This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Gweminarau Rhwydwaith SSCE Cymru blaenorol Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog: Gweminar Rhwydwaith SSCE Cymru

Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog: Gweminar Rhwydwaith SSCE Cymru

Dyddiad: 16 Chwefror 2022

Amser: 14:00-16:30

Cyfrwng: MS Teams

AGENDA

1. Cymorth Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol

  •  Statws Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru

2. Cyflwyniadau/gweithdai aelodau Rhwydwaith:

  • Timoedd ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog (y Llynges, y Fyddin, RAF)
  • MPCT - Arweinwyr Ifanc

3. Enghreifftiau o Arfer Da

  • Glyn Gaer - prosiect RhB1
  • Cyngor Caerdydd - Prosiect Ymgysylltu â’r Lluoedd Arfog

4. Cyfleoedd ariannu

  • Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog:

5. Holi ac Ateb y Panel

1. RSLO support

Armed Forces Friendly Schools Cymru status

Yasmin Todd, Regional School Liaison Officer for Service children in West Wales

2. Network member presentations/workshops:

Armed Forces engagement team Navy

WO Rob Govier

Armed Forces engagement team Army

Major Craig Middle

Armed Forces engagement team RAF

Flt Lt Sarah Duffy

MPCT – Young Leaders

Nathan Currie, MPCT Young Leaders Operations Manager

3. Good practice examples

Glyn Gaer - WW1 project

Beverley Pearce, Headteacher

Cardiff Council - Armed Forces engagement project

Vicki Jones, Closing the Gap Officer Key Groups

4. Funding opportunities

Armed Forces Covenant Fund Trust

Andy Williams, Army HQ, 160th Welsh Brigade

5. Panel Q&A

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan