This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Sesiynau hyfforddi

Sesiynau hyfforddi

Yn seiliedig ar gynnwys Pecyn Cymorth SSCE Cymru, mae sesiynau hyfforddi bellach ar gael ar gyfer ysgolion a sefydliadau eraill yng Nghymru

Ysgolion

Cyflwynir y sesiwn DPP ddwy awr gan y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLOs) ar gyfer Plant Milwyr ar Microsoft Teams ar gyfer hyd at 8 o gyfranogwyr. Mae'r hyfforddiant yn addas ar gyfer nifer fach o staff allweddol o bob ysgol, a fyddai'n elwa o ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog yn fanylach.

Nodau'r sesiwn hyfforddi:

 - Codi ymwybyddiaeth o anghenion plant y Lluoedd Arfog
 - Cynyddu hyder staff wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol

Agenda:

1. Cyflwyniad i SSCE Cymru
2. Lluoedd Arfog yng Nghymru
3. Profiadau plant y Lluoedd Arfog
4. Addysg yng Nghymru
5. Data a derbyniadau i ysgolion
6. Iechyd meddwl a lles
7. Gweithgareddau allgyrsiol
8. Cyllid ar gyfer ysgolion
9. Ymchwil a thystiolaeth.

Mae'r sesiwn ddwy awr yn cynnwys llawer o gyfleoedd i drafod, adborth a chwestiynau ynghylch profiadau plant y Lluoedd Arfog a'r camau y gall yr ysgol eu cymryd i ymgorffori arfer da. A certificate will be awarded to all participants on completion of the CPD training.

Mae nifer o sesiynau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) wedi’u trefnu ar gyfer wythnos olaf pob mis. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer un o'r sesiynau, ewch i dudalen Digwyddiadau SSCE Cymru.

TYSTEBAU

“Roedd y cwrs cyfan yn wych. Feddyliais i erioed am yr effaith ar blant y lluoedd arfog felly fe agorodd y sesiwn fy llygaid.”

 “Roedd pob elfen yn fuddiol, yn enwedig y diffiniad o dermau a strwythurau milwrol i ddeall ble mae fy nheuluoedd yn yr ysgol yn ffitio i mewn i hyn a’r strategaethau sydd ar gael i gefnogi'r plant. Tynnodd fy sylw at ei bwysigrwydd.”

 “Cafodd y sesiwn ei chyflwyno'n dda iawn gan unigolyn a oedd yn amlwg yn angerddol ac yn wybodus iawn am blant y lluoedd arfog. Diolch yn fawr.”

Arolwg Ysgolion SSCE Cymru (2019).

32% o holl ysgolion yn nodi eu bod yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau i gefnogi plant milwyr gyda’u hanghenion unigryw yn ymwneud â ffordd o fyw y Lluoedd Arfog.

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Yr heriau sy’n wynebu ysgolion wrth gefnogi plant y Lluoedd Arfog: 81% Ennill dealltwriaeth o ffordd o fyw y Lluoedd Arfog.

Sefydliadau eraill

Mae SSCE Cymru yn dymuno cefnogi sefydliadau i ddeall mwy am blant y Lluoedd Arfog. Felly, rydym yn cynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi sy'n canolbwyntio ar anghenion, heriau a phrofiadau plant y Lluoedd Arfog. Cyflwynir y sesiwn hyfforddiant un awr gan y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol (RSLOs) ar gyfer Plant Milwyr ar Microsoft Teams ar gyfer hyd at 15 o gyfranogwyr. 

Mae ein sesiynau wedi'u hanelu at nifer o wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys:

- Timau addysg
- Timau lles
- Gweithwyr ieuenctid
- Rhieni a gofalwyr
- Sefydliadau'r Lluoedd Arfog
- Gwasanaethau iechyd
- Phrifysgolion.

Nod pob un o'n sesiynau yw codi ymwybyddiaeth o'r heriau y gallai plant y Lluoedd Arfog eu hwynebu oherwydd effaith ffordd o fyw'r Lluoedd Arfog. Nod SSCE Cymru yw lliniaru'r heriau hyn drwy rannu gwybodaeth, profiadau ac arweiniad.

Erbyn diwedd y sesiynau hyn, dylai cyfranogwyr deimlo'n fwy hyderus wrth nodi anghenion plant y Lluoedd Arfog a'u cefnogi gyda heriau y gallent eu hwynebu mewn addysg.

Os ydych chi awydd archebu sesiwn hyfforddiant rhithiol am ddim ar gyfer eich sefydliad, yna llenwch y ffurflen isod. Os ydych chi’n gweithio mewn sector sydd heb ei restru uchod a’ch bod eisiau trefnu sesiwn hyfforddiant, anfonwch e-bost atom SSCECymru@wlga.gov.uk er mwyn i ni addasu ein cefnogaeth i fodloni gofynion eich sefydliad.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan