurflen gais prosiect £1,000
Ffurflen gais prosiect £5,000