This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Plant y Lluoedd Arfog Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog

Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog

Mae SSCE Cymru yn gefnogol iawn i lais y dysgwr a chynnwys Plant y Lluoedd Arfog mewn gweithgareddau y byddwn yn eu cynnal a’r adnoddau y byddwn yn eu datblygu. Mae yna nifer o ffyrdd y mae SSCE Cymru ac addysgwyr yng Nghymru yn elwa o ymrwymiad Plant y Lluoedd Arfog.

“Erthygl 12 – Dylid gwrando a rhoi’r cyfle i chi gael dweud eich barn.”
CCUHP

 

Poster Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Profiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phrofiadau addysgol plant yn y Lluoedd Arfog: 60% Gwneud ffrindiau

Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu.

Beth yw nodau llysgenhadon Plant y Lluoedd Arfog?

-          Rhannu’r profiadau o fod yn blentyn y lluoedd arfog
-          Cynrychioli Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru
-          Ymrwymo gydag aelodau Rhwydwaith SSCE Cymru
-          Dathlu profiadau plant y Lluoedd Arfog gyda'r ysgol a'r gymuned leol

Beth yw’r buddion o fod yn llysgennad Plant y Lluoedd Arfog?

-          Gwneud ffrindiau newydd
-          Cwrdd â Phlant y Lluoedd Arfog eraill
-          Rhannu’r profiadau o fod yn blentyn y lluoedd arfog
-          Cael effaith ar y broses gwneud penderfyniadau
-          Cael profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol, sefydliadau/elusennau, academyddion a phobl sy’n llunio polisïau.

Sut y mae llysgennad Plant y Lluoedd Arfog yn cefnogi SSCE Cymru?

Mae yna nifer o ffyrdd y mae Plant y Lluoedd Arfog yn cefnogi gweithgareddau SSCE Cymru, yn dibynnu ar oedran a diddordebau’r plentyn/person ifanc. Mae gweithgareddau posib yn cynnwys:

Cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag aelodau o Rwydwaith SSCE Cymru, yn cynnwys:

-          Mis y Plentyn Milwrol
-          Diwrnod y Lluoedd Arfog
-          Podlediad Little Troopers

Cymryd rhan mewn cynhyrchu adnoddau SSCE Cymru fel:

-          Profiadau plant y Lluoedd Arfog
-          Arfer da
-          Gwybodaeth ar gyfer plant aelodau’r lluoedd arfog

Cefnogi’r gwaith o gynnal digwyddiadau SSCE Cymru fel:

-          Cefnogi gweminarau codi arian Plant y Lluoedd Arfog
-          Gweminarau Rhwydwaith SSCE Cymru

Cynrychioli Plant y Lluoedd Arfog mewn digwyddiadau/cyfarfodydd perthnasol fel:

-          Cynghrair SCiP Hwb Cymru
-          Cyfarfodydd Partneriaeth Awdurdod Lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn
-          Cyfarfodydd cynllun gweithredu awdurdod lleol
-          Cynhadledd ‘Thriving Lives’ SCiP Alliance.

Mae Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog gweithio gydag unrhyw lysgennad sy’n cefnogi gweithgareddau SSCE Cymru, i sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n hapus, diogel, hyderus ac wedi paratoi’n dda. 

Beth mae llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog yn ei wneud yn y gymuned leol?

Llysgenhadon iau plant y Lluoedd Arfog

-         Rhannu eu profiadau o fod yn blentyn y Lluoedd Arfog
-         Cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddathlu bod yn blentyn y Lluoedd Arfog.

Llysgenhadon hýn plant y Lluoedd Arfog

-         Arwain neu drefnu gweithgareddau i ddathlu plant y Lluoedd Arfog
-         Cynrychioli plant y Lluoedd Arfog yn eu hysgol a'r ysgolion bwydo.

Llysgenhadon arwain plant y Lluoedd Arfog

-          Cymryd rhan mewn grwp llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog cenedlaeuthol
-          Cynrychioli llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog
-          Cefnogi datblygiad cynllun llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog.

 

Pwy all fod yn Llysgennad Plant y Lluoedd Arfog?

Unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd;
1)      â chysylltiad â’r Lluoedd Arfog ac
2)      sydd ar hyn o bryd mewn addysg yng Nghymru.

Sut y mae Plentyn y Lluoedd Arfog yn dod yn llysgennad?

Gall ysgolion gysylltu â’u Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol neu  SSCECymru@wlga.gov.uk gyda’r wybodaeth ganlynol am unrhyw blentyn neu berson ifanc sydd â diddordeb bod yn llysgennad.

-          Enw’r disgybl/disgyblion
-          Grwp/grwpiau blwyddyn
-          Enw'r ysgol
-          Awdurdod Lleol
-          Cysylltiad y plentyn i’r Lluoedd Arfog (h.y. mam yn gwasanaethu  i’r RAF ar hyn o bryd)
-          Sut i gysylltu â’r llysgennad/llysgenhadon (h.y. trwy gyswllt ysgol xxxx.xxxx@ysgol.gov.uk).

Bydd y Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol yna’n gallu cysylltu â’r llysgennad newydd trwy gyswllt yr ysgol i drafod gweithgareddau y gallan nhw gymryd rhan ynddyn nhw.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan