This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Ymchwil Cynghrair SCiP

Gwybodaeth am Gynghrair Cynnydd Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog (SCiP)

Mae SSCE Cymru yn aelod o grŵp ymarfer y Gynghrair SCiP ac yn cymryd rhan yn ei gweithgareddau.

Gweledigaeth Cynghrair SCiP yw bob plant aelodau’r Lluoedd Arfog yn byw bywydau ffyniannus.

Cenhadaeth Cynghrair SCiP yw cefnogi a hyrwyddo cynnydd plant personél milwrol fel bod yr hyder a’r wybodaeth  ganddynt i’w galluogi i symud drwy addysg bellach ac uwch i fywydau a gyrfaoedd ffyniannus fel oedolion.

Mae Cynghrair SCiP yn ceisio gwireddu’r weledigaeth a’r genhadaeth hon drwy arwain gwaith cydweithredol i ddatblygu sail gadarn o dystiolaeth, cysylltu â, a chefnogi ymarferwyr a dylanwadu ar bolisïau.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gynghrair SCiP, ewch i www.scipalliance.org

Ymchwil Cynghrair SCiP

Mae’r Gynghrair SCiP wedi ymrwymo i ddarparu gwell deilliannau addysg bellach ac uwch ar gyfer plant aelodau’r Lluoedd Arfog.  Mae ar y Gynghrair angen gwybodaeth well cyn y gall wneud yn well.  Dyma’r rheswm pam mai canolfan ymchwil-ymarfer yw’r Gynghrair SCiP.

Mae’r Gynghrair SCiP yn cynhyrchu gwybodaeth friffio sy’n helpu i grynhoi ymchwil a gwneud argymhellion ar gyfer ymarfer a pholisi.  Mae’r pynciau y mae’n canolbwyntio arnynt yn cynnwys gwytnwch a symud ysgol. Gellir gweld y gyfres friffio yma.

Gellir dod o hyd i lawer mwy o wybodaeth am ymchwil sy'n berthnasol i brofiadau plant y lluoedd yn pecyn cymorth ysgolion SSCE Cymru.

 

Plant Aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n symud ymlaen i addysg bellach ac uwch

"Mae pedwar o bob deg disgybl sy’n blant i aelodau’r Lluoedd Arfog a chanddynt y gallu i symud ymlaen i addysg uwch yn annhebygol o wneud hynny."
McCullouch and Hall (2016), Further and higher progression for Service children

 

Gwrando i Ddysgu: Lleisiau Plant y Lluoedd

Rhaglen ymchwilio i wella ein dealltwriaeth o'r rhai sy'n cefnogi plant teuluoedd y lluoedd arfog a chyn-filwyr/cyn-bersonél y gwasanaeth yn rhoi lleisiau plant wrth calon popeth.
Hall (2020), Gwrando i Ddysgu: Llais Plant y Gwasanaeth

Cynghrair SCiP – Canolfannau Cymru

Mae rhwydwaith Cynghrair SCiP  o ganolfannau rhanbarthol yn dwyn ynghyd bartneriaethau sy’n cysylltu rhanddeiliaid fel y gallant:

  • Alluogi cydweithio newydd a gwell
  • Hwyluso cyfathrebu
  • Meithrin capasiti a gallu 
  • Estyn allan at randdeiliaid newydd
  • Cyfathrebu gyda, a chyfrannu at a thynnu ar wybodaeth o Grŵp Ymarfer Cynghrair SCiP a’r Bwrdd Strategaeth
  • Rhannu ac ymateb ar y cyd i:
    • Ymarfer effeithiol
    • Heriau
    • Syniadau
    • Blaenoriaethau
    • Cwestiynau

Mae Prifysgol De Cymru (PDC) ac SSCE Cymru yn rhedeg  Canolfan Cynghrair SCiP Cymru ar y cyd.  Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd 2019 a daeth a sefydliadau ynghyd i drafod ymchwil, polisi ac ymgysylltiad â phrifysgolion gyda phlant a chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

Mae sefydliadau sy’n rhan o Gynghrair SCiP – Canolfan Cymru yn cynnwys:

Am ragor o wybodaeth am sut i fod yn rhan o Gynghrair SCiP – Canolfan Cymru, cysylltwch â SSCECymru@wlga.gov.uk

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan