This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Sefydliadau eraill

Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc YEP (Rhondda Cynon Taf) - Effaith gadarnhaol darpariaeth ieuenctid

Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc YEP (Rhondda Cynon Taf) - Effaith gadarnhaol darpariaeth ieuenctid

Mae gan Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT) boblogaeth o tua 240,000.  Mae’r cyfran mwyaf o blant y lluoedd arfog yn Aberdâr, Cwm Cynon, a chlwstwr o deuluoedd y Gymanwlad wedi setlo yn yr ardal.   Mae’r rhan fwyaf o blant y lluoedd arfog yn yr awdurdod lleol yn derbyn addysg gyson ar draws eu hysgolion ac nid ydynt yn symudol.    Mae yna gohort o deuluoedd y Lluoedd Arfog, gyda’r rhieni yn teithio o’r safle i’r cartref ar benwythnosau yn unig ac mae eu symudedd gweithredol yn cael ei bennu gan yr unedau a wasanaethir ganddynt ar draws y tri gwasanaeth.   Mae gan RhCT rwydwaith cymorth gweithredol iawn i deuluoedd y Lluoedd Arfog a chynfilwyr, gan gynnwys aelodau’r cyngor, grwpiau gwirfoddol a rhwydwaith gwybodaeth cyn-filwyr sy’n cefnogi trawsnewid a llawer o asiantaethau cymorth eraill. 

Gall plant y lluoedd arfog fod yn fwy gwydn gan eu bod yn cynnig profiadau gwahanol ac maent wedi delio gydag amrywiaeth ehangach o faterion.   Mae gan blant y lluoedd arfog sy’n symud i mewn ac allan brofiadau a chefndiroedd eraill o’u gwahanol safleoedd ar draws y DU a gweddill y byd. 

Nifer o blant y lluoedd arfog a gofrestrwyd drwy SIMs ar draws Rhondda Cynon Taf: 209 

Cwblhawyd astudiaeth achos gan:  Jane Hurford, Cefnogwr Gwasanaeth Partneriaeth Ymgysylltu â Ieuenctid (YEPS)

Pa heriau mae plant y Lluoedd Arfog a theuluoedd ar draws RhCT yn wynebu wrth ymgysylltu â darpariaeth Ieuenctid?

  • Gall teuluoedd gael eu hynysu ar draws RhCT a gall cludiant fod yn broblem i rai plant gyrraedd digwyddiadau a grwpiau.
  • Mae teuluoedd yn aros yn lleol i’r ardal gan mai hwn yw eu safle cartref ac mae’r rhiant sy’n gwasanaethu yn teithio i’w man gwaith, felly mae teuluoedd yn aml yn delio gyda gwahanu.
  • Bydd gan ysgolion weithiau nifer fach o Blant y Lluoedd Arfog maent angen eu cefnogi.
  • Nid yw rhai teuluoedd, rheolaidd ac wrth gefn yn dymuno cael eu hadnabod fel teuluoedd y Lluoedd Arfog o fewn yr ardal.
  • Bu cynnydd diweddar mewn anghenion iechyd meddwl a lles ymhlith plant sy’n ieuenctid.  
  • Siarad a dysgu Cymraeg pan mae’r teulu yn symud i’r ardal
  • Heriau emosiynol o ddelio gyda lleoli, amser i ffwrdd oddi wrth y teulu, sy’n gallu arwain at heriau ymddygiad i rieni ac ysgolion
  • Delio gyda phroblemau teulu pan mae teuluoedd wedi gwahanu ac yn byw mewn ardaloedd gwahanol – gwahanu a byw ar wahân
  • Gall teuluoedd y lluoedd arfog newid deinameg cymuned/sefyllfa gyda’u cefndir a phrofiadau.

Sut mae RhCT yn effeithio’n effeithiol ar ddarpariaeth ieuenctid i gefnogi anghenion gwasanaeth y Lluoedd Arfog?

 
1.    Nodi anghenion plant y lluoedd arfog
2.    Rôl y Cefnogwr YEPS
3.    Effaith y rôl ar ddarpariaeth ieuenctid  
4.    Cefnogaeth iechyd meddwl a lles
5.    Cysylltiadau gyda’r gymuned leol a’r Lluoedd Arfog. 
 

Sut mae’r Ddarpariaeth Ieuenctid yn nodi anghenion plant y Lluoedd Arfog?

  • Gyda thrafodaeth gychwynnol un i un gyda’r plant, mewn grwpiau bach neu gyda’r teulu; i siarad gyda nhw am yr hyn maent ei angen
  • Drwy gynnal asesiad gwydnwch yr awdurdod lleol, sy’n becyn y cyngor i gefnogi atgyfeiriadau ar draws sawl maes gwasanaeth sy’n gweithio gyda/cefnogi plant a phobl ifanc.   Mae’n nodi sut mae plant yn meddwl ac yn teimlo ac yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol o’u bywydau:   
  1. Trallod
  2. Gwydnwch
  3. Amgylchedd
  4. Diamddiffynnedd.
  • Mae’r asesiad gwydnwch yn helpu i nodi heriau y gall pobl ifanc eu hwynebu ac yna rydym yn llunio cynllun gweithredu; yn canolbwyntio ar gefnogaeth i’r meysydd a nodwyd ag angen, dros gyfnod ymyrraeth. Mae’r asesiad yn cael ei ailadrodd ar ddiwedd y cyfnod cymorth a’r gwahaniaeth rhwng y ddau asesiad yn dangos y gwelliannau i’r person ifanc hwnnw.
  • Gall ysgolion ofyn am gefnogaeth gan y Cefnogwr YEPS i gefnogi plentyn/plant drwy atgyfeiriad ymgysylltu â ieuenctid.  
  • Mae’r Cefnogwr YEPS yn cefnogi ysgolion gyda cheisiadau am arian i gefnogi plant y Lluoedd Arfog  
  • Gall plant a theuluoedd y Lluoedd Arfog hunanatgyfeirio drwy’r wefan WICID/ysgol – Bydd Cefnogwr Plant y Lluouedd Arfog YEPS yn cefnogi eu hanghenion.

 2. Beth yw rôl Cefnogwr Gwasanaeth Cyfranogi Ymgysylltu â Phobl Ifanc (YEPS)?

  • Cefnogi plant y Lluoedd Arfog ar draws RhCT ysgolion cynradd ac uwchradd
  • Adnabod; ffurfiol ac anffurfiol, yn dibynnu ar deuluoedd/plant/anghenion plant
  • Cefnogi anghenion y pedwar categori o deuluoedd y Lluoedd Arfog – rheolaidd, wrth gefn, cynfilwyr (6 blynedd) a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth ar draws pob ysgol 
  • Cefnogaeth ar gyfer effaith bywyd milwrol rhiant ar addysg eu plant
  • Darparu hyfforddiant i wasanaethau eraill i amlygu’r anghenion addysg a lles disgyblion teuluoedd y Lluoedd Arfog
  • Sicrhau ymgysylltu parhaus i blant y Lluoedd Arfog gydag addysg a chyfleoedd/gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol
  • Ble bo’n briodol, cefnogi plant y Lluoedd Arfog i oresgyn effaith adleoli neu symud
  • Cefnogi symud o addysg gynradd i uwchradd – cyfleoedd cefnogi meithrin tîm
  • Darparu hyfforddiant ar gyfer anghenion plant y lluoedd arfog a chefnogaeth ar draws maes pob rôl.

3. Pa effaith mae’r rôl wedi ei gael ar ddarpariaeth ieuenctid yn RhCT?

  • Mwy o ymwybyddiaeth o’r nifer o blant y Lluoedd Arfog yn yr awdurdod lleol
  • Mae pob ysgol yn ymwybodol o anghenion plant y Lluoedd Arfog a phwysigrwydd adnabod  
  • Mae ysgolion yn gofyn am gyngor i ddeall sut i gefnogi plant y lluoedd arfog a sut i gael mynediad i arian pan fydd angen  
  • Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i blant y Lluoedd Arfog a theuluoedd
  • Bydd gwasanaethau eraill yn atgyfeirio’r teulu i’r Cefnogwr YEPS os bydd angen cefnogaeth; hybu’r gwasanaeth yn rhagweithiol ar draws yr awdurdod lleol ac ysgolion
  • Mae gwefan WICID yn cefnogi anghenon holl blant yn eu harddegau (www.wicid.tv)

4. Sut mae’r ddarpariaeth Ieuenctid yn cefnogi iechyd meddwl a lles?

  • Mae pedair swydd newydd wedi eu hariannu ar gyfer Swyddogion Iechyd Meddwl Ieuenctid – mae hyn i ddarparu ymyrraeth rhwng nodi yn yr ysgol a’r atgyfeiriad Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Llencyndod (CAMHS); mae cefnogaeth ymyrraeth ar gael os bydd angen
  • WICID – mynediad i hunanatgyfeiriad drwy’r wefan gan oedolion ifanc
  • Mae staff gwasanaeth ieuenctid wedi eu hyfforddi mewn cymorth iechyd meddwl yn ogystal â chefnogaeth hyfforddiant arall gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau ac alcohol/trais domestig a cham-drin a dulliau adferol
  • Mae’r gwasanaeth presennol yn ymwybodol bod angen y rhan fwyaf o’r gefnogaeth ar gyfer gorbryder
  • Cefnogaeth ataliol i blant ifanc – ymyrraeth gyda phontio rhwng ysgolion a thrwy’r ddarpariaeth ieuenctid
  • Cefnogi’r plant nad ydynt mewn addysg (NEET) gyda llwybr cefnogaeth. 

5. Pa gysylltiadau sydd gan y ddarpariaeth Ieuenctid RhCT gyda’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol?  

  • Cysylltu gyda phob ysgol yn yr ardal
  • Cynghrair SCiP
  • Grwpiau cyn-filwyr yn y cymunedau lleol 
  • Llu Darllen
  • Digwyddiadau yn y gymuned leol – picnic tedi-bêr, digwyddiadau’r Lluoedd Arfog
  • Cefnogaeth i lanhau cofebau drwy’r gweithgareddau darpariaeth ieuenctid  
  • Gwaith prosiect ar y gweill mewn ysgolion – digwyddiadau cofebau a choffaol  
  • Cydweithio gyda’r Lleng Brydeinig
  • Swyddog Pontio o’r 160ain Frigâd (Cymreig) – prosiectau ysgol a gefnogir a llwybrau cymorth ieuenctid ar gyfer digwyddiadau diwrnod agored NEET  
  • Wythnos Gwaith Ieuenctid Cymru – cefnogaeth gan blant y Lluoedd Arfog  
  • Coleg Paratoi Cymhelliant ar gyfer Hyfforddiant (MPCT) digwyddiadau a gefnogir ar draws darpariaeth ysgolion/ieuenctid
  • Cysylltiadau gyda cholegau yn yr ardal i ymgysylltu â darpariaeth ieuenctid
  • Prifysgolion ar draws y DU

 

Dyddiad cynhyrchu: Rhagfyr 2019

 

 

Sefydliadau eraill

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan