This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion ac Awdurdodau Lleol Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog

Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog

Tîm Ymgysylltu y Llynges Frenhinol

Ystod oedran:

Iaith y sesiwn:

Lleoliad

Sesiynau “Ar goll” - un ai yn y môr, paith neu fynyddoedd oer.  Darperir straeon, fideos a phrofiadau byw, yna i ddilyn bydd sesiwn ryngweithiol lle mae angen i ddisgyblion restru offer goroesi mewn trefn. (Pwyntiau os ydynt yn agos at y rhestr goroesi arbenigwyr).

 

Arolwg rhiant/gofalwr Gwasanaeth (2020).

Profiadau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phrofiadau addysgol plant yn y Lluoedd Arfog: 39% Bod yn rhan o gymuned y Lluoedd Arfog 34% Cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.

Tîm Ymgysylltu’r Fyddin

 

Cynulleidfa: Ysgolion uwchradd, lleoliadau Addysg Bellach

Lleoliad: Cymru Gyfan

Fformat: Wyneb yn wyneb neu'n rhithwir

Hyd y sesiwn: 40 munud i ddwy awr

Iaith cyflwyno: Saesneg yn unig

 

Gall Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol y Fyddin Brydeinig gyflwyno sesiynau wedi'u teilwra gan gynnwys gwersi diddordeb milwrol, sesiynau sgiliau bywyd a gweithgareddau STEM.

Yr amcan allweddol yw ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru gyda gweithgareddau hwyliog sy'n seiliedig ar rai o'r elfennau allweddol o fod yn filwr proffesiynol: arweinyddiaeth, cyfathrebu a gwaith tîm. Gellir cyflwyno'r gweithgareddau mewn ystafell ddosbarth, neuadd chwaraeon neu leoliad awyr agored ac fe'u cynlluniwyd i gael pobl ifanc i siarad â'i gilydd a gweithio i ether i gyflawni nod cyffredin.

 

Gall y tîm hefyd alw ar arbenigwyr fel peirianwyr, cerddorion neu gogyddion i gyflwyno dosbarthiadau meistr masnach.

Tîm Ymgysylltu’r Awyrlu Brenhinol

 

Cynulleidfa: Ysgolion uwchradd, lleoliadau Addysg Bellach

Lleoliad: Cymru Gyfan

Fformat: Wyneb yn wyneb neu'n rhithwir

Hyd y sesiwn: 40 munud i ddwy awr

Iaith cyflwyno: Saesneg yn unig

 

STEM

Sesiynau STEM hwyliog rhyngweithiol i bobl ifanc rhwng 9 a 14 oed. Cyfleoedd i gymryd rhan mewn rhaglen genedlaethol yr Awyrlu a gyflwynir mewn safleoedd allweddol,  cystadlu mewn cystadlaethau a noddir gan yr RAF, a sesiynau cais yn cael eu cyflwyno yn eich ysgol. Mae gweithgareddau STEM yn wahanol i recriwtio ac yn cael eu darparu heb unrhyw gost.

Mae'r cwricwlwm y gellir ei lawrlwytho am ddim sydd wedi'i fapio adnoddau STEM ar gael o wefan yr RAF, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

Https://rafyouthstem.org.uk

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm yn rafyouthengagement@gmail.com

 

Ymgysylltu â Gyrfaoedd

Sesiynau allgymorth a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer 14+ oed gan gynnwys cyfleoedd gweithio fel tîm a datblygiad personol gyda phwyslais ar friffiau gyrfa a deall cyfleoedd o fewn yr RAF.

Mae sesiynau cymunedol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi codi'r gwastad, chwalu rhwystrau ac ysbrydoli pobl ifanc 14+ oed.

Am fwy o wybodaeth neu i ofyn am sesiwn cysylltwch â: CRN-careersengagewales@mod.gov.uk

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan