This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Sefydliadau eraill

Swyddog Datblygu Cymunedol (RAF Y Fali, Ynys Môn) - Gweithgareddau a darpariaeth ieuenctid i blant y Lluoedd Arfog

Swyddog Datblygu Cymunedol (RAF Y Fali, Ynys Môn) - Gweithgareddau a darpariaeth ieuenctid i blant y Lluoedd Arfog

Mae RAF y Fali ar Ynys Môn yn gartref i Ysgol Hyfforddiant Hedfan Rhif 4, sy’n gyfrifol am hyfforddi cenhedlaeth nesaf y DU o beilotiaid gorau’r byd. Mae’r Criwiau Awyr yn cael eu hyfforddi yn RAF Y Fali hefyd ar gyfer gweithgareddau mynydd a morol dros y byd i gyd. Mae RAF y Fali yn gartref i’r Gwasanaeth Achub Mynydd, unig ased rheoli ar ôl damwain y fyddin sef awyren barod ymhob tywydd ar gyfer chwilio ac achub. Mae 1,500 o bersonél y Gwasanaeth, gweision sifil a chontractwyr yn gweithio yn RAF y Fali.

Mae RAF y Fali yn cael ei ddosbarthu fel uned statws unigol ac mae teuluoedd yn aros yno am rhwng dwy a phedair blynedd ar leoliad. Mae rhai teuluoedd yn penderfynu setlo yn yr ardal yn dilyn ymddeoliad o’r Lluoedd Arfog. Mae RAF y Fali wedi cael ei leoli ger Parc Cenedlaethol Eryri, ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Oherwydd bod y rhan fwyaf o ysgolion ar Ynys Môn yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwneud Lwfans Ysgol Ddydd ar gael i deuluoedd sy'n cael eu lleoli yn RAF y Fali. Mae’n galluogi plant y Gwasanaeth i gael mynediad i addysg drwy gyfrwng y Saesneg. Mae addysg drwy gyfrwng y Saesneg ar gael mewn ysgolion dydd annibynnol yn unig, ac felly mae'r lwfans hwn yn gyfraniad at y ffioedd. Mae hwn ar gael ar gyfer pob plentyn o oedran ysgol statudol ar hyn o bryd.

Nifer o Blant y Gwasanaeth sy’n byw yn RAF y Fali rhwng 0 ac 17 mlwydd oed: 188

 

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Dean Clarke, Swyddog Datblygu Cymunedol a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog

Beth mae byw yn RAF Y Fali yn ei olygu i blant y Gwasanaeth?

  • Mae’r lwfans ysgol ddydd a phresenoldeb mewn ysgolion preifat yn lleol yn golygu bod mwy o amser yn cael ei dreulio ar fysus, yn cludo plant i, ac o’r orsaf.
  • Mae presenoldeb mewn ysgol breifat yn golygu nid yw plant yn derbyn gofal cofleidiol yn yr ysgol oherwydd bod cludiant yn gadael ar ôl yr ysgol i fynd yn ôl i’r orsaf.
  • Efallai bod bylchau yn eu haddysg neu weithiau gorfod ailadrodd gweithgareddau addysgol ac addysg.

Pwy sy’n elwa o’r gefnogaeth ieuenctid a’r gweithgareddau sy’n cael eu darparu yn RAF y Fali?

  • Mae 68% o’r plant yn yr orsaf dan bum mlwydd oed.
  • Mae llai o blant oedran ieuenctid (13-16 mlwydd oed) felly rydym wedi gorfod cyfuno’r plant llai a’r plant hyn i wneud gweithgareddau yn hyfyw i'r orsaf.
  • Mae 25% o blant y Gwasanaeth y ymgysylltu gyda gweithgareddau yn RAF y Fali.
  • Mae 15% o blant y Gwasanaeth hefyd yn ymgysylltu mewn gweithgareddau ieuenctid a chwaraeon lleol.

Pa ddarpariaeth a gweithgareddau ieuenctid sydd ar gael yn RAF y Fali i gefnogi plant y Gwasanaeth?

  1. Nodi anghenion plant y Gwasanaeth
  2. Rôl y Swyddog Datblygu Cymunedol
  3. Effaith darpariaeth ieuenctid
  4. Defnyddio nawdd allanol
  5. Cysylltiadau gyda sefydliadau allanol

1.    Sut mae gwasanaethau darpariaeth ieuenctid yn nodi anghenion plant y Gwasanaeth?

  • Cynhelir dadansoddiad o anghenion y gymuned yn flynyddol gan y Swyddog Datblygu Cymunedol, ar y cyd gyda’r orsaf, sy’n cael ei ddefnyddio i ddiweddaru proffil dadansoddiad o anghenion y gymuned a datblygu cynllun gweithredu
  • Mae’r ddarpariaeth ieuenctid yn sefydlu blaenoriaethau ariannu mewn ymgynghoriad gyda budd-ddeiliaid allweddol ar draws yr orsaf
  • Mae arolygon yn cael eu cynnal ar draws y gymuned a sefydliadau cysylltiedig ac mae'r adborth yn cael eu hystyried
  • Mae’r cynllun gweithredu a ddatblygwyd yn cael ei fonitro a'i weithredu gan y Swyddog Datblygu Cymunedol a Chomander yr Orsaf, i sicrhau ei fod yn cael effaith ar yr anghenion a nodwyd.

2.    Beth yw rôl y Swyddog Datblygu Cymunedol?

  • Asesu anghenion y gwasanaeth darpariaeth ieuenctid a chymuned y Lluoedd Arfog
  • Goruchwylio darpariaeth 0-18 mlwydd oed, gan gynnwys addysg, darpariaeth ieuenctid, rhieni a phlant bach, grwpiau iwnifform, darpariaeth meithrinfa a darpariaeth gwyliau.  
  • Cefnogi’r system gludiant i, ac o’r ysgolion preifat
  • Cadeirydd Cyfarfod y Bwrdd Plant a Phobl ifanc (BPPI)
  • Rhoi cyngor i’r orsaf ar bolisïau ieuenctid, cymunedol, chwarae a’r blynyddoedd cynnar
  • Gweithredu fel Hyrwyddwr Cyfamod y Lluoedd Arfog o fewn yr orsaf, gan sicrhau bod gan blant lais
  • Datblygu ceisiadau grant am nawdd a chael cyllid i fodloni anghenion cymuned y Gwasanaeth yn yr orsaf

3.    Pa effaith y mae’r Swyddog Datblygu Cymunedol a’r ddarpariaeth ieuenctid wedi ei gael ar RAF y Fali?

  • Oherwydd bod yr orsaf mewn safle unigol, mae strategaeth ar waith i leihau hyn, ac mae wedi gwella dros y blynyddoedd diweddar
  • Gwella’r gymuned leol ac integreiddio plant y gwasanaeth gyda gweithgareddau ar draws y safle; gan gynnwys dewisiadau ar gyfer plant nad ydynt yn blant y gwasanaeth i ymuno â’r digwyddiadau gweithgareddau a defnyddio offer
  • Mae adnewyddiad llawn o adeiladau'r gymuned ac ieuenctid gan ddefnyddio £600,000 o nawdd wedi cael ei drefnu
  • Cynyddu’r nifer o sesiynau ieuenctid sydd ar gael bob wythnos, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd a gweithgareddau
  • Cefnogwyd ymestyniad a datblygiad y ddarpariaeth gwyliau sydd ar gael, gan gynnwys amrywiaeth ehangach o chwaraeon, ymweliadau oddi ar y safle, gweithdai clybiau ieuenctid artistiaid graffiti, drymio Affricanaidd, dawnsio stryd, ioga a thennis
  • Sefydlwyd cysylltiadau gydag elusennau lleol y Lluoedd Arfog, megis Y Lleng Brydeinig, a drefnodd seibiant ac ymweliadau preswyl y Pabi i deuluoedd
  • Mae ystod eang o ddigwyddiadau teuluoedd ar gael yn yr orsaf, gan gynnwys gweithgareddau tymhorol (Noson Calan Gaeaf/y Nadolig/yr haf), teithiau siopa i ardaloedd siopa mwy, sesiynau chwaraeon aros a chwarae i deuluoedd, a dyddiau cronfa'r teulu
  • Mae ystod eang o weithgareddau cymunedol ar gael, gan gynnwys cymorth cyntaf babanod a phlant, cymorth cyntaf pediatreg, ymwybyddiaeth ofalgar, meithrin, cyrsiau rhianta, gweithdai chwarae synhwyraidd a boreau coffi rheolaidd
  • Mae ystod eang o gyfleusterau hamdden cymdeithasol yn cael eu defnyddio gan grwpiau ieuenctid yn rheolaidd, gan gynnwys bowlio deg, sinema, campfa a chyfleusterau chwaraeon
  • Cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a lles, gan gynnwys pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant diogelu i gefnogi adnabod unrhyw faterion, gweithwyr ieuenctid wedi'u hyfforddi ac sy'n gymwys, hyfforddiant i staff ar sut i gefnogi plant y Gwasanaeth
  • Ystod ehangach o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys coginio, datblygiad celf, trafodaethau grwp, diogelwch ar y we, gweithdai rhwng ffrindiau
  • Darperir bwrdd gwybodaeth, gyda gwybodaeth a thaflenni gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gwahanol anghenion
  • Mae aelodau ieuenctid yn cael eu hymgynghori ar y materion/heriau maent yn eu hwynebu, a rhoddir cynlluniau ar waith i ddod drostynt

4.    Sut mae RAF y Fali yn defnyddio cyllid allanol i gefnogi datblygiad y ddarpariaeth ieuenctid?

  • Y rhaglen Airplay Support yw Cronfa Lles yr Awyrlu Brenhinol ac mae’n rhaglen gefnogi £24 miliwn, i blant a phobl ifanc y mae eu rhieni yn gwasanaethu'r Awyrlu Brenhinol. Fel elusen lles pennaf yr Awyrlu Brenhinol, cychwynnodd y Gronfa y rhaglen Airplay mewn ymateb i'r gwaith ymchwil a ganfyddodd mai cadw pobl ifanc brysur yn ddiogel yn y gorsafoedd oedd ail bryder fwyaf teuluoedd yr Awyrlu Brenhinol ar ôl y tai. Mae Cefnogaeth Ieuenctid Airplay yn bwriadu codi ansawdd y ddarpariaeth ar draws gorsafoedd yr Awyrlu Brenhinol fel bod pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr yn gwybod lle bynnag y byddant yn cael ei lleoli yn y DU, bydd Airplay yno i roi croeso cynnes mewn amgylchedd cefnogol. Yn RAF Y Fali, mae’r prosiect Airplay yn cael ei oruchwylio gan y Swyddog Datblygu Cymunedol sy’n cydlynu nifer o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc, darpariaeth gwyliau, sesiynau teuluol a phrosiectau cefnogaeth rianta.
  • Dros y pedair blynedd ddiwethaf, rhoddwyd sawl miliwn o bunnau mewn cyllid mewnol ac ariannol i ddatblygu cefnogaeth y blynyddoedd cynnar o fewn y gymuned ieuenctid yng ngorsaf RAF y Fali.

5. Pa sefydliadau y mae gwasanaeth ieuenctid RAF Y Fali yn cydweithio gyda nhw i ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth?

  • Adran Datblygu Chwaraeon Cyngor Ynys Môn
  • Tennis Cymru
  • Hoci Cymru
  • Y Lleng Brydeinig Frenhinol
  • Pob ysgol leol yn yr ardal
  • Cronfa Lles yr Awyrlu Brenhinol, sy’n noddi'r rhaglen Airplay
  • Cronfa ganolog sy'n cyllido gweithgareddau chwaraeon
  • Gweithredu dros Blant
  • Gorsaf RAF Y Fali, sy’n hwyluso ymweliadau i’r adran dân a hedfan cyflym y jetiau.

 Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2019

Sefydliadau eraill

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan