This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ymchwil

Dystiolaeth SSCE Cymru

Yn 2019/20 bydd SSCE Cymru yn cynnal amrywiol weithgareddau er mwyn deall anghenion plant aelodau’r Lluoedd Arfog a darganfod, o’r gefnogaeth a gawsant, beth oedd fwyaf llwyddiannus.

Mae safbwyntiau ysgolion, rhieni/gofalwyr a phlant aelodau’r Lluoedd Arfog yn hollbwysig o ran cynnal a chynllunio Pecynnau Cymorth  ac adnoddau newydd yn ogystal â chyfrannu tystiolaeth er mwyn gwneud newidiadau i bolisïau a systemau.

Arolwg Ysgolion

Yn 2019,  gwahoddodd SSCE Cymru bob ysgol yng Nghymru  sydd â disgyblion sy’n blant i aelodau’r Lluoedd Arfog i gymryd rhan mewn arolwg.  Roedd y pynciau’n cynnwys:

  • Gwybodaeth am yr ysgol – e.e. nifer y disgyblion sy’n blant i aelodau’r Lluoedd Arfog, iaith yr ysgol, lleoliad
  • Data mynd a dod –  faint o blant y Lluoedd Arfog wnaeth ymuno â, a gadael yr ysgol
  • Heriau – y rhai hynny y mae plant yn eu hwynebu mewn addysg a’r rhai mae’r ysgol yn eu hwynebu o ran eu cefnogi
  • Cefnogaeth - y mae’r ysgolion yn ei chynnig i blant aelodau’r Lluoedd Arfog, yn cynnwys cymorth gydag iechyd meddwl a lles, a sut y mae ysgolion yn cydweithio yn hyn o beth
  • Cyllid – y mae ysgolion yn cael mynediad iddo ac ar gyfer beth y mae’n cael ei ddefnyddio
  • Cymuned y Lluoedd Arfog – a sut y mae ysgolion yn ymgysylltu
  • Adnoddau SSCE Cymru –  i ddysgu beth fyddai ysgolion yn ei weld yn fanteisiol i’w helpu nhw i gefnogi disgyblion sydd o deuluoedd Lluoedd Arfog
  • Hyfforddiant SSCE Cymru –  darganfod pa fath o hyfforddiant y byddai ysgolion yn hoffi ei gael, ac ar gyfer pwy.
  • Lawrlwythwch y dadansoddiad o gasgliadau’r arolwg llawn  yma.

Lawrlwythwch y dadansoddiad o gasgliadau’r arolwg llawn

Gwrando ar Blant Aelodau’r Lluoedd Arfog

Yn 2019/20, cynhaliodd SSCE Cymru nifer o grwpiau trafod mewn ysgolion yng Nghymru, i glywed gan blant gwasanaeth am eu profiadau o addysg yng Nghymru.

Bydd y casgliadau hyn yn bwydo i mewn i brosiect Blwyddyn Llais Plant y Lluoedd Arfog sy’n cael ei redeg gan Gynghrair Cynnydd Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog (SCiP Alliance).

Lawrlwythwch dadansoddiad o ganfyddiadau'r prosiect 

 

Arolwg Rhieni/Gofalwyr

Yn 2020, cynhaliodd SSCE Cymru arolwg gyda rhieni/gofalwyr plant gwasanaeth. Roedd yn rhoi’r cyfle iddynt rannu eu profiadau am fyw yn / symud i Gymru, yr effaith mae eu ffordd o fyw yn ei gael ar addysg eu plant a’r gefnogaeth maent wedi ei chael gan ysgolion.

Lawrlwythwch y dadansoddiad o gasgliadau’r arolwg llawn

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan