This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Uwchradd

Ysgol Bassaleg (Casnewydd) – Cynnwys cefnogaeth i blant y Lluoedd Arfog trwy’r cwricwlwm

Ysgol Bassaleg (Casnewydd) – Cynnwys cefnogaeth i blant y Lluoedd Arfog trwy’r cwricwlwm

Mae Ysgol Bassaleg yn ysgol uwchradd gyfun yng Nghasnewydd, yn agos at ffin Cymru/Lloegr, felly mae rhai rhieni yn teithio i safleoedd yn Lloegr. Mae’r ysgol yn agos at Gatrawd 104 Casnewydd a Sir Fynwy, Barics Cas-Gwent ac uned wrth gefn yng Nghwmbrân. Mae cymysgedd o wahanol bersonél sy’n gwasanaethu yn yr ysgol, a hefyd milwyr wrth gefn a chyn-filwyr.

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesol ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

Nifer Plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Bassaleg: 12 (1%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:  Ben Lane, Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles

Estyn 2018
"Mae rhaglen tiwtora’r ysgol yn agwedd rhagorol ar ei gwaith. Mae’n cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau o ran iechyd meddwl, addysg perthnasoedd a rhywioldeb, meithrin cadernid, ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol, ymchwil bresennol a barn disgyblion a staff. Mae hyn yn darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddisgyblion archwilio a datblygu eu gwerthoedd moesegol a chymdeithasol. Mae’r ddarpariaeth hon wedi’i hintegreiddio’n ofalus i’r rhaglen ysgol gyfan ar gyfer addysg bersonol, cymdeithasol ac iechyd a chaiff ei chefnogi’n effeithiol gan feysydd y cwricwlwm." 

1.     Profiadau plant y Lluoedd Arfog

2.     Rôl y Cyfarwyddwr Lles

3.     Adnabod a chefnogi

4.     Mesur effaith a llwyddiant

1.  Beth yw profiadau plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol Bassaleg?

Mae plant y lluoedd arfog wedi cael gwahanol brofiadau o gael eu magu mewn gwahanol leoedd o amgylch y byd ac yn aml bydd ganddynt sgiliau i helpu plant eraill i feithrin cyfeillgarwch. Maen nhw’n grwp amrywiol, sy’n meddu ar lawer o sgiliau fel goddefgarwch oherwydd eu ffordd o fyw.

Mae’r heriau gallai plant y Lluoedd Arfog eu hwynebu o ran addysg yn cynnwys:

  • Mae pob plentyn yn wahanol ac mae ganddynt anghenion gwahanol
  • Materion cymdeithasol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â ffordd o fyw y teulu’r Lluoedd Arfog, e.e. delio ag adleoli, gwahanu a newidiadau i’r uned deuluol
  • Heriau addysgol fel bylchau mewn dysgu, o ganlyniad i symud o gwmpas
  • Mae rhai plant wedi cael problemau dicter ac wedi bod yn ypset, a’i chael yn anodd delio â’u hemosiynau
  • Mae rhai plant yn ei chael yn anodd setlo a gwneud ffrindiau wrth iddynt ymuno â’r ysgol
  • Bydd plant newydd yn newid deinameg grwp/dosbarth neu garfan

2.  Beth yw rôl eich Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles?

  • Cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer iechyd a lles. Gan gynnwys y Meysydd Profiad Dysgu iechyd a lles newydd, ei weithrediad ar draws y cwricwlwm cyfan a sesiynau amser dosbarth dyddiol. Ein nod yw cynnwys ‘Pedwar Pwrpas’ y cwricwlwm newydd trwy feithrin cadernid yn ein pobl ifanc a darparu gwybodaeth a chyfleoedd iddynt fod yn:
  • Ddysgwyr uchelgeisiol, medrus, sy’n barod i ddysgu drwy eu bywydau
  • Cyfranogwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd
  • Unigolion iach, hyderus, yn barod i arwain bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas 
  • Gweithio gydag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i’n pobl ifanc a’u haddysgu am faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles
  • Cynnal arolygon gyda disgyblion a defnyddio llais y disgybl i weld pa ymyriadau sydd angen eu gweithredu
  • Cyfeirio at help a chefnogaeth berthnasol yn fewnol a thrwy ddefnyddio budd-ddeiliaid allanol

Estyn 2018

"Mae gan yr ysgol systemau olrhain cryf ac effeithiol ar waith i fonitro cynnydd, ymddygiad a lles disgyblion unigol a grwpiau o ddysgwyr ar bob cyfnod allweddol, gan gynnwys y rhai sy’n cael darpariaeth amgen. Mae’n defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i fonitro cynnydd disgyblion a thargedu cefnogaeth ychwanegol."

3.  Sut mae’r ysgol yn adnabod plant y Lluoedd Arfog a’u cefnogi i oresgyn unrhyw heriau?

Wrth gyrraedd

Mae’r Cyfarwyddwr Lles yn cymryd cyfrifoldeb am sefydlu’r plant newydd i gyd, gan gynnwys plant y Lluoedd Arfog. Byddwn yn trefnu cyfarfod gyda’r teulu, gyda’r plentyn a threfnu sesiwn ddilynol i adolygu’r cyfnod sefydlu.

Cymorth yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol

  • Ni thynnir sylw at blant y Lluoedd Arfog. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i blant, fel grwp neu unigolyn.
  • Rydym yn sicrhau’n rheolaidd bod aelod o staff yn cyfathrebu â’r cartref fel bo angen.
  • Mae gan yr ysgol raglen o asesiadau amrywiol i nodi anghenion a chryfderau plant.
  • Rydym yn cynnal adolygiadau disgyblion rheolaidd ar draws pob pwnc, gan gynnwys iechyd meddwl a lles, mae hyn yn ein helpu i nodi tueddiadau a dyrannu cymorth.
  • Mae gan bob grwp blwyddyn arweinydd cynnydd â chyfrifoldeb am fonitro ac olrhain pob plentyn yn y grwp blwyddyn, yna byddant yn cefnogi â sicrhau bod darpariaeth ar waith, e.e. ymyriadau.
  • Er mwyn cefnogi dysgu gan blant, mae gennym anogwyr dysgu ar gael ar sesiynau ar amserlen.
  • Mae gan yr ysgol sesiynau cefnogi astudio ar gyfer Blwyddyn 10/11, lle gallant gael sesiynau astudio preifat gydag aelod o staff i gefnogi eu hanghenion.

Estyn 2018

"Mae’r llysgenhadon iechyd meddwl yn chwarae rôl bwysig trwy’r ysgol i sicrhau lles meddyliol cadarnhaol i nifer sylweddol o ddisgyblion. Mae gan y llysgenhadon hyn ddealltwriaeth dda o sut i gefnogi eu cyfoedion a darparu canllawiau defnyddiol. Mae hyn yn helpu nifer o ddisgyblion i wneud dewisiadau deallus am gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn hyrwyddo eu lles meddyliol."

Cefnogaeth iechyd meddwl a lles

  • Mae gan yr ysgol dîm lles sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Safonau, Iechyd a Lles.
  • Mae dau aelod o staff yn yr ysgol wedi hyfforddi mewn Thrive ac fel Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol.
  • Mae gan yr ysgol raglen diwtora lles a gaiff ei chynnal bob bore gyda’r athro dosbarth.
  • Ar hyn o bryd, mae Blwyddyn 7 yn dysgu maes dysgu’r cwricwlwm Cymraeg newydd iechyd a lles, sy’n cynnwys maeth, ffitrwydd a lles cyffredinol.
  • Caiff llysgenhadon iechyd meddwl eu penodi ar draws pob grwp blwyddyn i gynnig canllawiau a chefnogaeth i’w cyfoedion ar ôl cyfnod sefydlu a hyfforddiant.
  • Mae Blwyddyn 8 yn dilyn rhaglen o’r enw The Arrow Project – caiff meysydd cefnogaeth sylweddol eu nodi, a chaiff ymyriadau eu rhoi ar waith i grwpiau ar draws y grwp blwyddyn. Caiff gweithdai eu harwain gan y seicolegydd addysg.

Mae'r rhain yn cynnwys:

o   Deall emosiynau

o   Datrys problemau mawr i wella cadernid

o   Darparu cefnogaeth iechyd meddwl trwy sesiynau galw heibio

o   Darparu’r rhaglen pum awgrym llesol

o   Dilyn y cwricwlwm iechyd cwsg.

 

  • Ar sail gwrando ar ddysgwyr, darparwyd rhagor o amser i adran Crefydd, Moeseg ac Athroniaeth yr ysgol i ganolbwyntio ar ddysgu am berthnasoedd llwyddiannus gyda theulu a ffrindiau a’u datblygu. Mae sicrhau cylchoedd cymdeithasol cyfoethog a chadarn yn helpu i gefnogi unigolion gyda’u hiechyd meddwl.
  • Caiff Cyfarwyddwr Lles a Chyfarwyddwr Cynorthwyol Lles eu dyrannu i bob grwp blwyddyn i gefnogi’r disgyblion ar lefel fugeiliol. Yn ogystal â hyn, mae tri Arweinydd Cynnydd i helpu i gefnogi’r disgyblion gyda’u perfformiad academaidd.
  • Mae gan yr ysgol ddau Swyddog Cefnogi Bugeiliol sy’n helpu i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion. Gall disgyblion hunanatgyfeirio at y gefnogaeth gan Swyddogion Cefnogi Bugeiliol.
  • Mae gan yr ysgol gefnogaeth cwnsela a chyngor helaeth i’n pobl ifanc a’r staff yn yr ysgol. Mae’r ysgol wedi bod yn gweithio gyda Mind Casnewydd hefyd i ddatblygu dull ysgol gyfan o drin iechyd meddwl, sy’n darparu cefnogaeth i ddisgyblion, staff a rhieni/gofalwyr.

Estyn 2018

"Mae’r ysgol yn olrhain ymwneud disgyblion diamddiffyn a’r rhai â nodweddion a ddiogelir yn agos yn ei gweithgareddau cymunedol a grwpiau disgyblion. Mae’n defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol i annog ymwneud amrywiaeth o ddisgyblion i sicrhau bod pob grwp cynrychioladol o ddisgyblion yn adlewyrchu poblogaeth yr ysgol gyfan."

4.  Sut mae Ysgol Bassaleg yn mesur effaith a llwyddiant y strategaethau a’r gefnogaeth?

Mae’n bwysig mesur effaith unrhyw ymyrraeth a chefnogaeth a gynigir oherwydd mae hyn yn arwain at newid a datblygiad yn y dyfodol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau ar gyfer mesur yr effaith sydd bob amser yn seiliedig ar fesuriad cyn ac ar ôl yr ymyrraeth a’r gefnogaeth.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Defnyddio detholiad ar hap o ddisgyblion fel grwp ffocws i rannu safbwynt y disgyblion
  • Arolygon Cyn ac Ar Ôl yr ymyrraeth a chefnogaeth
  • Profi ac asesu Cyn ac Ar Ôl yr ymyrraeth a chefnogaeth
  • Dadansoddiad o effaith a gaiff ei gynnal yn ystod teithiau cerdded lles ar amryw amseroedd o’r dydd
  • Defnyddio data allanol fel y data yn arolwg Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion i wneud cymariaethau dros amser.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bassaleg – adnoddau lles.

Dyddiad cynhyrchu: Gorffennaf 2020

Ysgolion Uwchradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan