This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Ymchwil

Ymchwil

Dystiolaeth SSCE Cymru

Yn 2019/20 bydd SSCE Cymru yn cynnal amrywiol weithgareddau er mwyn deall anghenion plant aelodau’r Lluoedd Arfog a darganfod, o’r gefnogaeth a gawsant, beth oedd fwyaf llwyddiannus.

Adroddiad ar anghenion dysgu ychwanegol plant aelodau’r lluoedd arfog

Wedi’i gomisiynu gan SSCE Cymru a’i gynnal gan Brifysgol De Cymru ac Arad Research, mae ymchwil newydd yn archwilio’r  heriau sy’n bodoli o ran adnabod ac asesu anghenion a sicrhau cymorth ar gyfer plant aelodau’r Lluoedd Arfog sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru.  Mae hefyd yn edrych ar effaith bosibl y Cod Ymarfer ADY yng Nghymru newydd.

Lansiwyd yr adroddiad yn swyddogol gan Alun Davies, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus,  yng Nghynhadledd SSCE Cymru ym mis Mehefin 2018.

Gwybodaeth am Gynghrair Cynnydd Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog (SCiP)

Mae SSCE Cymru yn aelod o grŵp ymarfer y Gynghrair SCiP ac yn cymryd rhan yn ei gweithgareddau.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan