Mis y Plentyn Milwrol 2024
1/04/2024
30/04/2024
Mae Ebrill wedi ei ddynodi fel Mis y Plentyn Milwrol, sy'n tynnu sylw at y rôl bwysig mae plant Milwyr yn ei chwarae yng nghymuned y Lluoedd Arfog. Mae'n amser i gymeradwyo teuluoedd y Lluoedd Arfog a'u plant am yr aberthau dyddiol y maent yn eu gwneud a'r heriau y maent yn eu goresgyn.
Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i wneud gweithgareddau yn ystod y mis hwn i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r profiadau unigryw sydd gan y grwp hwn o blant a phobl ifanc a dod yn amgylchedd mwy cyfeillgar i'r Lluoedd Arfog.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth