This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Digwyddiadau

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2024

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2024

29/06/2024 1/01/0001

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn  gyfle i ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.

Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r Lluoedd Arfog ac o brofiadau unigryw plant y Lluoedd.

Gweler isod am syniadau sut i:

- Dathlwch profiadau eich plant y Lluoedd Arfog

- Ymgysylltu â gymuned y Lluoedd Arfog

- Byddwch yn greadigol a dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Dilynwch @ArmedForcesDay ar Twitter a chofiwch roi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #SaliwtioEinLluoedd (#SaluteOurForces) i rannu eich gweithgareddau a dathliadau!

Dathlu profiadau plant y Lluoedd Arfog!

- Gallwch annog plant y Lluoedd Arfog i fod yn greadigol ac ysgrifennu eu straeon eu hunain am fod yn blentyn y Lluoedd Arfog.

- Rhowch gyfle i blant y Lluoedd Arfog wneud cyflwyniad am eu profiadau o fod yn rhan o deulu’r Lluoedd Arfog neu rannu lluniau, i ddangos y cyfleoedd cadarnhaol.

- Dangoswch fideos o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhannu eu profiadau, ar gael o SSCE Cymru

- Gallwch gynnal grwp trafod gyda phlant y Lluoedd Arfog i gael gwell dealltwriaeth o’u profiadau a dysgu am ffyrdd i’r ysgol ymateb i'w hanghenion, gan ddefnyddio Pecyn Adnoddau 11 SSCE Cymru.

- Cynhaliwch amser stori am brofiadau plant y Lluoedd Arfog, ffordd o fyw’r Lluoedd Arfog, bod yn ddisgybl newydd yn yr ysgol neu gydnabod gwahaniaethau yn y naill a’r llall. Gellir archebu cyfres o chwe llyfr dwyieithog Little Troopers AM DDIM gan SSCECymru@wlga.gov.uk 

- Anogwch blant y Lluoedd Arfog i fod yn greadigol a chynhyrchu darn o waith celf sy’n dangos eu teimladau a’u profiadau o fod yn rhan o deulu’r Lluoedd Arfog.

- Ar fap o’r byd, nodwch ble mae plant y Lluoedd Arfog wedi byw neu ble mae eu rhieni wedi eu hanfon i wasanaethu.

- Gwnewch Wal Parth Amser, yn cynnwys cyfres o glociau i ddangos y gwahanol barthau amser o gwmpas y byd ble mae plant y Lluoedd Arfog wedi byw neu eu rhieni/rhiant wedi gwasanaethu.

- Dangoswch fideos o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhannu eu profiadau, ar gael o SSCE Cymru.

Ymgysylltu gyda chymuned y Lluoedd Arfog!

- Dathlwch aelod o’r teulu sydd wedi gwasanaethu neu sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y Lluoedd Arfog drwy ofyn i blant y Lluoedd Arfog a’u cyfoedion rannu lluniau a medalau.

- Gofynnwch i aelod o’r Lluoedd Arfog (rhiant, brawd, chwaer neu ffrind) fod yn siaradwr gwadd a rhannu eu profiadau.

- Anfonwch gardiau diolch i ganolfan/uned/orsaf Lluoedd Arfog lleol, elusen y Lluoedd Arfog neu gartref gofal lleol neu grwp cymunedol hen filwyr.

- Gofynnwch i’ch canolfan/uned/gorsaf Lluoedd Arfog lleol gyflwyno gweithgaredd (STEM neu feithrin tîm) gyda disgyblion.

- Gweithiwch gyda’ch cysylltiadau yn y Lluoedd Arfog i gynhyrchu ffilm fer yn dangos bywyd milwr.

- Defnyddiwch Adnoddau Dysgu Diwrnod y Lluoedd Arfog i archwilio hanes y Lluoedd Arfog.

- Defnyddio Adnoddau Dysgu Cofio y Lleng Brydeinig Frenhinol i “adlewyrchu ar Wasanaeth ac aberth” a chodi ymwybyddiaeth o hanes ein cenedl.

Bod yn greadigol a dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog! 

- Defnyddio Pecyn Digwyddiad Rhithiol Diwrnod y Lluoedd Arfog i drefnu digwyddiad yn yr wythnos sy’n dechrau ar 19 Mehefin.

- Argraffu a pharatoi baneri Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan ddefnyddio’r templedi sydd ar gael, i'w hongian yn yr ysgol a’r ystafell ddosbarth.

- Defnyddio taflenni lliwio Diwrnod y Lluoedd Arfog i gynhyrchu darnau o gelf lliwgar a chyffrous i'w dangos yn yr ysgol.

- Gofynnwch i ddisgyblion ddangos eu gwerthfawrogiad drwy ysgrifennu cerdd, cân neu lythyr.

- Ymuno â’r ymgyrch cenedlaethol #SaliwtioEinLluoedd (#SaluteOurForces) drwy dynnu lluniau o’r staff a’r disgyblion yn saliwtio i gefnogi’r Lluoedd Arfog a’u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol yn defnyddio’r hashnod.

- Gallwch greu a recordio rhaglen newyddion drwy chwarae rôl ac egluro gwerth y Lluoedd Arfog.

- Cwblhewch daflenni gweithgareddau, posau a chwileiriau ar thema’r Lluoedd Arfog sydd ar gael yn Little Troopers.

- Cymryd rhan yng Nghystadleuaeth 100 y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru, i ddathlu eu canmlwyddiant drwy gystadleuaeth gair llafar a chelf ar gyfer plant a phobl ifanc.

- Dangos eich cefnogaeth yn ddigidol drwy ychwanegu logosbanerilluniau Diwrnod y Lluoedd Arfog ar waelod e-byst, baneri Twitter ac ar wefan yr ysgol.

- Gwahodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog yr Awdurdod Lleol i fynychu gweithgareddau a digwyddiadau dathlu yn ystod ac i arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.

Am wybodaeth, cyngor, manylion cyswllt neu gefnogaeth gydag unrhyw un o’r syniadau uchod, cysylltwch â’r Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol i Blant y Lluoedd Arfog yn eich ardal.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan