This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd CIW y Priordy (Powys) - Monitro ac olrhain plant y Lluoedd Arfog

Ysgol Gynradd CIW y Priordy (Powys) - Monitro ac olrhain plant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy yn Aberhonddu, cartref 160 Brigâd a Phencadlys Cymru, Barics hyfforddiant Troedfilwyr ac yn agos at safle hyfforddiant Pontsenni. Mae’r gymuned Lluoedd Arfog yn gymysgedd o bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr (cyn-bersonél lluoedd arfog). Mae gan y mwyafrif o deuluoedd un rhiant sy’n gwasanaethu. Mae’r plant yn aml yn aros yn yr ysgol am ddwy neu dair mlynedd, yn dilyn penodiad i'r ardal. Os dyrchafir rhiant, gallant symud ymlaen yn gyflymach.

 Nifer y plant lluoedd arfog yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Priordy: 15 (10%)

Astudiaeth achos a gwblhawyd gan: Claire Pugh, Uwch Athrawes

  1. Yr heriau sy’n wynebu plant y Lluoedd Arfog
  2. Tracio iechyd meddwl a lles
  3. Adroddiadau a chadw cofnodion
  4. Defnyddio’r wybodaeth
  5. Effaith

1.    Pa heriau mae plant lluoedd arfog yn eu wynebu yn Ysgol Gynradd Priordy?

  • Gallu rheoli eu hemosiynau a’u lles pan fônt yn delio gyda sefyllfaoedd gwahanol
  • Cael eu gwahanu oddi wrth riant pan fônt yn gweithio i ffwrdd
  • Ffarwelio gyda ffrindiau sy’n symud ymlaen
  • Rheoli symudiad, a allai gynnwys cyfnodau o newid o fewn yr uned deuluol
  • Addasu i systemau addysg gwahanol, gan gynnwys cwricwlwm a phynciau gwahanol, newidiadau i addysgeg a systemau dysgu ac addysgu
  • Mae gan rai teuluoedd sy’n ymuno â’r ysgol ddisgwyliadau gwahanol o addysg, yn seiliedig ar eu profiadau blaenorol a gall hyn achosi gor-bryder i rieni.

2.    Pa systemau mae Ysgol Gynradd Priordy yn eu defnyddio i dracio iechyd a lles plant?

Wedi ei ariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion sydd â phlant lluoedd arfog, rydym wedi cyflwyno rhaglen o’r enw MyConcern! , sef system meddalwedd diogelu. Mae’n galluogi staff yn yr ysgol i gyflwyno unrhyw bryder sydd ganddynt am blentyn. Mae MyConcern! yn system sydyn a rhwydd, sy’n galluogi i chi gynhyrchu adroddiad ar blentyn. Mae’n darparu cronoleg o ddigwyddiadau, profiadau a phryderon sydd gan staff am ddisgybl.

Rydym yn defnyddio’r rhaglen fel system adroddiadau yn hytrach na thrywydd papur. Mae’n rhoi trosolwg o brofiadau ac anghenion plentyn penodol yn ystod eu hamser yn ein hysgol. Rydym nid yn unig yn adrodd ar faterion diogelu ond hefyd ar iechyd meddwl a lles plentyn.

3.    Beth sy’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad MyConcern!?

  • Enw’r plentyn
  • Amser
  • Lle

Pryderon: (250 arwyddnod)

Enghraifft: “Mae XXXX wedi dod i’r ysgol heddiw yn drist iawn ac yn gwrthod cael brecwast.”

Camau a gymerwyd:

Enghraifft: “Yr athro dosbarth yn treulio amser yn deall pam fod XXXX yn drist trwy drafodaeth un i un. Mae’r plentyn yn drist, oherwydd nid yw ef/hi wedi cysgu oherwydd bod dad wedi mynd i ffwrdd am chwe wythnos o hyfforddiant yn yr Almaen. Mae'r athro dosbarth yn gwrando ar y plentyn ac yn gofyn os all hi wneud unrhyw beth i helpu. Mae’r plentyn yn dweud ei fod eisiau iddi wrando arno ac i wybod efallai na fyddant yn nhw eu hunain am ychydig o ddiwrnodau, maent angen dod i arfer efo dad ddim yno. Mae’r athro dosbarth yn gofyn i XXXX os hoffent gael brecwast gan yr ysgol.

Mae'r athro dosbarth yn dweud wrth XXXX y gallant siarad gydag unrhyw aelod o staff yn yr ysgol yn gyfrinachol ond os oes pryderon diogelu byddant yn cael eu rhannu gyda'r pennaeth a’u datrys fel bo’n briodol. Byddwn yn sicrhau bod gan y plentyn gefnogaeth beth bynnag fo’u sefyllfa.”

4.    Sut y defnyddir y wybodaeth MyConcern!? Rhannu?

  • Bydd y cofnod MyConcern! yn cael ei rannu gyda’r arweinydd diogelu ac yna gwneir penderfyniad ar y camau angenrheidiol
  • Cymerir camau priodol os yw’n fater diogelu, yn unol â pholisi a chanllawiau'r ysgol a’r awdurdod lleol
  • Gellir diweddaru ac ychwanegu gwybodaeth at gofnod MyConcern!
  • Bydd yr ysgol yn cysylltu â'r rhieni, yn dibynnu ar y pryder. Byddai hyn trwy drafodaeth briodol gyda’r rhiant a’r athro dosbarth neu efallai byddant yn dymuno siarad gyda'n swyddog cyswllt/gweithiwr chwarae. Mae’n bwysig cadw’r dialog a’r cyfathrebu proffesiynol rhwng y cartref a’r ysgol
  • Bydd plant yn cael eu cefnogi gydag anogaeth a gofal yn y dosbarth ond efallai dymunant gael amser un i un gyda’r athro dosbarth, Cymhorthydd Cefnogi Dysgu neu'r gweithiwr chwarae/swyddog cyswllt dynodedig rydym yn eu cyflogi trwy arian grant Llywodraeth Cymru. Hefyd, efallai byddant yn cael sesiynau Cymhorthydd Cefnogi Llythrennedd Emosiynol (ELSA) ble gallant siarad am eu hemosiynau, cyfeillgarwch, dicter, colled
  • Bydd cefnogaeth yn parhau yn ystod amser y plentyn yn yr ysgol fel bo angen, trwy sgyrsiau anffurfiol gydag aelodau o staff maent yn teimlo yn gyffyrddus gyda nhw a gyda diweddariadau rheolaidd i’r rhiant
  • Gall uwch arweinwyr a'r Pennaeth weld ac adolygu'r data unrhyw bryd ar gyfer monitro.

5.    Pa effaith fydd y rhaglen MyConcern! yn ei gael?

  • Cadw cofnod diweddar o wybodaeth ar bob plentyn yn electronig
  • Mae’n darparu tystiolaeth ar ffurf adroddiad a hanes y plentyn hwnnw ar gyfer eu hysgol nesaf, gellir ei anfon trwy'r system os oes gan yr ysgol MyConcern! neu fel dogfen PDF. Bydd yr adroddiad yn dangos data ystadegol a chofnodion ysgrifenedig am y plentyn.
  • Mae’n galluogi i bopeth fod mewn un lle diogel
  • Mae’n caniatáu i'r arweinydd diogelu dracio tueddiadau a phatrymau ac i gael popeth mewn un lle; mae lles ein plant bob amser yn flaenllaw yn yr hyn a wnawn.

 

Dyddiad a gynhyrchwyd: Ionawr 2020

 

 

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan