This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Uwchradd

Ysgol Uwchradd Crucywel (Powys) - Cefnogi anghenion iechyd meddwl a lles plant y Lluoedd Arfog

Ysgol Uwchradd Crucywel (Powys) - Cefnogi anghenion iechyd meddwl a lles plant y Lluoedd Arfog

Lleolir Ysgol Uwchradd Crucywel gerllaw safleoedd y Lluoedd Arfog yng Nghwrt y Gollen – canolfan addysg awyr agored y Llu Awyr, Tîm Recriwtio’r Fyddin, Cadetiaid Powys a Gwent, cartref y 160fed Brigâd (Cymreig) a Phencadlys Cymru, yr Ysgol Frwydro i Droedfilwyr ac ardal Hyfforddiant Pontsenni. Mae rhai o’r plant yn byw yn y dalgylch ac mae eu rhieni yn cymudo yn ystod yr wythnos, mae hyn yn cynnig sefydlogrwydd yn eu haddysg iddyn nhw a’u brodyr a’u chwiorydd.

Mae Ysgol Uwchradd Crucywel wedi datblygu adran iechyd meddwl a lles yn eu hysgol, sy’n cefnogi'r holl blant ac yn ddiweddar, drwy Gronfa Gefnogi Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn, rydym wedi penodi Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (CCD), sydd yno’n benodol i gefnogi plant Milwyr ar draws yr ysgol gyda’u hanghenion emosiynol. Mae'n galluogi’r ysgol i weithio ar ran Plant Milwyr, mewn partneriaeth gyda chyrff allanol.

 Nifer o blant Milwyr yn Ysgol Uwchradd Crucywel: 54 (6%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Karen Martin, Swyddog Cefnogi Teuluoedd y Lluoedd Arfog (FFS0)

Estyn 2018

 “Mae’r gefnogaeth a’r gofal a ddarperir gan dîm bugeiliol ymroddedig ac effeithiol iawn yn galluogi’r rhan fwyaf o ddisgyblion i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i wneud cynnydd da gyda'u dysgu. Mae’r ysgol yn gweithio’n effeithiol iawn gydag asiantaethau allanol, gan gynnwys y swyddog heddlu cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau profedigaeth.”

 

Pa brofiadau cadarnhaol mae plant milwyr yn eu cynnig i Ysgol Uwchradd Crucywel?

  • Mae ganddynt gyd-ddealltwriaeth o fywyd Milwrol
  • Maent wedi cael gwahanol brofiadau o fyw mewn gwledydd a mannau eraill o amgylch y DU, gan werthfawrogi a dysgu am wahanol ddiwylliannau
  • Maent yn gallu datblygu cyfeillgarwch newydd yn rhwydd
  • Maent yn cael cyfleoedd i gael mynediad at weithgareddau chwaraeon a allai fod yn amhosibl mewn bywyd sifil drwy weithgareddau a digwyddiadau'r Lluoedd Arfog
  • Maent yn cofleidio ffordd o fyw'r Lluoedd Arfog drwy sôn am, a rhannu, eu profiadau gyda chyfoedion ac athrawon; maent yn rhannu profiadau, heriau a rhwystrau y gallent eu hwynebu. 

Pa heriau mae plant Milwyr yn eu hwynebu yn Ysgol Uwchradd Crucywel?

  • Gwahanu oddi wrth y rhiant sydd yn y fyddin, pan maent yn cymudo i’w gwaith am gyfnodau hirach
  • Cyfnodau o addasu i blant Milwyr pan mae rhiant yn mynd ar leoliad, sy’n digwydd eto pan fo rhieni yn dychwelyd adref. Gall hyn achosi problemau i’r myfyriwr ac mae sefydlogrwydd yr ysgol yn dod yn fan diogel iddynt. Gall plant Milwyr brofi poen a phryder drwy gydol cyfnod lleoliad eu rhieni a gall hyn effeithio ar eu lles a’u hymddygiad cyffredinol.
  • Mae llawer o blant milwyr yn sôn eu bod yn adnabod unigolion sydd wedi eu hanafu yn sgil bod mewn ardal lle mae gwrthdaro ac mae hyn yn gwneud iddynt boeni
  • Mae rhai myfyrwyr yn crybwyll effeithiau cael eu lleol ar eu rhieni a'r ymdeimlad o dristwch iddyn nhw
  • Mae gwersi Cymraeg yn hanfodol ac mae rhai plant yn ei chael yn anodd dysgu pethau newydd, gan fod posibilrwydd nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o siarad Cymraeg
  • Gall ffurfio grwpiau cyfeillgarwch newydd fod yn broblem i rai plant Milwyr, gan eu gadael yn agored i ymddygiad peryglus i ‘ffitio i mewn’ i grwpiau cyfoedion
  • Gall fod yna fylchau mewn addysg gyda gwahanol gwricwla ar ôl symud
  • Gall dal i fyny, neu ail-wneud gwaith sydd wedi cael sylw mewn ysgol flaenorol fod yn bwysau ychwanegol
  • Os na dderbynnir gwybodaeth gan ysgol flaenorol mewn modd amserol, gall effeithio ar gofrestriad plant Milwyr i’r ysgol a chefnogaeth ar unwaith ar gyfer anghenion ychwanegol
  • Sicrhau bod gwybodaeth o ysgol flaenorol yn cael ei rhannu'n effeithiol ymhlith staff
  • Cael mynediad prydlon at wasanaethau fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), a throsglwyddo cefnogaeth ddigonol drwy wahanol systemau / protocolau
  • Caffael gwybodaeth a chael mynediad at wasanaethau perthnasol i ddiddordebau a hobïau plant Milwyr pan maent wedi cyrraedd yr ardal.

Sut mae Ysgol Uwchradd Crucywel yn cefnogi anghenion iechyd meddwl a lles plant Milwyr?

  1. Nodi anghenion plant Milwyr
  2. Hunangyfeirio am gefnogaeth
  3. Strategaethau sydd ar gael
  4. Staff yr ysgol a hyfforddiant
  5. Ymgysylltu gydag asiantaethau allanol

1. Sut mae Ysgol Uwchradd Crucywel yn nodi anghenion plant Milwyr?

  • Rydym yn dechrau gyda chyfarfod personol wyneb yn wyneb gyda holl blant Milwyr i ddatblygu perthynas fel eu bod yn teimlo’n gartrefol i drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt
  • Rydym yn cysylltu gyda rhieni, sy’n mynegi pryder neu sy’n nodi cefnogaeth flaenorol a roddwyd, sydd yna’n arwain at fonitro’r plentyn hwnnw a chael mynediad priodol o fewn yr ysgol
  • Mae ffrindiau ysgol plant Milwyr wedi cysylltu â ni i drafod pryderon am eu ffrind
  • Mae gan Arweinwyr Cynnydd a Thiwtoriaid Dosbarth rôl bwysig iawn wrth nodi unrhyw heriau y gallai'r plentyn fod yn eu hwynebu, byddant yn cysylltu, ac yn trafod unrhyw bryderon gyda'r FFSO, ac rydym yn gweithio gyda'r plentyn a'r teulu i ddod o hyd i ddatrysiad
  • Rydym yn cwblhau Astudiaethau Achos ar bob plentyn gyda gwybodaeth berthnasol i'w cefnogi i nodi anghenion.

Beth sydd wedi’i gyflwyno ers dechrau yn fy rôl fel FFSO...

  • Rwy’n nodi plant Milwyr sydd ar y gofrestr yn y lle cyntaf, drwy gyfarfodydd anffurfiol gyda’r plentyn a’u teulu
  • Rwy’n gweithio gyda’r Rheolwr Pontio yn yr Ysgol Uwchradd ac yn cysylltu ag ysgolion bwydo i nodi plant Milwyr ym Mlwyddyn Chwech sy’n pontio i’r ysgol
  • Rydym wedi datblygu gwaith ar y cyd gyda Gwasanaeth Lles y Fyddin (AWS), i ddatblygu clwb ar gyfer myfyrwyr y Lluoedd Arfog a rhai sifil. Hoffem annog y myfyrwyr i gymryd rhan ac integreiddio, gan ein galluogi i nodi eu hanghenion, gan gynnwys brodyr a chwiorydd o ysgolion Cynradd
  • Mae gennym fyfyrwyr wedi eu henwebu o bob grwp blwyddyn, i fod yn llefarwyr gan ddefnyddio gweithgareddau ‘Llais y disgybl’.  Bydd hyn yn ein galluogi i nodi eu hanghenion a llunio’r hyn yr hoffent i’w clwb a digwyddiadau ysgol eu cynnig
  • Mae cyfleoedd i rieni gysylltu, a thrafod anghenion eu plentyn, gyda mi ac unrhyw faterion yn y cartref
  • Rydym yn defnyddio system, Go for Schools, i fonitro data’r ysgol – o ran ymddygiad, perfformiad a chynnydd
  • Rwy’n cysylltu’n rheolaidd â thiwtoriaid dosbarth a staff addysgu ar draws yr ysgol ynghylch unrhyw bryderon gyda phlant Milwyr
  • Yn yr ysgol, rydym yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i blant Milwyr, gan ymestyn eu gwybodaeth a’u profiadau e.e. teithiau dydd Addysgol, siaradwyr sy’n ysbrydoli, Gweithdai Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a ddarperir gan swyddogion a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog.

Estyn 2018

 “Mae perthnasoedd cryf yn galluogi disgyblion i fynd at amrywiaeth eang o staff yn llawn hyder, yn arbennig aelodau o’r tîm lles os oes angen cefnogaeth arnynt. O ganlyniad, wrth i ddisgyblion ddatblygu drwy’r ysgol, maent yn tyfu o ran aeddfedrwydd a hyder.”

 

2. Sut mae plant Milwyr yn Ysgol Uwchradd Crucywel yn hunanatgyfeirio?

  • Mae gan yr ysgol bolisi drws agored i'r holl fyfyrwyr yn y Swyddfa Fugeiliol lle mae Swyddog Gwasanaeth Teuluoedd Milwyr, Swyddog Lles ac Arweinydd Cynnydd ar gael
  • Gallan nhw anfon neges i gyfeiriad e-bost penodol i gael cymorth lles
  • Man mynediad ganddynt at flwch post diogel yn yr ysgol, lle gallant bostio nodiadau yn gofyn am gefnogaeth a chyngor
  • Gall y plant drafod materion sy’n destun pryder iddynt gyda staff a mentoriaid chweched dosbarth, sydd wedi cael hyfforddiant penodol mewn cefnogaeth iechyd meddwl a lles
  • Mae mynediad annibynnol, cyfrinachol ar gyfer yr holl blant at Gynghorydd Ysgol am gyngor a chymorth.

Estyn 2018

"Mae’r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol a gynlluniwyd yn ofalus yn effeithiol iawn o ran cefnogi lles disgyblion ac wrth ddatblygu eu sgiliau personol a chymdeithasol.”

 

3.    Pa strategaethau a chefnogaeth sydd ar gael yn Ysgol Uwchradd Crucywel unwaith y caiff angen ei gydnabod?

  • Wrth dderbyn disgyblion i’r ysgol, trafodir cefnogaeth, gan gynnwys taith o amgylch yr ysgol a chwrdd ag aelodau staff allweddol
  • Mae cyfleuster galw heibio ar gael bob dydd yn y Swyddfa Fugeiliol i siarad ag un o’r staff
  • Fel yr FFSO, rwy’n egluro fy rôl i deuluoedd Milwyr newydd; gwerthfawrogir fy ngwybodaeth am fywyd Milwrol ac maent felly’n fwy agored gyda’u heriau unigryw
  • Mae gennym bolisi drws agored; mae hwn wedi’i hysbysebu’n dda i’r holl blant ac maent yn manteisio ar y gwasanaeth hwn
  • Mae gennym grwp/ Clwb cymdeithasol anffurfiol, mae plant Milwyr yn ymgysylltu ag eraill sydd â ffordd o fyw debyg. Mae’n cynnig cyfleoedd iddynt gyfnewid eu barn ar eu ffordd o fyw, gan ganiatáu syniadau ac hyd yn oed cefnogaeth os oes angen. Mae hwn ar agor i fyfyrwyr nad ydynt yn blant i Filwyr  sy’n dymuno cefnogi eu cyfoedion a deall y rhwystrau maent yn eu hwynebu
  • Mae staff yn defnyddio’r hyfforddiant a gawsant i benderfynu ar y dull gorau i'w ddefnyddio gyda'u plentyn gan ddibynnu ar eu hangen
  • Rydym yn sefydlu perthynas gyda’r plant Milwyr i helpu nodi a’u cyfeirio at weithgareddau a diddordebau sydd ar gael yn yr ardal ac sy’n cael eu darparu gan yr ysgol  Rydym yn hyrwyddo grwpiau cymunedol lleol a gwasanaethau sydd ar gael i'r Lluoedd Arfog.

Estyn 2018

 “Mae llawer o’r staff yn gweithio’n rhanbarthol ac yn genedlaethol gan ganolbwyntio ar rannu strategaethau gwell ysgol effeithiol Roedd hyn yn fuddiol wrth wella darpariaeth yr ysgol ei hun, yn ogystal â chefnogi gwaith ysgolion eraill. Er enghraifft, mae rhan yr ysgol mewn rhaglen gefnogi iechyd meddwl genedlaethol yn cyfrannu’n dda at y ddarpariaeth gofal, cefnogaeth a chanllawiau.”

 

4.    Pa hyfforddiant sydd yn ei le gan Ysgol Uwchradd Crucywel ar gyfer staff?

  • Mae’r ysgol yn ysgol beilot ‘Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru’
  • Mae’r holl staff yn ymwybodol o Brofiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod ac rydym yn ysgol sy’n ymwybodol o drawma
  • Mae’r ysgol yn ‘Ysgol arloesi’ ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru newydd, gan sicrhau ein bod yn ymgorffori addysg iechyd meddwl a lles ar draws y cwricwlwm
  • Mae nifer o staff wedi eu hyfforddi mewn ‘Ymarferion Adferol’ ac yn cefnogi iachau perthnasoedd rhwng oedolion a phlant neu rhwng plant a phlant. Mae Arweinwyr Cynnydd ym mhob grwp blwyddyn yn ymwneud â hyn; gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o sefyllfaoedd wrth iddynt godi
  • Mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar
  • Mae rhai staff wedi eu hyfforddi i gefnogi Dioddefwyr cam-drin domestig
  • Mae rhai staff wedi’u hyfforddi mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Rydym yn annog myfyrwyr i gwblhau ‘milltir o daith gerdded’ yn rheolaidd yn ystod cofrestru boreol; mae hyn yn cefnogi iechyd meddwl a lles ar gyfer yr holl blant a staff
  • Rydym yn defnyddio ymchwil ac adnoddau personol ar gyfer strategaethau i gefnogi ac ymateb i feddyliau ynglyn â hunan-niwed.

5. Gyda phwy mae Ysgol Uwchradd Crucywel yn ymgysylltu’n allanol i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion?

  • Rydym yn ymgysylltu gyda Swyddog Cyswllt Ysgol yr Heddlu am hyfforddiant camddefnyddio sylweddau a sgyrsiau rhyngweithiol gyda phlant
  • Rydym yn cyfeirio plant a rhieni at asiantaethau cymorth perthnasol e.e. Y Gwasanaeth Ieuenctid, y Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid, Xenzone, Calon DVS, Cais, Gyrfa Cymru, AWS a Llu Cadetiaid y Fyddin
  • Rydym yn paratoi astudiaeth achos o’n gwaith mewn perthynas â’n cefnogaeth i iechyd meddwl a lles disgyblion, i’w lledaenu ar wefan Estyn
  • Rydym yn mynychu ac yn trefnu cyfarfodydd amlasiantaeth i nodi anghenion a chefnogaeth.

Enghreifftiau o effeithiau...

  • Cysylltodd rhiant â’r FFSO i drafod problemau sydd gan ei mab, sy’n cael ei drin am Anhwylder Straen Wedi Trawma Eilaidd. Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yr FFSO â’r rhiant, i oruchwylio ei les. Mae hi wedi cael cyswllt ag athrawon i sicrhau fod y plentyn yn cael ei gefnogi gydag unrhyw addysg y mae’n ei golli, pan nad yw’n mynychu’r ysgol oherwydd ei salwch. Mae’r gefnogaeth hon wedi ei chyflwyno i sicrhau nad oes unrhyw bwysau gormodol yn cael ei roi arno yn sgil colli addysg. Mae'r FFSO hefyd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol ar gyfer unrhyw archwiliadau fydd gan y plentyn ac maent wedi trefnu i gynnal asesiadau priodol, fel fod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith. Darperir cwnsela ychwanegol hefyd.
  • Drwy drafodaeth wyneb yn wyneb, tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r plentyn hwn yn symud i ysgol arall ac yn dangos arwyddion o bryder oherwydd hyn. Cysylltodd yr FFSO â’r rhiant ac mae wedi cynnig cefnogaeth drwy gysylltu â’r ysgol dderbyn a gweithio gyda nhw i ddatblygu cynllun pontio.

 

Dyddiad cynhyrchu: Ionawr 2020  

Ysgolion Uwchradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan