This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Am SSCE Cymru

Beth yw SSCE Cymru

Cenhadaeth SSCE Cymru

Gwybodaeth a thystiolaeth

Cydgysylltu gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth ar brofiadau plant sy'n gwasanaethu yn maes addysg i sicrhau bod dealltwriaeth dda o'u hanghenion.

Gweithgareddau ac adnoddau

Cydweithio ag aelodau rhwydwaith SSCE Cymru i gynnal gweithgareddau a chynhyrchu adnoddau a fydd yn helpu i gefnogi plant y lluoedd ar hyd eu haddysg.

Polisi a Systemau Ategol

Gweithio gyda sefydliadau i roi tystiolaeth ac effaith polisi sy'n berthnasol i gefnogi plant mewn addysg.

Hanes SSCE Cymru

Rhaglen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw Cefnogi Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog Mewn Addysg yng Nghymru (SSCE Cymru) a ariannwyd i ddechrau o Gronfa Cefnogi Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) ond a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019.

Ers i’r rhaglen ddechrau yn 2014, mae SSCE Cymru wedi gweithio gydag ysgolion, plant a phobl ifanc, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, gweithwyr addysg proffesiynol, teuluoedd y Lluoedd Arfog a sefydliadau cefnogi i gasglu eu safbwyntiau a’u profiadau, i adeiladu rhwydweithiau ar draws Cymru ac i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o brofiadau plant personél y Lluoedd Arfog. Mae SSCE Cymru wedi datblygu arweiniad ac adnoddau digidol ar gyfer ysgolion a theuluoedd, wedi cynnal cynadleddau a diwrnodau rhanddeiliaid ac wedi comisiynu ymchwil er mwyn deall yn well anghenion plant y Lluoedd Arfog mewn addysg.

Taflen SSCE Cymru

Poster SSCE Cymru

Diffiniad o Blant Milwr

Diffiniad Llywodraeth Cymru o blentyn Milwr

Mae gan ‘blentyn milwr’ riant (rhieni) - neu berson(au) sy’n ymarfer cyfrifoldeb rhiant – sy’n bersonél i Wasanaethau’r Lluoedd Arfog:

  • Yn Lluoedd Arfog Rheolaidd  EM
  • Wedi ymrwymo’n llawn fel rhan o'r gwasanaeth Wrth Gefn amser llawn
  • Yn gyn-filwr sydd wedi bod mewn gwasanaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf
  • Bu farw un o'u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae'r disgybl yn derbyn pensiwn o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu'r Cynllun Pensiynau Rhyfel.

Mae SSCE Cymru hefyd yn annog ysgolion a lleoliadau addysg i ystyried nodi a chefnogi plant y Gwasanaethau sydd tu allan i'r diffiniad hwn drwy barhau i gael gafael ar yr adnoddau niferus sydd ar gael ar wefan SSCE Cymru a thrwy Rwydwaith SSCE Cymru.

Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan.

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan