This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Cefnogaeth rheoli achosion

Cefnogaeth rheoli achosion

Mae rheoli achosion bellach ar gael i ysgolion sydd â phlentyn y Lluouedd Arfog unigol neu nifer fach iawn o blant Milwyr sydd yn angen penodol sy'n gysylltiedig ag effaith eu ffordd o fyw yn y Lluoedd Arfog.

Er enghraifft, oherwydd symudedd teuluoedd y Lluoedd Arfog a’r effaith academaidd, cymdeithasol ac emosiynol y gall hynny ei gael ar Blant y Lluoedd Arfog, gall materion godi sydd angen cefnogaeth a allai fod y tu hwnt i allu’r ysgol ac/ neu’r awdurdod lleol (ALl). Yn yr achosion hyn, bydd y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gweithio gyda'r ysgol a'r ALl i nodi cefnogaeth y gellid cael mynediad iddo i oresgyn rhwystr/au mae’r unigolyn neu grwpiau bychan o blant y Lluoedd yn eu wynebu.

Bydd yr RSLOs yn rheoli'r cymorth hwn – cydlynu ymyrraeth/ymyriadau, monitro'r cynnydd a mesur yr effaith gyda phob ysgol. Bydd gan RSLOs fynediad at gyllid ar gyfer rhai o'r ymyriadau hyn pan fydd angen. Yna bydd cymhorthydd rheoli achosion gan RSLOs ar gael er mwyn i ysgolion gael mynediad ar unrhyw adeg yn ystod o flwyddyn.

 

Rheoli Achosion trosolwg

Os oes gan eich ysgol blentyn unigol neu nifer fach iawn o blant milwr yrydych yn meddwl y gallai fod angen y cymorth hwn arnynt, cysylltwch â'r RSLO ar gyfer eich rhanbarth i drafod y broses rheoli achos ymhellach.

Canllawiau i ysgolion

Enghraifft o reoli achos

Plentyn y Lluoedd Arfog: Mae wedi symud yn aml, mae’n ddisgybl Saesneg fel iaith ychwanegol ac wedi ymuno â’r ysgol yn ystod y cyfnod clo. Roedd y disgybl yn hynod o swil, roedd yn anghyfforddus wrth gyfathrebu â’i gyfoedion ac athrawon, ac roedd wedi ymddieithrio rhag y mwyafrif o wersi yn yr ysgol.

Dyfarnwyd: £500

Ymyrraeth: Rhyddhau aelod o staff roedd y disgybl wedi ffurfio perthynas gadarnhaol â nhw, i ddarparu ymyriadau â’r nod o wella hyder, sgiliau cyfathrebu a lles y disgybl yn yr ysgol.

Effaith: Ar ôl sawl wythnos o gefnogaeth, roedd yn amlwg bod y disgybl yn ymgysylltu fwy â dysgu a’i gyfoedion, ac wedi meithrin hyder i gymryd rhan mewn gwers addysg gorfforol am y tro cyntaf ers dod i’r ysgol.

Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan