This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ysgolion Cynradd

Ysgol Gynradd Kymin View (Sir Fynwy) - Cydweithrediad Ysgol i gefnogi plant y Gwasanaeth

Ysgol Gynradd Kymin View (Sir Fynwy) - Cydweithrediad Ysgol i gefnogi plant y Gwasanaeth

Mae Ysgol Gynradd Kymin View wedi’i leoli ar ffin Cymru/Lloegr ac fe ddaw’r disgyblion o ddalgylch eang iawn. Mae yna amrywiaeth o deuluoedd Milwyr gwahanol yn yr ardal, yn cynnwys rhai sydd yn gwasanaethu ym myddin yr UDA. Mae yna farics bychan ym Mynwy sydd yn gartref i’r Peirianwyr Brenhinol ac mae rhywfaint o deuluoedd milwyr wedi ymgartrefu yn yr ardal ac mae’r rhiant yn cymudo ar gyfer gwaith, yn wythnosol neu dros gyfnodau hirach. Mae’r ysgol wedi gweithio gyda’r awdurdod lleol ac ysgolion clwstwr lleol i adnabod plant milwyr sydd yn yr ardal, trwy gyflwyno sesiwn gynefino sydd yn cynnwys cyfleoedd i deuluoedd rannu’r wybodaeth hon pan fyddant yn cael eu derbyn i’r ysgol.

Fe soniodd Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn Ysgol Gynradd Kymin View wrth arweinwyr yr ysgol am anghenion plant milwyr, yn sgil ei phrofiad o fod yn wraig i aelod o’r lluoedd arfog a, rhannodd ei dealltwriaeth ei hun o brofiadau, heriau ac anghenion teulu milwyr.

Mae gan yr ysgol brofiad o aelodau’r lluoedd arfog ar y corff llywodraethu, a soniodd am argaeledd cyllid gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru. Ers hynny mae’r ysgol wedi arwain y clwstwr ysgolion, gan adnabod plant milwyr, eu hanghenion a gwneud cais am gyllid i’w cefnogi’n emosiynol a chefnogi eu lles. Cyflwynodd yr ysgol y broses o adnabod teuluoedd milwyr trwy’r rhaglen gynefino. 

Nifer plant milwyr yn Ysgol Gynradd Kymin View a’r clwstwr lleol: 23 (2%)

Astudiaeth achos wedi’i gwblhau gan: Leigh Gwyther, Awdurdod Goruchwylio Lleol / Cymhorthydd Clwstwr Mynwy y Weinyddiaeth Amddiffy

 

Sut mae Ysgol Gynradd Kymin View a’r clwstwr lleol yn cefnogi anghenion emosiynol ac anghenion lles plant milwyr yn eu hysgolion?

  1. Adnabod anghenion plant milwyr ar draws y clwstwr
  2. Staff ychwanegol
  3. Cefnogaeth a strategaethau iechyd meddwl a lles
  4. Mesur yr effaith
  5. Cysylltu â’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog

Sut mae Ysgol Gynradd Kymin View a’r clwstwr yn adnabod anghenion plant milwyr pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol?

  • Mae pob ysgol yn Sir Fynwy a’r clwstwr lleol yn gofyn i rieni a ydynt yn ffitio mewn i’r meini prawf milwyr pan fyddant yn dechrau, ac mae hyn wedi ei amlinellu yn y ddogfen derbyn; yna caiff y data ei gofnodi ar y raglen data yr ysgol.
  • Rydym yn siarad gyda rhieni pan fydd eu plentyn dechrau yn yr ysgol neu’n ymweld â’r ysgol, yna rydym yn gofyn iddynt am gefnogaeth flaenorol/meysydd o bryder ac yn annog cyfathrebu da yn ystod eu hamser yn yr ysgol.
  • Rydym yn sicrhau fod yr holl staff yn ymwybodol o’r heriau allai godi a newidiadau posibl i ymddygiad allai arwain at adnabod a chefnogi angen.
  • Mae staff penodol wedi’u hyfforddi ym maes iechyd meddwl a chefnogi lles.
  • Caiff plant eu harsylwi yn ystod dysgu dyddiol yn yr ystafell ac wrth chwarae gan Gynorthwywyr Cymorth Dysgu penodol; rhoddir adborth i’r athro/athrawes ddosbarth a chaiff cefnogaeth ei drefnu os oes angen.
  • Cynhelir asesiadau ar gyfer meysydd pwnc craidd e.e. Llafar/Mathemateg a chaiff unrhyw fylchau eu nodi gan yr athro/athrawes dosbarth, a byddant yn gweithredu
  • Caiff asesiadau ar gyfer sgiliau cymdeithasol eu cynnal trwy raglen benodol
  • Mae’r Pennaeth yn cydlynu’r amserlen yn seiliedig ar y nifer o blant milwyr ym mhob ysgol clwstwr.
  • Yna bydd y Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn ymweld â’r ysgol ac yn trafod yr anghenion gyda'r Pennaeth, athro/athrawes dosbarth a’r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol.  Mae’r rhaglen wedi’i deilwra’n benodol i fodloni anghenion y plant. Yn aml mae hyn yn cynnwys ‘integreiddio gwrthdroëdig’ lle mae plant nad ydynt yn blant milwyr yn ymuno â’r plentyn milwr i dderbyn ymyrraeth benodol i fodloni eu hanghenion emosiynol, cymdeithasol ac academaidd.
  • Caiff monitro ac asesu gofalus eu cynnal i sicrhau fod y plant yn gwneud cynnydd a bod unrhyw fylchau’n cael eu cau. Bydd plant heb unrhyw fylchau academaidd yn derbyn sesiynau cryfhau er mwyn ymestyn eu gallu a’u meddwl.

Estyn 2016


"Maent yn gweithredu strategaethau ymyrraeth effeithiol sy'n cael effaith gadarnhaol ar wella canlyniadau a lles disgyblion"

 

2. Sut mae Ysgol Gynradd Kymin View yn defnyddio staff ychwanegol i gefnogi anghenion plant Milwyr?

  • Mae Cynorthwyydd Cymorth Dysgu yn cefnogi plant milwyr ac yn ymweld a chefnogi plant milwyr ar draws y clwstwr – wedi’i ariannu gydag arian Llywodraeth Cymru.
  • Cynhelir sesiwn gyflwyno gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu plant milwyr ynghyd â sesiwn ‘dod i’ch adnabod’ ar gyfer y rhieni a phlant. Yna os oes ganddynt unrhyw bryderon, dylent gysylltu â’r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu.
  • Mae aelod staff penodol wedi’i hyfforddi mewn strategaethau iechyd meddwl a lles, a nhw yw'r cyswllt rheolaidd ar gyfer teuluoedd a phlant, trwy gyfathrebu’n dda maent yn meithrin perthnasau cadarnhaol.
  • Mae gan y staff hyfforddiant iechyd meddwl a lles priodol a chaiff hyn ei ddiweddaru’n rheolaidd E.e. ELSA/Thrive/Nurture/Lego Therapy.

3. Pa strategaethau a chefnogaeth y mae Ysgol Gynradd Kymin View yn eu defnyddio i effeithio ar iechyd meddwl a lles?

  • Sesiynau galw heibio a sesiynau un-wrth-un/grwp gyda Chynorthwyydd Cymorth Dysgu sydd wedi hyfforddi’n briodol.
  • Cyfathrebu’n dda a meithrin perthnasau ar draws teuluoedd a staff
  • Mae pob aelod staff wedi’u hyfforddi i ddeall anghenion iechyd meddwl a lles, maent yn ymwybodol o heriau y mae plant milwyr yn eu hwynebu dros amser, mae staff newydd yn dysgu am brofiadau a heriau teuluoedd a phlant milwyr.
  • Rydym yn tynnu ar brofiadau plant milwyr ac yn deall eu hanghenion. Sicrhau ein bod yn ymdrin â rhai meysydd pwnc yn sensitif, e.e. Dysgu am bynciau sy’n gysylltiedig â rhyfel mewn gwersi hanes
  • Mae’r rhaglen Talkabout yn cael ei ddefnyddio i adnabod anghenion plant gyda sgiliau cymdeithasol ac emosiynau drwy weithgareddau o’r adnoddau, caiff y rhain eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y plentyn.
  • Caiff gweithgareddau eu cynnal i gefnogi plant i siarad am eu teimladau ac emosiynau.
  • Mae hyfforddiant Thrive yn cael ei gynnal; bydd sesiynau ar gael i blant gyda staff dynodedig. 
  • Mae ystafell arbennig yn cael ei pharatoi a bydd ar gael ar gyfer gwaith cefnogi, bydd yr ystafell hon yn dawel i gefnogi gwaith a gweithgareddau gyda’r plant.  
  • Mae Therapi Lego© wedi cael ei ddatblygu i gefnogi anghenion emosiynol plant, gyda phaciau o gardiau â phatrymau arnynt i wneud briciau/cardiau i annog geirfa e.e. lliw/maint/teimlad. Rhoddir rolau gwahanol i blant – pensaer/peiriannydd/dylunydd/adeiladwr. 
  • Caiff strategaethau therapi gwybyddol ymddygiadol eu defnyddio i gefnogi rhai o’r plant gydag anghenion dicter, ymddygiad neu emosiynol - Think Good, Feel Good, Paul Stallard - ar gael ar Amazon
  • Mae therapi siarad a darlunio ar gael.  
  • Mae llyfrau sydd yn ymwneud â theuluoedd a phlant milwyr ar gael i’w benthyg o’r llyfrgell, e.e. I Miss You – llyfr i blant y luoedd arfog ynglyn ag adleoli, Mummys’ Home a The Invisible String.

4. Sut mae Ysgol Gynradd Kymin View yn mesur effaith y gefnogaeth?

5. Pa gysylltiadau sydd gan Ysgol Gynradd Kymin View gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog?

  • Mae’r clwstwr ysgolion lleol yn cefnogi’r Cynorthwyydd Cymorth Dysgu a cheisiadau parhaol am gyllid
  • Mae gennym ymwybyddiaeth o ddathliadau a digwyddiadau Lluoedd Arfog ac mae’r rhain yn cael sylw ac yn rhan o galendr dathliadau clwstwr ysgolion ar draws y flwyddyn, e.e. Dydd y Cofio, caiff torchau eu gosod gan bob ysgol yn flynyddol  
  • Fe ddyluniwyd mwg gan y plant trwy gystadleuaeth i ddathlu 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf – roedd yn gystadleuaeth rhwng tair ysgol.  
  • Fe wnaethom gynnal cystadlaethau ac fe grëwyd llyfr barddoniaeth gyda cherddi gan y plant i ddathlu’r canmlwyddiant, a chafodd ei gyhoeddi gyda chyllid trwy Grant y Cyfamod.
  • Mae’r ysgolion yn cefnogi elusennau sydd wedi’u cysylltu â’r Lluoedd Arfog yn y gymuned leol.
  • Rydym yn gwahodd cyn aelodau o’r Lluoedd Arfog yn y gymuned leol i fynychu gwasanaethau a digwyddiadau sy’n seiliedig ar destun yn yr ysgol.
  • Mae rhieni, cyn-filwyr, cymuned y Lluoedd Arfog yn lleol yn cael eu gwahodd i rannu profiadau mewn anerchiadau a gwasanaethau.  
  • Cefnogaeth a chydweithio gydag Emma Ashmead Swyddog Cefnogi Addysg Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ar gyfer Sir Fynwy
  • Rhwydweithio gyda SSCE Cymru a mynychu Diwrnodau Budd-Ddeiliaid.

Adborth rhieni

“Mae holl staff yr ysgol yn ymwybodol o anghenion fy mhlentyn, gall eu hemosiynau ymddangos ar unrhyw adeg drwy gydol y dydd ac maent yn ymwybodol o beth i’w wneud os bydd mater yn codi, gallant adnabod yr arwyddion a deall eu hemosiynau. Mae fy mhlentyn wedi magu hyder gyda’i dysgu, mae’r ysgol wedi rhai amser iddynt addasu, magu hyder a datblygu eu sgiliau.”

 

Dyddiad a gafodd ei gynhyrchu: Rhagfyr 2019

Ysgolion Cynradd

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan