This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyllid arall Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog: Grantiau Cyfunol

Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog: Grantiau Cyfunol

Ariennir y rhaglen hon gan Ymddiriedolaeth Addysg y Lluoedd Arfog (AFET), elusen sy’n gweithio i blant ac oedolion ifanc y mae eu haddysg yn cael ei gyfaddawdu neu ei roi mewn perygl o ganlyniad i wasanaeth eu rhieni i’r lluoedd arfog nawr neu yn y gorffennol.

Beth yw diben y cyllid?

Helpu i ddarparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion y lluoedd arfog. Mae cefnogaeth fel hyn yn debygol o gynnwys ymyrraeth addysgol benodol a fydd yn arwain at ddangos gwell canlyniadau addysgol i blant y lluoedd arfog.

SYLWER: Gall AFET hefyd helpu trwy roi grant i gynorthwyo plentyn unigol i fynd i’r afael ag anawsterau sy’n gysylltiedig â gwasanaeth a symudoldeb eu rhieni.

Pwy sy'n gymwys?

  • Sefydliadau Addysg

Mae ceisiadau gan grwpiau / clystyrau o ysgolion yn cael eu hannog yn gryf.

 Beth yw’r blaenoriaethau?

  • Helpu i ariannu addysg plant sydd â’u rhieni yn y lluoedd arfog sydd wedi cael eu rhoi dan anfantais oherwydd gwasanaeth eu rhiant/rhieni.
  • Sicrhau nad yw plant yn methu allan oherwydd gwasanaeth eu rhieni, beth bynnag fo’u hoedran, gallu neu reng eu rhieni neu eu gwasanaeth nawr neu yn y gorffennol.
  • Darparu cyllid i ysgolion ar gyfer adnoddau ychwanegol i gefnogi addysg plant sydd â’u rhieni yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Dyddiad Cau Ceisiadau: Yn agored drwy’r flwyddyn.

Rhagor o wybodaeth yma

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan