This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Lles

Ysgol Maesydderwen (Powys) – Cefnogaeth fugeiliol wedi’i deilwra i blant y Lluoedd Arfog

Ysgol Maesydderwen (Powys) – Cefnogaeth fugeiliol wedi’i deilwra i blant y Lluoedd Arfog

Mae Ysgol Maesydderwen wedi’i lleoli yn ne sir Powys ar gyrion Bannau Brycheiniog. Lleoliad y Lluoedd Arfog agosaf yw Aberhonddu, cartref Brigâd 160 (Cymreig) a phencadlys Cymru, gwersyll hyfforddi Pontsenni a Dering Lines. Mae gan yr ysgol deuluoedd milwyr yn yr ysgol sy’n symud (ychydig ar y tro) a chyn-filwyr a milwyr wrth gefn. Mae adleoliad yn bennaf trwy hyfforddi ac ymarferion milwrol.

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Phrosiect Llythrennedd Corfforol rydym wedi elwa o gael Cydlynydd Digwyddiadau Disgyblion a Theuluoedd y Lluoedd Arfog (SPFEC) yn Ysgol Maesydderwen am y flwyddyn ddiwethaf.

Nifer y plant y Lluoedd Arfog yn Ysgol y Maesydderwen: 14 (3%)

Cwblhawyd yr astudiaeth achos gan: Philip Grimes, Pennaeth
  1. Profiadau plant milwyr
  2. Rôl SPFEC
  3. Adnabod a chefnogi
  4. Mesur effaith a llwyddiant
  5. Cynnal yr ymarfer
  6. Cysylltiadau â’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol.

1. Pa brofiadau y mae plant y Lluoedd Arfog yn ei gyflwyno i Ysgol Maesydderwen?

Mae plant y Lluoedd Arfog yn dod â phrofiadau gwahanol i gymuned yr ysgol o ran rhannu profiadau gwerthfawr a straeon am gyflawniadau teuluoedd, maent yn rhoi cipolwg i ddisgyblion eraill ar fyd arall a ffordd o fyw nad ydynt yn gwybod amdano. Rydym yn croesawu cefndir amrywiol ein plant ac rydym wedi creu straeon digidol o blant y Lluoedd Arfog oedd eisiau rhannu eu profiadau gyda phobl eraill. Mae’n cael effaith bwerus a chadarnhaol ar gymuned ein hysgol.

2. Beth yw rôl eich Cydlynydd Digwyddiadau Disgyblion a Theuluoedd y Lluoedd Arfog?

  • Mae’r aelod staff yn darparu cefnogaeth un i un a chefnogaeth grwp i blant y Lluoedd Arfog ac yn cydlynu amrywiaeth o weithgareddau i gael effaith ar brofiadau cwricwlwm a lles bugeiliol.
  • Maent wedi creu adnoddau i’w rhannu gyda staff a rhieni ac maent wedi creu arddangosfeydd er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth weledol yn yr ysgol.
  • Maent yn hyrwyddo gweithgareddau ac yn gweithio gyda phlant y Lluoedd Arfog er mwyn cynllunio, cydlynu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol sy’n cyd-fynd ag wythnosau pwysig megis Wythnos y Lluoedd Arfog, Sul y Cofio a digwyddiadau pwysig eraill.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys

#GIVINGISGREAT

Mae’r SPFEC yn cydweithio gyda disgyblion y Lluoedd Arfog a’r gymuned ysgol ehangach i ddylunio ymgyrch i fynd i’r afael â thlodi bwyd a chodi ymwybyddiaeth i’n cyn-filwyr sydd yn hen neu’n ddiamddiffyn sy’n byw yn ein cymuned. Fe wnaethant weithio gyda disgyblion dros nifer o sesiynau i gasglu bwyd, creu hamperi a’u dosbarthu yn ôl i’r gymuned. Fe wnaethom dderbyn cefnogaeth gan y banc bwyd lleol a gymerodd rhai o’n hamperi yn ogystal â’r Groes Goch a’r Lleng Brydeinig. Fe wnaethom gysylltu â nhw i gymryd rhan yn y prosiect hwn oedd yn ennyn diddordeb ac yn llwyddiannus iawn i’n disgyblion.

Sesiynau gwneud pryd o fwyd

Cafodd sesiynau Gwneud Pryd o Fwyd 10 munud o hyd eu cynnal i hyrwyddo bwyta’n iach oedd yn cael eu cynnal gan riant sydd yn gyn-filwr ac sy’n gwirfoddoli gyda’n SPFEC a drefnodd y sesiynau. Roedd pob sesiwn yn boblogaidd ac fe grëwyd Llyfryn Prydau Bwyd 10 Munud a’i rannu gyda’r gymuned ehangach.

Wythnos y Lluoedd Arfog

Wythnos llawn cymhelliant o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth ymysg yr ysgol gyfan am gymuned y Lluoedd Arfog. Dyluniodd disgyblion arddansgosfeydd gweledol a chafodd teisennau bach eu pobi i’w gwerthu yn ystod yr wythnos. Cafodd arian ei gasglu i gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

3. Sut mae’r ysgol adnabod plant y Lluoedd Arfog ac yn eu cefnogi i oresgyn unrhyw heriau?

Wrth Gyrraedd

Rydym yn cynnal arolwg o bob rhiant wrth gyrraedd yn flynyddol er mwyn adnabod unrhyw staff sy’n gwasanaethu/sydd wrth gefn/yn ddinesydd preifat neu deuluoedd cyn-filwyr a phlant yn yr ysgol. Rydym ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Cydlynydd Pontio i ofyn i bob ysgol gynradd roi gwybod i ni am unrhyw blant sydd yn dod yn y flwyddyn newydd.

  • Mae pob disgybl yn cael treulio amser gyda’u prif athro/athrawes dosbarth i drafod eu dysgu ac i weld yr opsiynau cymorth sydd ar gael drwy Gynlluniau Dysgu Unigol Blwyddyn 7.
  • Mae’r SPFEC yn adnabod unrhyw ddisgybl sydd angen cefnogaeth ychwanegol ac yn llunio cynllun i gefnogi’r disgybl hwnnw
  • Rydym wedi creu cysylltiadau gyda thîm Datblygu ac Ymgysylltu Cymunedol y Barics i sicrhau cyfathrebu cryf o ran yr hyn rydym ni’n ei wneud a pha ddigwyddiadau a gweithgareddau rydym ni’n eu cynnal
  • Mae cyfeiriad e-bost penodol ar gael i bob teulu a phlant y Lluoedd Arfog
  • Caiff cyfleoedd eu hadnabod a chaiff teuluoedd eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiadau gyda’r gymuned leol.

Cefnogaeth iechyd meddwl a lles

Mae gennym dîm cymorth lles disgyblion gwych yn yr ysgol ac rydym yn defnyddio cefnogaeth un i un er mwyn rhannu gwybodaeth. Mae gennym gynrychiolydd disgyblion y Lluoedd Arfog sydd yn adrodd yn ôl i’n prif tîm cymorth er mwyn tynnu sylw at unrhyw broblemau neu faterion sydd angen cymorth.

4. Sut ydych chi’n mesur effaith a llwyddiant y gefnogaeth?

Caiff plant y Lluoedd Arfog eu monitro yn yr un modd â’n holl ddisgyblion o ran cyflawniadau dysgu ac addysgu ac rydym yn gwerthuso taith ddysgu ein holl ddisgyblion i sicrhau fod eu hamser yn yr ysgol yn llwyddiannus. Rydym eisiau iddynt fod yn barod ar gyfer byd gwaith neu addysg bellach pan fyddant yn gadael. Rydym yn edrych ar ddata gwahanol o bresenoldeb, lles a sgoriau profion academaidd dros eu cyfnod yn yr ysgol.

Rydym yn mesur llwyddiant ein holl ddisgyblion. Rydym eisiau iddynt gyflawni eu potensial a gosod golau realistig y gallant eu cyflawni. Rydym eisiau i’n disgyblion feddu ar gymwysterau i fodloni eu hanghenion a’u dyheadau ac rydym eisiau iddynt fod yn unigolyn cyflawn i fod yn ddinesydd gweithgar sydd yn gallu cyfrannu’n llawn i’w cymuned. Mae llwyddiant yn ymwneud â mwy na graddau, ond y cyraeddiadau ar hyd y daith. 

5. Sut fyddwch chi’n cynnal yr ymarfer yma a sicrhau manteision hir dymor?

Rydym yn bwriadu hyfforddi aelodau eraill o staff i fod yn gynrychiolwyr cefnogi plant y Lluoedd Arfog yn y dyfodol, yn lle bod rhaid i ni fod yn ddibynnol ar un person. Mae gennym dîm eang o bobl sydd yn gallu parhau i astudio’r amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u hariannu’n flaenorol. Y ffordd yma rydym yn gwybod y gellir ei gynnal a’i reoli yn y dyfodol.

6. Sut mae Ysgol Maesydderwen yn gweithio gyda’r Lluoedd Arfog a’r gymuned leol?

  • Rydym yn gweithio gyda changen leol Y Lleng Brydeinig, banciau bwyd lleol, grwpiau cymuned yn yr ardal ac elusennau trydydd sector ar ystod o brosiectau sy’n canolbwyntio ar yr ysgol
  • Mae gennym gysylltiadau a’r Frigâd 160 (Cymreig) yn Aberhonddu a’r grwpiau Cadét lleol sydd wedi gweithio gyda’r ysgol
  • Rydym yn ymgysylltu â chymuned y Lluoedd Arfog trwy ddigwyddiadau yng nghalendr yr ysgol, yn cynnwys Wythnos y Lluoedd Arfog a gwasanaethau Dydd y Cofio
  • Rydym wedi cynnwys Y Lleng Brydeinig lleol a grwpiau eraill y lluoedd arfog yn nigwyddiadau’r ysgol
  • Fe allwn gyfathrebu gyda theuluoedd y Lluoedd Arfog trwy gyfrwng llythyrau a chyfryngau cymdeithasol 
  • Mae gennym gysylltiadau da yn y gymuned ac rydym wedi adeiladu ar hyn dros y blynyddoedd diwethaf a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.

Dyddiad y cafodd ei lunio: Gorffennaf 2020

 

Lles

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan