This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Uwchradd

Ysgol Uwchradd Aberhonddu (Powys) - Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Ysgol Uwchradd Aberhonddu (Powys) - Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi ei lleoli yn Aberhonddu, cartref Brigâd 160 (Cymreig) a phencadlys Cymru, gwersyll hyfforddi Pontsenni a Dering Lines. Yn ddiweddar mae’r ysgol wedi symud i safle newydd wedi’i adeiladu’n benodol. Mae teuluoedd milwyr yn yr ysgol sy’n symud (ychydig ar y tro) ar draws yr ysgol, ac mae rhai teuluoedd cyn –filwyr a milwyr wrth gefn.

Mae rhai teuluoedd o Nepal ac mae catrawd Gyrcas yn lleol, penderfynodd rhai teuluoedd ymddeol a setlo yn yr ardal. Mae rhai plant yn yr ysgol sy’n siarad Almaeneg, sydd wedi symud yn ôl i’r DU o Luoedd Prydeinig yr Almaen ar ôl y gostyngiad yn y gwasanaeth yno.  Yn bennaf mae bod ar wahân o ganlyniad i rieni yn teithio i’w gweithle, a’r teuluoedd yn aros wedi setlo yn ardal Aberhonddu. Mae rhai adleoliadau gweithredol drwy deithiau neu weithrediadau, a rhai rhieni yn gweithio am gyfnodau byrion yng Nghanada.

Mae plant milwyr yn dod â phrofiadau gwahanol o fyw dramor mewn gwahanol leoliadau, maent wedi astudio ieithoedd gwahanol a phrofi gwahanol brofiadau, ac mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn dathlu diwylliant y Gyrca ac yn cofleidio’u traddodiadau.

Nifer y Plant Milwyr yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu: 35 (7%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Leah Burnett, Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog (FFSO)

Estyn 2018

“Mae agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu datblygu yn dda gan yr ysgol. Mae disgyblion sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol yn elwa o gymorth athro arbenigol yn ogystal â chynorthwywyr addysgu ac yn gwneud cynnydd da o ganlyniad i hynny. Yn ogystal, mae’r cysylltiad sefydledig gyda’r gymuned Gyrca leol yn galluogi disgyblion i ddeall a gwerthfawrogi traddodiadau a dathliadau’r teuluoedd hyn. Mae plant milwyr a theuluoedd milwrol yn elwa o waith Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog, sy’n golygu bod trosglwyddiadau’n mynd yn llyfn pan fydd disgyblion yn ymuno ac yn symud ymlaen o ysgolion, yn ogystal â chefnogi lles cyffredinol y disgyblion hyn.”

Pa brofiadau sydd gan blant Milwyr?

  • Maent yn poeni am beidio gallu treulio llawer o amser gyda’r rhiant sydd yn y lluoedd, a methu adeiladu perthynas gyda nhw 
  • Maent yn treulio mwy o’u hamser gyda’r rhiant sydd ddim yn y lluoedd, pan fydd y rhiant sy’n y Lluoedd i ffwrdd.
  • Maent yn gwneud llawer o weithgareddau gyda thîm ymgysylltu’r Fyddin
  • Mae rhai yn ei chael hi’n anodd symud i ffwrdd o’r ardal ac i ffwrdd oddi wrth ffrindiau
  • Mae rhai yn gyffrous am symud i dy newydd
  • Pan fydd plant yn newydd i’r ysgol, mae pobl eisiau siarad gyda nhw er mwyn darganfod mwy amdanynt, ond mae rhai plant eisiau setlo yn eu ffordd eu hunain
  • Gall yr addysgu a’r pynciau fod yn wahanol iawn pan fyddant yn symud ysgol
  • Mae ganddynt rwydwaith ehangach o ffrindiau
  • Weithiau mae rhai’n ei chael hi’n anodd rheoli sefyllfaoedd newydd ar eu pennau eu hunain ac mae angen help arnynt.
  • Mae llawer yn setlo mewn un lle ac yna’n gorfod symud
  • Mae rhai yn cael amser i ffwrdd o’r ysgol pan fyddant yn symud, ac yn anghofio peth o’r hyn maent wedi ei ddysgu
  • Maent yn aml yn byw’n bell i ffwrdd oddi wrth deulu a ffrindiau
  • Maent yn teimlo’n ddiogel yma, mae’n heddychlon, yn dawel, ac maent yn hoffi’r gymuned fach
  • Mae llawer yn hoffi archwilio lle newydd pan fyddant yn symud i mewn.

 “Weithiau gallwch ddechrau anghofio o le rydych wedi dod, y diwylliant, a siarad Nepaleg.”

Dyfyniad gan ddisgybl

 

Pa heriau sy’n wynebu Plant Milwyr Ysgol Uwchradd Aberhonddu mewn addysg? 

  • Weithiau mae bylchau yn eu gwybodaeth gan eu bod wedi symud ysgol sawl gwaith
  • Mae’n bosib na allant astudio pwnc y maent wedi ei astudio yn y gorffennol, gan nad yw ar gael e.e. Sbaeneg
  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Weithiau maent yn cael diagnosis anghywir o Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu does dim wedi eu nodi, ac maent angen cymorth arnynt; gall hyn fod oherwydd eu bod wedi symud ysgol sawl gwaith
  • Gall ysgolion blaenorol fod wedi dysgu mewn ffyrdd gwahanol – dros wahanol ysgolion / siroedd / gwledydd
  • Gall dewisiadau TGAU fod yn gyfyngedig; yn enwedig os yw’r plant yn cyrraedd yn hwyrach yn y flwyddyn
  • Mae rhai ysgolion yn cychwyn TGAU o Flwyddyn 8, gall hyn fod yn broblem wrth symud
  • Mae’n bosib eu bod wedi cwblhau testun fwy nag unwaith mewn ysgol flaenorol e.e. Llosgfynyddoedd mewn Daearyddiaeth
  • Gall dysgu Cymraeg heb unrhyw brofiad blaenorol fod yn heriol.

“Os dwi’n ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, efallai yr af at rywun, ond gall gofyn am help fod yn anodd. Mae yna rywun yma y galla’ i fynd atynt.”

Dyfyniad gan ddisgybl

 

Sut mae’r ysgol yn cefnogi plant Milwyr i oresgyn unrhyw heriau? 

Wrth gyrraedd – cyflwyniad

  • Mae blwch ticio ar ffurflen derbyn awdurdod lleol Powys er mwyn gweld os oes cefndir Lluoedd gan y teulu
  • Gall ymuno rhan o’r ffordd drwy’r flwyddyn fod yn ddangosydd pwysig y gallent fod yn blentyn Milwr
  • Bydd y rhieni yn cysylltu â’r dderbynfa, fydd wedyn yn siarad gyda’r Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog er mwyn cael cymorth ar gyfer y broses gyflwyno
  • Pan fyddwn yn gwybod bod disgybl yn cyrraedd, rydym yn cysylltu gyda’r teulu o flaen llaw ac yn cefnogi gyda dysgu / nodi unrhyw adnoddau er mwyn cychwyn ar y newid i’r cwricwlwm
  • Siarad gydag ysgolion derbyn eraill ynglyn a lefelau a’r cymorth mae’r plentyn wedi ei gael, a chael gafael ar ddata asesu
  • Bydd Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cysylltu gyda staff allweddol ac yn darparu cymorth
  • Mae’r ysgol yn anfon map / amserlen / rhestr clybiau a rhestr gwisg ysgol – mae gan y Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog dempled o wybodaeth ar gyfer y teulu a’r ysgol
  • Bydd Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn cael sgwrs ffôn gyda chyn athrawon er mwyn dod i adnabod y plentyn cyn iddynt gyrraedd – sgwrs anffurfiol/ cofnodi unrhyw wybodaeth allweddol
  • Asesiadau mewn Saesneg a Mathemateg er mwyn canfod lefel
  • Mae rhwydweithiau wedi eu sefydlu gydag ysgolion yn Wiltshire, y mae llawer o blant Milwyr yn dod oddi yno.

Cymorth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol        

  • Cyfathrebu rheolaidd gyda phlant Milwyr a’u rhieni
  • Creu proffil personol ar gyfer pob plentyn
  • Siarad gydag athrawon / penaethiaid blwyddyn i nodi unrhyw bryderon
  • Cwblheir ffurflenni asesu
  • Proffiliau datblygu yn rhestru sgoriau plant Milwyr e.e. CAT/LNF (flwyddyn ar ôl blwyddyn)
  • Cael adborth rheolaidd gan blant / rhieni
  • Monitro presenoldeb
  • Mae cwnsela ar gael gan asiantaeth allanol
  • Mae’r adran les yn trefnu cymorth os yw plentyn Milwr yn teimlo’n sâl, yn dioddef o or-bryder, ddim yn cymryd rhan mewn gwersi neu os oes angen cymorth cwnsela / anabledd
  • Cynhelir sesiynau mentora MPCT a sesiynau grwp yn wythnosol yn yr ysgol
  • Ymgysylltu gyda thimau ymgysylltu’r Llynges / Y Fyddin / Yr Awyrlu er mwyn hyrwyddo agweddau cadarnhaol o’r Lluoedd Arfog.

Symud ymlaen

  • Rydym yn siarad am y broses gyda’r plentyn ac yn trafod beth mae nhw eisiau i’r ysgol newydd wybod amdanynt
  • Rydym yn edrych ar wefan yr ysgol newydd gyda’n gilydd ac yn helpu’r plentyn i ddeall beth i’w ddisgwyl
  • Rydym yn darganfod os oes unrhyw blant o Ysgol Uwchradd Aberhonddu wedi bod yn yr ysgol newydd, allai fod yn gyfeillion i’r plentyn sy’n symud, er mwyn darparu cymorth a grwp cyfeillion fel bo’r angen
  • Rydym bob amser yn ffonio’r ysgol newydd ar ôl ychydig wythnosau i weld sut mae’r plentyn Milwr yn setlo mewn.

Sut mae Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn gweithio gyda chymuned leol y Lluoedd Arfog?

  • Mae Gwasanaeth Lles y Fyddin yn rhedeg clwb cinio a ariennir gan Gyfamod y Lluoedd Arfog; mae’n cynnwys gweithgareddau lle maent yn dysgu sgiliau newydd fel technoleg bwyd a’r clwb garddio, dysgu gyda ffrindiau a chymdeithasu
  • Darparu rhwydweithio a chymorth i’r gymuned Nepalaidd drwy raglenni Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL)
  • Mae Swyddog Cymorth Teuluoedd y Lluoedd Arfog yn adeiladu cysylltiadau gydag ysgolion bwydo yn y clwstwr, drwy ymweld â’r ysgolion yn rheolaidd i redeg gweithgareddau darllen
  • Perthynas gref gyda chyswllt allweddol ym Mrigâd 160 (Cymreig)
  • Mae tîm ymgysylltu’r Fyddin yn darparu sgyrsiau, digwyddiadau ac ymwelwyr i siarad am fywyd yn y Lluoedd Arfog
  • Cynhelir digwyddiadau coffa yn flynyddol ac maent yn golygu gweithgareddau gyda'r gwersylloedd lleol
  • Mae cadetiaid a milwyr wrth gefn lleol yn ymgysylltu gyda’r ysgol
  • Caiff diwylliant / yr iaith / traddodiadau Nepalaidd eu dathlu drwy amrywiol weithgareddau y mae holl gymuned yr ysgol yn rhan ohonynt.

 

Beth mae’r plant yn ei ddweud pan fydd eu rhieni’n cael eu had-leoli?

 “Rydych chi’n cael gwneud llawer o weithgareddau gyda’r Fyddin pan fyddant i ffwrdd.”

 “Rydych chi’n dod i arfer â’r peth.”

 “Roeddwn i’n ifanc pan oedd Dad i ffwrdd, wnes i ddim treulio llawer o amser efo fo a

doedd y cwlwm yna ddim yn bodoli rhyngom.”

 “Roeddwn i’n genfigennus pan oedd Dad i ffwrdd, roedd o’n cael nofio efo crwbanod.”

 “Dwi’n cael treulio mwy o amser efo Mam pan fydd Dad i ffwrdd.”

 “Doedd dim yn fy mhoeni i.”

 “Dwi’n poeni am Mam, gan ei bod yn cael ei gadael ar ôl pan fydd Dad yn mynd i ffwrdd.”

 

Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2019

Ysgolion Uwchradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan