This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog

Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog

Crynodeb

Nod Statws Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog yw:

  1. Gosod arfer da ar gyfer cefnogi planty Lluoedd Arfog
  2. Creu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog i rannu eu profiadau
  3. Annog ysgolion i ymgysylltu mwy a chymuned y Lluoedd Arfog.

Bydd y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLOs) yn gweithio'n agos gyda phob ysgol ermwyn eu cefnogi i ennill eu statws, drwy'r gweithgareddau/camau gweithredu sydd ar Restr Wirio SSCE Cymru i ysgolion.

Bydd disgwyl i ysgolion gwblhau'r tri cham canlynol drwy gydol y broses er mwyn ennill y statws:

  1. Adnabod – Penodi plant y Lluoedd Arfog ac aelod allweddol o staff i fod yn Gefnogwyr Ysgol i blant y Lluoedd Arfog
  2. Deall – Datblygu dealltwriaeth o blant y Lluoedd Arfog a’u hanghenion drwy gwblhau DPP/E-ddysgu SSCE Cymru
  3. Ymgysylltu – Ymgysylltu gyda SSCE Cymru a Chymuned y Lluoedd Arfog.

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Yr heriau sy’n wynebu ysgolion wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: 81% Ennill dealltwriaeth o ffordd o fyw y Lluoedd Arfog, 58% Adnabod plant y Lluoedd Arfog.

Statws

Gall ysgolion weithio tuag at ddyfarniad ar dair lefel, ac fe’u ceir drwy gwrdd â’r meini prawf canlynol:

Efydd

  1. Canfod 'Cefnogwr Ysgol Plant y Lluoedd Arfog' a fydd y prif gyswllt gyda SSCE Cymru. 
  2. Sicrhau bod yr aelodau perthnasol o staff yn cwblhau DPP/e-ddysgu SSCE Cymru.
  3. Sefydlu proses ar gyfer casglu data ar blant y Lluoedd Arfog.
  4. Cofrestru a Phecyn Gwaith Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP ac ymgysylltu gyda'r cynnwys.
  5. Cwblhau o leiaf 40% o'r gweithgareddau/camau gweithredu ar y rhestr wirio i ysgolion.

Arian

  1. Eisoes wedi ennill statws Efydd am fod yn Ysgol sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru.
  2. Trefnu i aelod o'r Lluoedd Arfog gynnal sesiwn gyda phlant y Lluoedd Arfog a'u cyfoedion. 
  3. Cysylltu gyda Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru i archwillio dewisiadau ar gyfer gwrando ar blant y Lluoedd Arfog.
  4. Cwblhau Pecyn Gwaith Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiPgan ddarparu hunanasesiad o gefnogaeth yr ysgol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog ym mhob un o'r 7 egwyddor, ac ymrwymo i gynnal adolygiad blynyddol. 
  5. Cwblhau o leiaf 60% o'r gweithgareddau/camau gweithredu ar y rhestr wirio i ysgolion.

Aur

  1. Eisoes wedi ennill statws Efydd ac Arian am fod yn Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru.
  2. Dathlu Mis y Plentyn Milwrol (Ebrill)
  3. Sefydlu proses ar gyfer gwrando ar blant y Lluoedd Arfog a chreu cyfleoedd iddynt i rannu eu profiadau.
  4. Gweithredu camau a nodwyd drwy Becyn Gwaith Bywydau Ffyniannus Cynghrair SCiP i ddatblygu'r statws "datblygu" neu "sefydlu" ar gyfer y 7 egwyddor. 
  5. Cwblhau o leiaf 80% o'r gweithgareddau/camau gweithredu ar y rhestr wirio i ysgolion. 

Pan fydd ysgol yn ennill statws Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog, i ddathlu eu llwyddiant a dangos eu hymroddiad i gymuned y Lluoedd Arfog, fe roddir yr eitemau canlynol iddynt:

  • Tystysgrif / tlws
  • Logo digidol Efydd/Arian/Aur Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog y gellir ei ddefnyddio ar wefan a llofnodion e-bost yr ysgol.

Gall ysgolion hefyd gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau dathlu lleol a/neu ranbarthol gyda SSCE Cymru, y Lluoedd Arfog a Chefnogwyr Lluoedd Arfog yr awdurdod lleol.

Sut i ennill Statws Ysgol Sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Cymru:

  1. Lawrlwytho'r ffurflen archwilio berthnasol
  2. Ymgyfarwyddo eich hun gyda gofynion y statws
  3. Cwblhau'r gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r statws
  4. Llenwi'r ffurflen archwilio a'i dychwelyd i SSCE Cymru

 

Lawrlwythwch ffurflen archwilio Efydd Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog yma

Lawrlwythwch ffurflen archwilio Arian Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog yma

Lawrlwythwch ffurflen archwilio Aur Ysgol Gyfeillgar y Lluoedd Arfog yma

 

Rydym yn hynod falch o ddyfarnu statws EFYDD Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru i'r ysgolion canlynol:

  • Mount Street Juniors School - Powys
  • Llantwit Major High School - Vale of Glamorgan
  • Llwynypia Primary School - Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Cwm Brombil - Neath Port Talbot
  • St Athan Primary School - Vale of Glamorgan
  • Cyfarthfa High School - Merthyr Tydfil
  • Prendergast CP School - Pembrokeshire
  • Waldo Williams Primary School - Pembrokeshire
  • Ysgol Caergeiliog - Isle of Anglesey
  • Ysgol Harri Tudur - Pembrokeshire
  • Llanfair Primary School - Vale of Glamorgan
  • Golden Grove School - Pembrokeshire
  • Pembroke Dock Community School - Pembrokeshire
  • Ysgol Y Felin - Carmarthenshire
  • Llanwern High School - Newport
  • Tyn Y Wern Primary - Caerphilly

 

Rydym yn hynod falch o ddyfarnu statws ARIAN Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru i'r ysgolion canlynol:

  • Cwmclydach Primary School - RCTCBC 

 

Rydym yn hynod falch o ddyfarnu statws AUR Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru i'r ysgolion canlynol:

  • Mount Street Infants School - Powys
  • Ysgol Pen y Bryn - Conwy
  • Haverfordwest High VC School - Sir Benfro
  • Baglan Primary School - Neath Port Talbot

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan