This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyllid arall Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen ‘Force for Change’

Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen ‘Force for Change’

Caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Beth yw diben y cyllid?

Grantiau hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n lleihau teimladau ynysig a hyrwyddo integreiddio; cefnogi adferiad ar ôl Covid mewn cymunedau lleol y Lluoedd Arfog sy’n cael eu heffeithio gan deimladau ynysig.

Pwy sy'n gymwys?

  • Elusennau neu Gwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Unedau neu ganolfannau’r Lluoedd Arfog
  • Awdurdodau Lleol
  • Ysgolion

Beth yw’r blaenoriaethau?

Yn 2022, mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cefnogi syniadau y mae angen symiau bach o arian arnynt i greu newidiadau neu welliannau i gymunedau’r Lluoedd Arfog.

Dyddiad Cau Ceisiadau: Heb ei gadarnhau eto ar gyfer 2023.

Rhagor o wybodaeth yma

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan