This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Polisi preifatrwydd

Polisi preifatrwydd

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn defnyddio gwybodaeth bersonol i'n galluogi i gyflawni gwasanaethau i gefnogi plant y lluoedd arfog mewn addysg. Bwriad y gwasanaeth hwn yw darparu’r gefnogaeth addysgol orau bosibl i blant, drwy sicrhau bod gweithwyr proffesiynol addysg yn deall y materion gall plant y Lluoedd Arfog yng Nghymru eu hwynebu. Mae’r prosiect yn brosiect Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a ariannwyd i ddechrau gan Gronfa Cefnogaeth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn a’i ariannu gan Llywodraeth Cymru. Mae’r data personol sy’n cael eu prosesu fel rhan o’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

  • Ffotograffau o deuluoedd, plant a gweithwyr personél y Lluoedd Arfog
  • Darparu astudiaethau achos o brofiadau
  • Dyfyniadau gan Gymuned y Lluoedd Arfog - sefydliadau, elusennau, staff ysgol, aelodau presennol o’r Lluoedd Arfog a theuluoedd, plant, cymuned ac aelodau’r Lluoedd Arfog
  • Ffilmiau gyda thrafodaeth am brofiadau - sefydliadau, elusennau, staff ysgol, aelodau presennol o’r lluoedd arfog a theuluoedd, plant, cymuned ac aelodau’r Lluoedd Arfog
  • Lluniau a dynnwyd gan blant aelodau'r Lluoedd arfog.
  • Canlyniadau arolygon

Darperir yr wybodaeth i ni’n uniongyrchol neu drwy awdurdodau cyhoeddus eraill yn unol â’u polisi rhannu data a fydd yn cael ei gynnwys o fewn eu hysbysiadau preifatrwydd. Mae’r trydydd cenhedlaeth y DU o gyfraith diogelu data yn cymryd lle’r Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r Deddf Diogelu Data 2018 yn derbyn y safonau a goblygiadau a osodir gan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a, lle mae'r Rheoliad yn ei ganiatáu, yn rhoi darpariaethau penodol sydd yn berthnasol i’r DU. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth bersonol yn unig ar gyfer pwrpas sydd yn gyson gyda'r rheswm a ddarparwyd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r holl wybodaeth yn cael ei gadw'n unol â'r polisiau cadw Data'r CLlLC. Mae’r wybodaeth yr ydym wedi'i brosesu dan yr Atodlen (Atodlenni): Amod Erthygl 6

Cydsyniad – Art 6(1)(a)

Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer pwrpas Diddordeb Cyfreithlon gan y rheolydd data - Art 6(1)(f)

 

Gall fod adegau pan fydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i rannu wybodaeth gyda asiantaethau eraill y sector cyhoeddus. Caiff rhagor o fanylion am hyn eu hamlinellu ym mholisiau diogelu data CLlLC. 

Os hoffech copi o'r wybodaeth sydd gennym i rhannu amdanoch, cysylltwch â'r swyddog diogelu data, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, e-bostiwch dataprotection@wlga.gov.uk neu llenwch ffurflen gais ar gyfer yr unigolyn.

I weld polisi preifatrwydd llawn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cliciwch yma

 

Cyfeiriadau delwedd

http://www.defenceimagery.mod.uk/fotoweb/ 

Royal Welsh Homecoming. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2011

Soldier returning from Afghanistan. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2011

Homecoming. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2015

RN Commander welcome home. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2016

HMS Chiddingfold. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2011

RAF 100 Youth Programme. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2017

Landing craft. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2016

HMS Montrose. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2010

Chinooks. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2016

Trooping of the colour rehearsal. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2016

AS-90. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2016

HMS Dragon. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2011

HMS Queen Elizabeth. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2014

40 Commando Royal Marines Homecoming. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2014

Homecoming Scotland. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2013

Royal Navy Portsmouth. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 201

HMS Endurance. Defence Image Gallery. ©Crown Copyright 2007

 

©UK Ministry of Defence CROWN COPYRIGHT, 2019

©UK Ministry of Defence CROWN COPYRIGHT, 2018

©UK Ministry of Defence CROWN COPYRIGHT, 2018

©UK Ministry of Defence CROWN COPYRIGHT, 2018

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan