This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

SSCE Cymru Digwyddiadau rhwydwaith sydd ar ddod

Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn 2021

23/06/2021 1/01/0001

Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser hamdden i wasanaethu yn y Lluoedd wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd dinesig gyda gyrfa filwrol er mwyn sicrhau y byddant yn barod i wasanaethu fel rhan o'r lluoedd arfog os bydd eu hangen ar eu gwlad.

Yn aml ni roddir cydnabyddiaeth i gyfraniad y Milwyr Wrth Gefn i’n Lluoedd Arfog.  Felly crëwyd Diwrnod y Milwyr wrth Gefn sy’n cael ei ddathlu bob blwyddyn i amlygu a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr mae Milwyr wrth Gefn yn ei wneud i'n Lluoedd Arfog.

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021

26/06/2021 1/01/0001

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn  gyfle i ddangos cefnogaeth i’r dynion a’r merched sy’n aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog: o swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid.

Hoffai SSCE Cymru annog lleoliadau addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r Lluoedd Arfog ac o brofiadau unigryw plant y Lluoedd.

Pen-blwydd Llu Darllen yn 10 oed

22/06/2021 1/01/0001
 
  •  
  •  
  •  

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan