This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd Y Priordy Yr Eglwys yng Nghymru (Powys) - Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Ysgol Gynradd Y Priordy Yr Eglwys yng Nghymru (Powys) - Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy wedi ei lleoli yn Aberhonddu, cartref y 160 Brigâd (Cymreig) a Phencadlys Cymru, barics hyfforddi’r Milwyr Traed ac yn agos i wersyll hyfforddi Pontsenni. Mae cymuned y Lluoedd Arfog yn gymysgedd o filwyr sy’n gwasanaethu a chyn filwyr. Mae gan y mwyafrif o deuluoedd un rhiant sy’n gwasanaethu. Mae’r plant yn aml yn aros yn yr ysgol am ddwy i dair blynedd, wedi i riant gael eu hanfon i'r ardal. Os caiff rhiant ddyrchafiad yna mae'n bosibl y byddant yn symud ymlaen yn gynt.

 Y nifer o blant Milwyr yn Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy:  (10%)

Astudiaeth achos wedi ei gwblhau gan: Claire Pugh, Uwch Athrawes

  1. Profiadau cadarnhaol
  2. Yr heriau mae plant Milwyr yn eu hwynebu
  3. Adnabod anghenion plant Milwyr
  4. Sefydlu
  5. Goresgyn heriau
  6. Cynnal y cymorth
  7. Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol.

1.    Sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn rhannu'r profiadau cadarnhaol o fod yn blentyn Milwr?

  • Rydym yn dathlu’r profiadau maent yn eu rhannu gyda’u dosbarth, staff a phlant eraill
  • Mae bod yn rhan o gyngor yr ysgol yn eu galluogi nhw i rannu eu safbwyntiau a’u barn fel grwp o ddysgwyr
  • Rydym yn rhannu profiadau darllen drwy ddefnyddio ‘Reading Force’, sydd wedi profi’n llwyddiannus gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog oherwydd:
  1. Mae wedi annog mwy o siarad a thrafodaeth yng nghartref y teulu ac wedi darparu rhywbeth sy’n gyffredin rhwng lleoedd gwaith a bywyd y cartref
  2. Mae wedi darparu elfen o dderbyn y bydd y rhiant adref yn fuan, a bod y ddau ohonynt wedi mwynhau rhannu llyfr
  3. Mae’n caniatáu peth amser tawel i'r plant gyda'u mam adref lle gallant siarad am ofidiau, pryderon ac uchafbwyntiau/pethau cyffrous ynglyn â’u taith

2. Pa heriau mae plant Milwyr yn eu hwynebu yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy

  • Gallu rheoli eu hemosiynau a’u lles wrth ymdrin â sefyllfaoedd gwahanol
  • Bod ar wahân i riant sy’n gweithio i ffwrdd
  • Ffarwelio gyda ffrindiau sy’n symud ymlaen
  • Rheoli trawsnewid, a all gynnwys cyfnodau o newid o fewn yr uned deuluol
  • Addasu i systemau addysg gwahanol, gan gynnwys meysydd llafur a phynciau gwahanol, newidiadau i’r addysgu a'r systemau dysgu
  • Mae gan rai teuluoedd sy’n ymuno â’r ysgol ddisgwyliadau gwahanol o addysg, wedi ei seilio ar eu profiadau blaenorol a gall hyn achosi gorbryder i rieni.

3.    Sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn adnabod anghenion plant Milwyr?

  • Bydd dysgu yn digwydd ac yn cael ei asesu unwaith y bydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol. Bydd athrawon yn canfod y bylchau yn addysg y plant a bydd ymyriadau yn cael eu rhoi mewn grym e.e. Addysgu manwl
  • O ran llythrennedd fe fydd plant yn cael ymyriadau os oes angen, wedi iddynt gael cyfnod o amser un i un, gyda’r athro/athrawes ddosbarth, a fydd yn asesu lefelau darllen ac yn cwblhau asesiad sillafu i ganfod lefelau cysylltiedig ag oed.
  • Rydym yn defnyddio ‘Building Blocks' ar draws yr ysgol, rhaglenni cynllunio, monitro, adrodd ac asesu i ddilyn canlyniadau dysgu a chynnydd y plant.
  • Mae’r athrawon yn cyfarfod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth i drafod a rhannu cynnydd gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Pan gaiff plant eu hadnabod, rydym yn rhoi camau gweithredu mewn grym i gefnogi eu hanghenion e.e. cefnogaeth emosiynol neu ymyriadau dysgu.

4. Sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn defnyddio proses sefydlu i gefnogi plant Milwyr?

  • Rydym yn cyfarfod gyda’r teulu ac yn eu tywys o gwmpas, mae hyn yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod y plentyn a'r teulu, eu dysg a'u personoliaeth
  • Rydym yn gofyn am unrhyw gefnogaeth flaenorol y gallant fod wedi ei dderbyn ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol neu gefnogaeth emosiynol ac yna yn sicrhau y byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth briodol
  • Rydym yn cysylltu â'r ysgol flaenorol i gael rhagor o wybodaeth am y plentyn, unrhyw gefnogaeth yr oeddent yn ei dderbyn, eu hanghenion dysgu ac emosiynol
  • Rydym yn adolygu dysgu a chofnodion blaenorol i gael dealltwriaeth ynglyn â gallu’r plentyn.

5. Sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn goresgyn yr heriau y gall plant Milwyr fod yn eu hwynebu?

  • Rydym yn cynnig cefnogaeth gan Gynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA), sy’n cefnogi plant ar draws yr ysgol gyda’u hanghenion emosiynol, gan gynnwys plant Milwyr
  • Fe fydd Gweithiwr Allweddol Cynorthwyydd Cymorth Dysgu plant Milwyr yn cynorthwyo plant yn ôl yr angen drwy'r diwrnod, fel gweithiwr chwarae/cyswllt; mae hyn wedi ei ariannu gan gynllun grant Llywodraeth Cymru. Mae’r rôl yn canolbwyntio ar yr holl blant Milwyr ar draws yr ysgol ac yn cefnogi’r plentyn/plant gydag ymyrraeth wedi ei dargedu pan fo’r angen yn codi neu eu bod yn cael eu hadnabod.
  • Fe all plant ddefnyddio gweithgaredd sy’n galluogi cael sgwrs gydag oedolion sydd wedi eu henwebu os oes angen cymorth arnynt ac mae hwn yn amser pwrpasol i siarad am sut maent yn teimlo.
  • O ran dysgu rydym yn defnyddio Addysgu Manwl fel ymyrraeth i helpu i gau’r bylchau o ran dysgu. Er enghraifft rydym wedi canfod ei bod yn ymddangos fod yna fwlch o ran lluosi yng ngwybodaeth mathemateg rhai o blant Milwyr. Mae Addysgu Manwl yn galluogi gweithgaredd byr, sydyn, ymarferol sy’n adlewyrchu mathemateg Singapôr, sy’n ddull o ddysgu mathemateg sy’n ymwneud â datrys problemau. Mae’r plant yn mwynhau gweld eu sgôr a gwylio’r graff yn newid a lefel eu llwyddiant yn cynyddu. Mae trafodaethau’n digwydd os yw sgôr yn gostwng o‘r diwrnod blaenorol. Dim ond 15 munud yw’r ymyrraeth hon ac mae'n digwydd dri diwrnod yr wythnos.  

6. Sut fyddwch chi’n cynnal y cymorth hwn i blant Milwyr yn yr hirdymor?

  • Mae gennym ni ymagwedd gynhwysol i bob rhan o fywyd ysgol i’n plant a theuluoedd.
  • Byddwn yn sicrhau fod yr holl staff yn parhau i gael hyfforddiant i ddeall anghenion plant Milwyr a’u hamgylchiadau unigryw
  • Gyda chyfarfodydd cynnydd disgyblion rheolaidd gydag Uwch Arweinwyr, rydym yn adolygu effaith a chynnydd ar draws y flwyddyn ysgol
  • Gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi mewn cyfarfodydd staff, i rannu ymyriadau/syniadau newydd o ddiwrnodau Budd-ddeiliaid SSCE Cymru a strategaethau eraill
  • Fe fyddwn yn sicrhau fod staff yn ymwybodol o astudiaethau achos/fideos/ymchwil am blant Milwyr i’w hatgoffa o strategaethau y gallwn eu defnyddio
  • Byddwn yn parhau i adnabod plant Milwyr fel grwp dysgu 'ffocws' fel y gall ymyraethau ddigwydd os oes angen
  • Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio i staff, disgyblion a rhieni.

7. Sut mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn gweithio gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog?

  • Ar hyn o bryd mae gennym ni briod aelod o'r Lluoedd Arfog ar y pwyllgor rhieni/cyfeillion yn yr ysgol i gefnogi digwyddiadau a chodi arian
  • Caiff safbwyntiau a barn plant Milwyr eu clywed drwy ddigwyddiadau Llais y Disgybl ac maent yn cael eu cynrychioli ar Gyngor yr Ysgol
  • Mae gennym ni Gynorthwyydd Cymorth Dysgu enwebedig sy’n trefnu boreau coffi ac yn annog cymuned yr ysgol i fynychu, gan gynnwys teuluoedd y Lluoedd Arfog
  • Mae cyn aelod o’r Lluoedd Arfog yn gwasanaethu ar y corff llywodraethu i sicrhau fod gan staff y Lluoedd Arfog lais yn y modd y caiff yr ysgol ei llywodraethu
  • Rydym yn annog cynrychiolwyr o’r Lluoedd Arfog i fod ar ein cyngor ysgol, cynghorau rhieni, cyfeillion yr ysgol a’r Corff Llywodraethu i barhau i ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog
  • Mae’r ysgol yn gwahodd rhieni/cynrychiolwyr o'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r ysgol fel y gall plant weld/clywed am y profiadau y mae plant yn eu cael yn ogystal â rhannu’r swyddi maent yn eu gwneud yn y Lluoedd Arfog.
  • Rydym yn gweithio gyda Swyddog Cymorth i Deuluoedd y Lluoedd Arfog yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu i hwyluso trosglwyddo.
  • Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn ysgol ddysgu broffesiynol arloesol, sy’n datblygu dysgu yn ôl addysgeg ochr yn ochr â gweithredu'r cwricwlwm Cymreig newydd 'Cwricwlwm am oes'. Rydym wedi datblygu’r amgylchedd ddysgu, darparu'r cwricwlwm ac rydym yn defnyddio ethos ‘Mantle of the Expert’. Rydym yn cydweithio gydag ysgolion eraill ar draws Cymru gan rannu arferion da.

Enghraifft o effaith....

Roedd plentyn ym mlwyddyn 5 yn ei chael yn anodd i setlo a sefydlu cyfeillgarwch daar ôl symud i'r ardal

Beth wnaethom ni?

  • Cawsom gyfarfod gyda'r rhieni i drafod y rhesymau y tu ôl i unrhyw anawsterau a chanfod mwy am ei brofiadau, gofidiau a phryderon
  • Cynigiwyd Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol fel ymyrraeth a darparwyd sesiynau i gefnogi siarad am ei deimladau a chanfod ffordd o’u goresgyn
  • Canfuwyd fod ganddo safbwyntiau negyddol am ysgol gan ei fod wedi ei fwlio mewn ysgol flaenorol. Roedd yn teimlo colled pan roedd ei Dad yn mynd i ffwrdd ac roedd yn ei chael yn anodd gan ei fod yn teimlo fod rhaid iddo 'gamu i'r adwy' a helpu gyda phlant eraill y teulu.

Beth ddigwyddodd nesaf?

  • Roedd y bachgen yn gallu siarad am ei deimladau a’i emosiynau a mynegi sut roedd yn teimlo
  • Drwy ei hoffter o bêl-droed fe sefydlwyd sawl cyfeillgarwch a daeth yn fwy hyderus
  • Cyflwynodd ei hun ar gyfer cyngor yr ysgol ac enillodd yr etholiad gan dderbyn cyfrifoldeb ac roedd yn fodel rôl rhagorol i blant eraill
  • Yna creodd araith ar ran cyngor yr ysgol ar gyfer agor ein hardal awyr agored newydd sydd wedi ei hariannu gan Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn (neu Gyllid Cyfamod y Lluoedd Arfog????) a chyflwynodd hwn i gynrychiolwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, Archesgob Cymru, ein Llywodraethwyr, ein cynghorydd lleol a'r ysgol.
  • Rydym wedi cydgysylltu gydag Ysgol Uwchradd Aberhonddu i hwyluso trosglwyddo ar ddiwedd Blwyddyn 6 drwy fynychu sesiynau blasu a sesiynau nofio.

Mae’r stori hon yn adlewyrchu sut y gellir newid profiad negyddol mewn un lle drwy ymyrraeth briodol a chymorth. Ef yw un o’n llwyddiannau mwyaf gan ei fod wedi newid o fod yn blentyn tawel, eithaf swil i fod yn unigolyn hapus, hyderus oedd wrth ei fodd â’r ysgol a rhannu ei brofiadau gyda ni.

 

Dyddiad y lluniwyd Rhagfyr 2019

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan