This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Lles

Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos (Ynys Môn) – Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos (Ynys Môn) – Deall profiadau a heriau plant y Lluoedd Arfog

Lleolir Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos 20 milltir o RAF Y Fali, y prif orsaf gyda personél sy’n gwasanaethu yn yr ardal. Yn ogystal mae uned Byddin llai, sydd â personél tri Gwasanaeth o fewn chwe milltir o’r ysgol. Mae’r mwyafrif o blant y personél y Lluoedd Arfog yn yr ysgol yn gwasanaethau ar hyn o bryd ac yn dod o amryw o Wasanaethau y Lluoedd Arfog. Rydym yn darparu bws mini o wahanol leoliadau i gefnogi plant gyda'u taith i'r ysgol ac adref.

 Nifer o blant y Lluoedd Arfog ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos: 20 (16%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Linda Wright (Dirprwyr Bennaeth)

  1. Yr heriau sy’n wynebu plant y Lluoedd Arfog
  2. Nodi anghenion plant y Lluoedd Arfog
  3. Cefnogi strategaethau
  4. Mesur effaith a llwyddiant
  5. Cysylltiadau â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol.

1.    Pa heriau sy’n wynebu plant a theuluoedd y Lluoedd Arfog ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos?

  • Bydd gan nifer o blant fylchau yn eu haddysg
  • Ni fydd rhai plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cael eu hanghenion wedi’u cydnabod na’u cefnogi'n flaenorol.
  • Nid yw cyrhaeddiad rhai plant ar draws y pynciau’r cwricwlwm yn gyson, oherwydd y bylchau yn eu sgiliau addysgu.
  • Mae gan blant wahanol brofiadau o systemau addysg eraill a gall hyn gael effaith ar eu datblygiad e.e. Mae rhai teuluoedd wedi bod yn byw dramor a mae plant wedi cael eu haddysgu mewn gwledydd a systemau eraill.
  • Gwahaniad o fewn teulu wedi’u heffeithio gan wahanol fathau o adleoliadau neu dra bod rhieni yn gweithio i ffwrdd am gyfnodau gwahanol o amser (ar benwythnosau).

2.    Sut mae Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos yn adnabod a monitro anghenion plant y Lluoedd Arfog?

  • Anogir teuluoedd i gyd i ymweld ymlaen llaw
  • Cyflawnir rhaglenni o asesiadau ledled y cwricwlwm Mae hyn yn helpu’r athrawon i roi gwaelodlin i alluoedd y plant a gofynion Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn yr ysgol.
  • Rydym yn cynnal cyfarfodydd Cynnydd Disgybl i adolygu canlyniadau addysgu.
  • Rydym yn defnyddio ‘Incerts’ i leoli cynnydd ar draws pynciau’r cwricwlwm yn rheolaidd.
  • Mae’r ysgol yn cymryd rhan yn y Profion Cymraeg Cenedlaethol sydd yn nodi a safoni sgoriau i blant
  • Gan ddefnyddio targedau SMART a thargedau dosbarth, rydym yn cefnogi datblygiad plant.
  • Mae rhieni yn rhan o addysg eu plant ac yn cael adborth ar eu cynnydd.
  • Cynhelir cyfarfodydd cwricwlwm rheolaidd gyda’r rheini, fel eu bod yn ymwybodol o’r addysg a disgwyliadau ar gyfer eu plentyn.

3.    Pa strategaethau a gweithgareddau cefnogi sydd ar gael ym Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos unwaith y caiff angen ei adnabod?

  • Mae plant y Lluoedd Arfog yn cael eu hadnabod fel grwp o ddysgwyr ac mae eu cynnydd yn cael eu monitro’n agos.
  • Mae cymhareb yr ysgol i oedolyn i bob plentyn yn uchel ym  mhob dosbarth, gallwn ddarparu cefnogaeth grwp llai a chyfleoedd addysgu.
  • Mae asesiadau a data yn cael eu monitro’n rheolaidd gan athrawon a thîm arweinyddiaeth.
  • Mae’r ysgol yn defnyddio’r rhaglen Incerts i olrhain data a chanlyniadau cwricwlwm.
  • Rydym yn adnabod plant sy’n tangyflawni ac yn gofyn y cwestiynau o ran y rhesymau dros hyn – mae strategaethau yn cael eu rhoi mewn lle i gefnogi datblygu meysydd heriol. Gall hyn fod yn gefnogaeth i bywyd gartref yn ogystal ag unrhyw gefnogaeth addysgol penodol yn y dosbarth.
  • Gall yr ysgol helpu rhieni drefnu cefnogaeth ychwanegol i blant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy gael tiwtor.
  • Rydym yn gefnogol i gymhwyso teuluoedd os ydynt angen amser teulu cyn/ ar ôl adleoliad.

4.    Sut mae Meithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos yn mesur llwyddiant ac effaith cefnogaeth a strategaethau?

  • Mae Inserts yn rhoi data rheolaidd i’r ysgol ar gyfer pob plentyn ar draws y cwricwlwm i fesur cynnydd a chyrhaeddiad.
  • Dangosydd o effeithiolrwydd yr ysgol yw’r cyrhaeddiad lefel uchel yn y Profion Cenedlaethol bob blwyddyn.
  • Mae hyder y plant yn adlewyrchu’r effeithiolrwydd o hunan-barch uchel gan ddefnyddio Athroniaeth 4 o edefyn cwricwlwm Plant
  • Mae adborth rhieni yn gadarnhaol ac yn cefnogi’r effaith sydd gennym ar addysgu plant.
  • Mae Holiaduron Rhieni/ Disgyblion yn cael eu defnyddio i adolygu effaith.

5.    Pa gysylltiadau sydd gan Feithrinfa ac Ysgol Annibynnol Treffos gyda'r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol?

Mae’r ysgol yn manteisio ar gyfleoedd i gynnwys bywyd y Lluoedd Arfog gyda chyfleoedd i ddysgu ar y cyd gyda gwirfoddolwyr Cymdeithas Cwn Chwilio ac Achub Cymru (SARDA) sydd yn cefnogi’r uned hyfforddi achub mynydd lleol, profiadau ymarferol gan rieni sydd yn RAF Y Fali, gan gynnwys; awyren yn hedfan dros yr ysgol ar eu llwybr/ ymarfer gan gynnwys trefnu i hofrennydd lanio ar y cae fel rhan o brofiadau dysgu, sesiynau dysgu efelychydd hedfan a hofrennydd yn yr orsaf, gwahoddiad i ddigwyddiadau arbennig yn yr orsaf Lluoedd Arfog lleol – ail-enwi awyren, gwasanaethau coffa a digwyddiadau diwrnodau hwyl. Mae’r ysgol yn gwahodd artistiaid ac ysgrifenwyr lleol i weithio gyda’r plant ar draws yr ysgol gyda gwahanol brosiectau, i wella cyfleoedd dysgu. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys:

  • Presenoldeb yng nghyfarfodydd bwrdd plant a phobl ifanc RAF Y Fali i gefnogi’r rhwydwaith y Lluoedd Arfog lleol a datblygiadau’r ysgol.
  • Cysylltu â Dean Clark, Swyddog Cefnogi Cymuned ac Ieuenctid, sydd yn Hyrwyddwr Y Lluoedd Arfog ar gyfer yr ardal.
  • Cyswllt rheolaidd â phersonél allweddol ynghylch lwfansau/ cyllid
  • Presenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol lleol.
  • Cyswllt gyda thiwtoriaid arbenigol ym Mhrifysgol Bangor sydd yn dod i gefnogi plant gyda dyslecsia, dyspracsia a dyscalcwlia. Rydym hefyd yn cael athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu hymarferion dysgu.
  • Hoci Cymru – annog chwaraeon a ffordd o fyw iachus.
  • Mae hyfforddiant tenis ar gael yn ystod tymor yr haf.
  • Rydym yn cefnogi elusennau drwy ddigwyddiadau casglu arian a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
  • Rydym yn gweithio ochr yn ochr â John Egging Trust i ddatblygu gweithgareddau a chasglu arian
  • Mae’r ysgol yn rhan o weithdai a gweithgareddau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), gan gynnwys peirianneg o RAF Y Fali a gweithgareddau adeiladu tîm.
  • Cymryd rhan gyda Never Such Innocence, adnodd ar-lein sydd yn cefnogi a llawn gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion emosiynol a’r Lluoedd Arfog.

Negeseuon gan deuluoedd y Lluoedd Arfog

 “Diolch am roi sylfaen gwych i’n plant a dechrau da i’w haddysg yn Nhreffos. Mae Treffos yn fwy nag ysgol i ni, a byddwn yn ei methu, ond yn cofio'n ôl o’r amseroedd hapus ac annwyl!

 “Mae Treffos yn ysgol wych, yn ail gartref, llawn cariad, brwdfrydedd a hapusrwydd.”

 “Mae gan y plant synnwyr o berthyn sydd yn amhrisiadwy.”

 

Dyddiad cynhyrchu: Gorffennaf 2020

 

Lles

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan