Sut y mae llysgennad Plant y Lluoedd Arfog yn cefnogi SSCE Cymru?
Mae yna nifer o ffyrdd y mae Plant y Lluoedd Arfog yn cefnogi gweithgareddau SSCE Cymru, yn dibynnu ar oedran a diddordebau’r plentyn/person ifanc. Mae gweithgareddau posib yn cynnwys:
Cymryd rhan mewn gweithgareddau gydag aelodau o Rwydwaith SSCE Cymru, yn cynnwys:
- Mis y Plentyn Milwrol
- Diwrnod y Lluoedd Arfog
- Podlediad Little Troopers
Cymryd rhan mewn cynhyrchu adnoddau SSCE Cymru fel:
- Profiadau plant y Lluoedd Arfog
- Arfer da
- Gwybodaeth ar gyfer plant aelodau’r lluoedd arfog
Cefnogi’r gwaith o gynnal digwyddiadau SSCE Cymru fel:
- Cefnogi gweminarau codi arian Plant y Lluoedd Arfog
- Gweminarau Rhwydwaith SSCE Cymru
Cynrychioli Plant y Lluoedd Arfog mewn digwyddiadau/cyfarfodydd perthnasol fel:
- Cynghrair SCiP Hwb Cymru
- Cyfarfodydd Partneriaeth Awdurdod Lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Cyfarfodydd cynllun gweithredu awdurdod lleol
- Cynhadledd ‘Thriving Lives’ SCiP Alliance.
Mae Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog gweithio gydag unrhyw lysgennad sy’n cefnogi gweithgareddau SSCE Cymru, i sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n hapus, diogel, hyderus ac wedi paratoi’n dda.
Beth mae llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog yn ei wneud yn y gymuned leol?
Llysgenhadon iau plant y Lluoedd Arfog
- Rhannu eu profiadau o fod yn blentyn y Lluoedd Arfog
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau i ddathlu bod yn blentyn y Lluoedd Arfog.
Llysgenhadon hýn plant y Lluoedd Arfog
- Arwain neu drefnu gweithgareddau i ddathlu plant y Lluoedd Arfog
- Cynrychioli plant y Lluoedd Arfog yn eu hysgol a'r ysgolion bwydo.
Llysgenhadon arwain plant y Lluoedd Arfog
- Cymryd rhan mewn grwp llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog cenedlaeuthol
- Cynrychioli llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog
- Cefnogi datblygiad cynllun llysgenhadon plant y Lluoedd Arfog.