Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol, sy’n tynnu sylw at rôl bwysig plant milwyr yng nghymuned y Lluoedd Arfog. Mae’n gyfle i gefnogi teuluoedd y Lluoedd Arfog a’u plant oherwydd yr aberth maen nhw’n ei wneud bob dydd a’r heriau maen nhw’n eu goresgyn. Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau yn ystod y mis hwn, i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o brofiadau unigryw’r criw yma o blant a phobl ifanc, a dod yn amgylchedd sy’n derbyn y Lluoedd Arfog yn gyfeillgar.