This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Sefydliadau eraill

Prifysgol De Cymru – cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog

Prifysgol De Cymru – cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog

Mae Prifysgol De Cymru yn Sefydliad Addysg Uwch blaenllaw yn y DU a Chymru ar draws sawl agwedd ar ymgysylltu'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-bersonél y Lluoedd Arfog a phersonél sy’n gwasanaethu, eu gwŷr a’u gwragedd a’u plant.

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan:

Dr. Ross Hall – Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a Chyfarwyddwr Partneriaethau Strategol: Y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr (Prifysgol De Cymru)

Rebecca Bowen – Uwch Swyddog Recriwtio Myfyrwyr – Rheolwr yr is-dîm ehangu cyfranogiad (Prifysgol De Cymru)

Rebecca Breen – Swyddog Recriwtio Myfyrwyr – Arweinydd gweithgaredd ehangu cyfranogiad Plant y Lluoedd Arfog (Prifysgol De Cymru)

Lisa Taylor - Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon (Prifysgol De Cymru)

Kathryn Matthews – Arweinydd Derbyniadau (Prifysgol De Cymru) 

Caitlin Woodland – Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog yn Nwyrain Cymru (Cyngor Dinas Casnewydd ac SSCE Cymru)

 

Sut mae'r Brifysgol yn cynnig cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog?

 

1. Wedi dynodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog

2. Wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

3. Yn cynnwys Plant y Lluoedd Arfog mewn Cynllun Ffioedd a Mynediad

4. Yn cyd arwain Canolbwynt Cymru y Gynghrair SCiP

5. Yn Cynnal Diwrnod Lluoedd Creadigol

6. Wedi nodi Plant y Lluoedd Arfog sy’n astudio yn y Brifysgol

7. Wedi ymrwymo i gynnwys Plant y Lluoedd Arfog yn y cwricwlwm hyfforddi athrawon.

 

1. Wedi dynodi Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog

Prifysgol De Cymru oedd y Brifysgol gyntaf yn y DU i gael Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog dynodedig. Mae Dr. Ross Hall wedi bod yn ganolog wrth arwain ar gydlynu’r gweithgareddau a amlinellir yn yr astudiaeth achos hon.

Yn sgil gweithgareddau'r Hyrwyddwr, enillodd y Brifysgol Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn ym mis Awst 2018. Prifysgol De Cymru oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i sicrhau'r wobr hon ac roedd yn un o'r Sefydliadau Addysg Uwch cyntaf yn y DU i dderbyn gwobr Aur ym mis Awst 2018. Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn cynnig cefnogaeth i brifysgolion eraill y DU yn eu ceisiadau ar gyfer Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn a phrosiectau ymchwil eraill a chynigion am gyllid allanol.

Arweiniodd yr Hyrwyddwr hefyd ar gyflwyno cynllun Cydnabod Dysgu Blaenorol y Lluoedd Arfog Prifysgol De Cymru, sydd wedi helpu dros 450 o bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-bersonél y Lluoedd Arfog i addysg uwch. 

2. Wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cefnogwyd pob un o bedwar prif faes Cyfamod y Lluoedd Arfog gan y Brifysgol, gan gynnwys aelodau sy’n gwasanaethu a chyn-aelodau'r Lluoedd Arfog, eu gwyr a'u gwragedd, a'u plant. Mae’r Brifysgol wedi hysbysebu Cyfamod y Lluoedd Arfog yn allanol ac wedi annog, a rhoi cefnogaeth i Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru a’r DU i ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog a llofnodi’r Cyfamod.

I atgyfnerthu llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, cymerwyd y camau a ganlyn dros gyfnod o chwe mis:

  • Datblygodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ddogfen strategol yn amlinellu gweithgareddau ymgysylltu arfaethedig ar gyfer Pwyllgor Gwaith y Brifysgol
  • Cynhaliodd y Brifysgol amrywiaeth o gyfarfodydd adrannau mewnol yn ceisio newid polisïau a gweithdrefnau mewnol a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan ganolbwyntio’n bennaf ar eu cynllun Ffioedd a Mynediad.

“Os oes diddordeb gennych mewn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, y cam cyntaf yn ddelfrydol er mwyn ymgysylltu yw cysylltu â'r Cyfarwyddwr Ymgysylltu a Chyflogwyr Rhanbarthol sydd wedi’i leoli yn yr RFCA yng Nghymru (wa-reed@rfca.mod.uk). Y cam cyntaf yw arddangos ymrwymiad parhaus i gymuned ehangach y Lluoedd Arfog.”

Dr. Ross Hall, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Prifysgol De Cymru

3. Yn cynnwys Plant y Lluoedd Arfog mewn Cynllun Ffioedd a Mynediad

Mae Cynllun Ffioedd a Mynediad Prifysgol De Cymru ar gyfer 2020/21 yn nodi plant o deuluoedd milwrol fel un o’i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a dyma’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn archwilio dulliau o ymgysylltu â’r boblogaeth hon sydd wedi’i thangynrychioli, ac felly ym mis Awst 2020, sefydlodd Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU is-dîm yn gyfrifol am ddatblygu a darparu gweithgareddau wedi’u targedu ar gyfer myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, fel y nodwyd yn y Cynllun Ffioedd a Mynediad. Mae un aelod o’r is-dîm bellach yn arwain gweithgareddau ar gyfer Achub y Plant.

4. Yn cyd arwain Canolbwynt Cymru y Gynghrair SCiP

Mae Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â SSCE Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid Cyfamod Cymunedol i sefydlu Canolbwynt Cymreig Cynghrair Dilyniant Plant y Lluoedd Arfog (SCiP). Bydd y bartneriaeth yn cwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae dau arweinydd y canolbwynt yn eistedd ar Fwrdd a Grwp Ymarfer y Gynghrair SCiP. Mae diddordebau ymchwil a syniadau hefyd yn parhau i gael eu datblygu gyda budd-ddeiliaid eraill a Sefydliadau Addysg Uwch ar draws y DU gan ganolbwyntio ar Blant y Lluoedd Arfog a’u taith addysgol. Bydd gweithgareddau o’r fath yn cael eu datblygu, eu darparu, a lle bo hynny’n briodol yn cael eu cyflwyno ar gyfer adolygiad gan gymheiriaid, i hysbysu arferion da a dylanwadu ar bolisïau perthnasol y llywodraeth.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan, cliciwch yma.

5. Yn Cynnal Diwrnod Lluoedd Creadigol

Gohiriwyd digwyddiad arfaethedig Diwrnod Lluoedd Creadigol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn Haf 2020 oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, mae’r arweinydd ar gyfer gweithgareddau yn y maes hwn eisoes wedi meithrin perthnasoedd gwaith agos gyda SSCE Cymru a Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol SSCE Cymru sydd newydd gael eu penodi, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer digwyddiad Diwrnod Lluoedd Creadigol ar-lein yn 2021.

"Rydym wedi ein cyffroi'n llwyr i adeiladu ar bartneriaeth Prifysgol De Cymru gyda SSCE Cymru drwy ddod y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gynnal digwyddiad Diwrnod Lluoedd Creadigol."

Rebecca Breen, Swyddog Recriwtio Myfyrwyr Prifysgol De Cymru

6. Wedi nodi Plant y Lluoedd Arfog sy’n astudio yn y Brifysgol

Pan fo myfyrwyr gyda chysylltiad â’r Lluoedd Arfog yn ceisio astudio gyda’r Brifysgol, gwneir nodyn ar eu cofnodion fel y gellir adrodd arno. Ers 2015, mae Prifysgol De Cymru wedi gosod dros 400 o fyfyrwyr gyda chefndir y Lluoedd Arfog, naill ai’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu wedi gwasanaethu dros y 15 mlynedd ddiwethaf; ar dudalen Lluoedd Arfog y Brifysgol fel y gallwch chi ddarllen mwy am brofiadau rhai o'r myfyrwyr hyn.

Nid oes unrhyw ddata yn cael ei gadw ar ddilyniant Plant y Lluoedd Arfog o fewn y Brifysgol, er y bydd hyn yn newid ym mhroses newydd UCAS, sy’n cyflwyno cwestiwn ar geisiadau israddedigion sy’n nodi Plant y Lluoedd Arfog. Y gobaith yw datblygu cynnig ymchwil aml-brifysgol ledled y DU i gasglu data o'r fath ac amlinellu canlyniadau addysgol i Blant y Lluoedd Arfog.

7. Wedi ymrwymo i gynnwys Plant y Lluoedd Arfog yn y cwricwlwm hyfforddi athrawon

Mae Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gynnwys cefnogaeth i blant y lluoedd arfog yn eu darpariaeth i fyfyrwyr addysg. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn modiwlau Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg ac Astudiaethau Craidd mewn sesiynau lle mae myfyrwyr yn archwilio, ymchwilio, ac yn trafod cwrdd ag anghenion pob dysgwr, natur amrywiol a newidiol poblogaeth ysgolion Cymru, a hawl dysgwyr i lais mewn materion sy'n ymwneud â'u bywydau. Bydd y themâu hyn yn cael eu cyflwyno ym Mlwyddyn 1 ac yn cael eu hastudio eto ym Mlynyddoedd 2 a 3..

Os ydych chi’n cynrychioli Sefydliad Addysg Uwch a hoffai gyflwyno'r camau a nodir er mwyn gwella eich cefnogaeth i Blant y Lluoedd Arfog a chymuned y Lluoedd Arfog, yna gall SSCE Cymru eich helpu i wneud hyn. Anfonwch e-bost atom ar  SSCECymru@WLGA.gov.uk 

Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2020

Sefydliadau eraill

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan