This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyllid arall Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog

Rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog

Mewn partneriaeth â’r Weinyddiaeth Amddiffyn caiff y rhaglen hon ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sef elusen sy’n cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy’n creu newid go iawn i gymunedau’r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Beth yw diben y cyllid?

O dan y rhaglen hon, bydd yr Ymddiriedolaeth yn dyfarnu grantiau ar gyfer prosiectau ar wahân sy’n amrywio o £5,000 i £80,000  sy’n cefnogi Plant y Lluoedd Arfog ar hyd eu Llwybr Addysgol.

Mae’r rhaglen Cefnogi Disgyblion y Lluoedd Arfog wedi disodli Cronfa Cefnogi Addysg Y Weinyddiaeth Amddiffyn ers 2023.

Pwy sy'n gymwys?

  • Ysgolion
  • Lleoliadau Addysg Bellach
  • Awdurdodau Lleol

SYLWER: Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog ceisiadau gan glystyrau o ysgolion sydd â nifer fach o ddisgyblion y lluoedd arfog yn ogystal â cheisiadau gan ysgolion unigol sydd â mwy na 40% o ddisgyblion y lluoedd arfog.

Beth yw’r blaenoriaethau?

  • Cau’r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion y Lluoedd Arfog a disgyblion eraill, gan ddefnyddio tystiolaeth a arweinir gan ddata
  • Mynd i’r afael ag anghenion disgyblion y lluoedd arfog ag anghenion ychwanegol trwy nodi’n gynnar ac ymyrryd yn defnyddio dull cydweithredol a chydlynol
  • Nodi a mynd i’r afael ag anghenion cohortiau bach o ddisgyblion y lluoedd arfog mewn lleoliadau addysg.

Dyddiad cau ceisiadau: 5pm 31 Mai 2023.

Rhagor o wybodaeth yma

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan