This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd Brynmill (Abertawe) – Cefnogaeth fugeiliol wedi’i deilwra i blant y Lluoedd Arfog

Ysgol Gynradd Brynmill (Abertawe) – Cefnogaeth fugeiliol wedi’i deilwra i blant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Gynradd Brynmill yn ysgol gynradd fawr yn gwasanaethu ardal breswyl yng Ngorllewin Abertawe. Er nad oes gan yr ysgol unrhyw fannau glaswelltog ac mae lle y tu allan yn brin, mae'r ysgol yn elwa o ddau barc lleol a'r traeth. Mae Ysgol Brynmill yn agos at Brifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton, mae nifer o blant i fyfyrwyr sy’n dod o amgylch byd, yn mynychu Ysgol Gynradd Brynmill dros gyfnod eu hastudio. Nid yw’n agos at safle neu uned Lluoedd Arfog a dim ond un teulu Lluoedd Arfog sydd yno ar hyn o bryd.

 Nifer y plant lluoedd arfog yn Ysgol Gynradd Brynmill: 2 (1%)

Astudiaeth achos a gwblhawyd gan:  Danielle Ciaburri, Arweinydd Teuluoedd a Lles

Estyn 2019

"Mae’r Wellbeing Warriors’ a'r ‘Blues Busters' etholedig yn cefnogi disgyblion yn effeithiol ac yn dangos lefelau uchel o ofal. Er enghraifft, mae grwp o ddisgyblion hyn yn cymryd cyfrifoldeb bob diwrnod am chwarae gyda disgyblion sy’n cael rhyngweithio cymdeithasol yn heriol yn ystod amseroedd egwyl."

Pa brofiadau mae plant y lluoedd arfog yn dod i gymuned eich ysgol?

Mae’r plant yn siarad am ac yn rhannu storïau am brofiadau eu rhiant o deithio'r byd gyda chyfoedion a staff. Mae’r plant yn siarad am eu sefyllfa unigryw mewn perthynas â materion cyfoes perthnasol. I staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r plant, mae hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth gynyddol o’r mathau o heriau mae rhai teuluoedd y Lluoedd Arfog yn eu profi.

Estyn 2019

 “Mae’r ddarpariaeth i gefnogi disgyblion agored i niwed wedi cael effaith fuddiol ar eu datblygiad personol, eu sgiliau cymdeithasol a’u cynnydd wrth ddysgu. Mae hyn yn gryfder yn yr ysgol. Mae’r amgylchedd dysgu yn darparu cefnogaeth effeithiol i les disgyblion. “

  1. Yr heriau sy’n wynebu plant y Lluoedd Arfog
  2. Cefnogaeth sydd ar gael i blant a theuluoedd y Lluoedd Arfog
  3. Cael gafael ar gyllid
  4. Mesur effaith
  5. Cynaliadwyedd cefnogaeth.

Estyn 2019

 “Mae'r pennaeth yn rhan o grwp o benaethiaid sy’n datblygu ‘My Selfie’ fel system i gofnodi cynlluniau lles ac agweddau disgyblion at ddysgu."

1.    What challenges do the Service children face at Brynmill Primary School?

  • Mae’r plant yn rhagweld eu tad yn mynd i ffwrdd a’r synnwyr o golled bydd yn ei olygu
  • Mae’r plant yn dioddef o or-bryder gwahanu pan fydd eu tad i ffwrdd. Mae hyn yn effeithio ar les emosiynol ac ymddygiad y plant ac yn effeithio ar eu gallu i;
  1. Datrys gwrthdaro gyda'u cyfoedion
  2. Canolbwyntio ar eu dysgu pan fyddant yn drist
  3. Deall eu teimladau
  • Pan fydd eu tad i ffwrdd, nid yw’n gallu mynychu cyfarfodydd rhieni, gwasanaethau neu gyngherddau dosbarth fel y byddai rhieni eraill. Mae’r plant yn caru ac yn colli eu tad yn dod i ddigwyddiadau ysgol pan fyddant i ffwrdd.
  • Yn flaenorol, nid oedd y plant yn awyddus i ddod i’r ysgol oherwydd nad oeddent eisiau gadael eu mam tra bod eu tad i ffwrdd.

2.    Pa strategau a chefnogaeth sydd ar gael yn Ysgol Gynradd Brynmill?

  • Mae’r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn cefnogi’r plant mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plant ac a arweinir gan y plant, i ddechrau trwy ddatblygu perthynas weithio sy'n llawn ymddiriedaeth a pharch, sy’n hanfodol ac yn sylfaen i'r plant deimlo yn ddiogel i siarad.
  • Mae'r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn defnyddio model cwnsela sy’n seiliedig ar Rogers and Egan. Siaradant am beth maent yn ei gael yn anodd ac yn heriol er mwyn i’r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu wneud awgrymiadau posib ar gyfer ffyrdd ymlaen
  • Mae'r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn defnyddio deunyddiau 'Tîm o Amgylch y Teulu’ sy’n annog trafodaeth ac yn rhoi mewnwelediad i sut maent yn gweld eu byd.  Mewn rhai achosion, defnyddiant gardiau emosiwn a phroblemau i'r plentyn adnabod beth maent yn ei weld fel eu problem. Mae llyfrau cefnogaeth Tîm o Amgylch y Teulu hefyd yn cael eu defnyddio sef “Me and My World”
  • Mae’r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn defnyddio Eco-map i siarad am berthnasau teuluol a’u rhwydwaith o gefnogaeth
  • Mae sesiynau ar gael ar sail un i un gyda’r ddau blentyn, yn wythnosol, i sicrhau bod eu hanghenion emosiynol yn cael eu bodloni ac os oes ganddynt unrhyw bryderon, eu bod yn gallu siarad amdanynt
  • Mae’r plant yn siarad am eu rhwydwaith o gefnogaeth gartref a pwy allant siarad â hwy gartref ac yn yr ysgol os oes angen
  • Mae gan y plant Weithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn y dosbarth i’w cefnogi sy’n eu helpu i ganolbwyntio ar ddysgu. Nid yw’r plant yn hoffi cael eu hamlygu, fodd bynnag mae'n well ganddynt weithio mewn grwpiau, ac mae hyn yn strategaeth sy’n gweithio’n dda i’r plant
  • Rydym yn defnyddio deunydd a gyhoeddwyd o ystod o ffynonellau, sy’n berthnasol i oedran a dealltwriaeth bob plentyn gyda’r nod o gynyddu eu hunan-barch, cred a hyder. Mae’r plant yn ymateb yn dda i gyfleoedd i luniadu, sy’n ei gwneud yn haws iddynt gysylltu gyda chanolbwynt y dysgu e.e. dod ymlaen gydag eraill. I ryw raddau, mae’r dull hwn yn bwysicach na’r deunydd sy'n annog trafodaeth.
  • Fel yr Arweinydd Lles, defnyddiaf gardiau Exchange Counselling Service Resilience’ gyda’r plant lluoedd arfog a defnyddiaf fy hyfforddiant
  • yn Emotional Coaching
  • Eco-fapiau i gael gwell dealltwriaeth o berthnasau o fewn teulu a rhwydwaith cefnogaeth y plant (Example: eco map guidance and template)
  • Mae blychau emosiwn ar gael o amgylch yr ysgol, ble mae plant yn rhoi nodiadau ynglyn ag unrhyw bryderon sydd ganddynt
  • Mae un o’r plant lluoedd arfog wedi bod yn defnyddio anghenfil Poeni i roi unrhyw bryderon sydd ganddynt y tu mewn.

Estyn 2019

 “Mae disgyblion wedi creu 'mindset mascots' i'w hatgoffa i fod yn gryf, i gydweithio ac yn fyfyriol ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu dysgu.”
 

3.    Beth yw effaith cael arian i gefnogi datblygu strategau?

Cawsom arian gan gynllun grantiau Llywodraeth Cymru yn 2018/19. Heb yr arian ni fyddem wedi gallu penodi ein Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu. Mae hi wedi datblygu cyfres o ddulliau a strategau y mae'n gallu eu rhannu gyda chydweithwyr. Mae ei dealltwriaeth wedi cyfrannu at empathi cynyddol gyda theuluoedd sy’n colli rhywun arbennig. Mae hyn yn atgyfnerthu ethos ac arwyddair ein hysgol “Bod yn wahanol, perthyn i'n gilydd, bod y gorau, y gallwn fod.”

4.    Sut ydych yn mesur effaith y gefnogaeth a ddarperir?

  • Trwy arsylwadau, gan ddefnyddio adnodd mesur emosiynol i gadarnhau sut mae'r plentyn yn teimlo ac yn cyfathrebu gydag athrawon dosbarth yn rheolaidd
  • Pan fo plentyn y lluoedd arfog eisiau siarad gyda mi am fater yn wirfoddol yn ogystal â phan eir at blentyn am drafodaeth 
  • Mae’r ysgol yn cynnal asesiad lles blynyddol i bob disgybl gan gynnwys plant a gefnogir gan y grant cronfa Lluoedd Arfog. Datblygu perthnasau, ymddiriedaeth a chysylltiad gyda’r plant a’u rhieni
  • Mae hyder y plant wedi cynyddu o ran sut maent yn dygymod yn gymdeithasol o amgylch yr ysgol ac yn y dosbarth.

Estyn 2019

“Mae gan yr ysgol systemau cadarn i dracio cynnydd a lles disgyblion.”

5.    Sut fydd Ysgol Gynradd Brynmill yn sicrhau cynaliadwyedd cefnogaeth yn y dyfodol?

  • Mae’r Gweithiwr Arweiniol/Cymhorthydd Addysgu yn rhannu ei gwybodaeth o strategau llwyddiannus gyda staff perthnasol yn y tîm lles ac athrawon dosbarth. Mae hyn yn ymestyn eu gwybodaeth a sgiliau wrth weithio gyda phlant sy’n wynebu ystod o heriau
  • Mae’r ysgol yn sicrhau bod yr holl staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf o ran hyfforddiant a chefnogaeth lles e.e. hyfforddiant Ymddiriedolaeth Charlie Waller diweddar ar bwysigrwydd cefnogi plant gydag iechyd meddwl cadarnhaol.

Enghraifft o effaith...

  • Mae plentyn X yn dioddef o or-bryder gwahanu; pan fydd y tad yn mynd dramor mae hyn yn cael effaith ar blentyn X wrth adael y fam yn ogystal â cholli’r tad. Trwy ddatblygu perthynas weithio gadarnhaol gyda'r plentyn hwn roeddent yn gallu siarad am eu gor-bryder a’u teimladau. Rhoddwyd siart wobrwyo i blentyn X i’w hannog i ddod i'r ysgol heb gynhyrfu wrth adael eu mam. Cafodd hyn effaith gadarnhaol pan gyrhaeddodd y plentyn yn yr ysgol.
  • Weithiau mae’r ddau blentyn yn teimlo yn drist pan mae eu tad yn cael ei anfon i ffwrdd, siaradwn gyda hwy am eu teimladau negyddol a gofynnwn iddynt feddwl am deimladau cadarnhaol yn lle'r rhai negyddol e.e. Eu hoff le i ymweld ag o.

 

Dyddiad a gynhyrchwyd: Ionawr 2020 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan