This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Am SSCE Cymru Ymgysylltu ag SSCE Cymru

Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru

Millie Taylor

millie.taylor@wlga.gov.uk 
02920 468616

Cymerodd Millie’r dasg o reoli rhaglen SSCE Cymru drosodd ar ddechrau 2018, gan ganolbwyntio ar osod nodau strategol a chenhadaeth a fyddai’n ehangu’r cymorth sydd ar gael i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Fel eiriolwr dros blant y Lluoedd Arfog, mae Millie bob amser yn awyddus i siarad efo nhw yn uniongyrchol ac mae wedi cydlynu gweithgareddau ar gyfer plant y Lluoedd Arfog yng ngwaith SSCE Cymru. Mae Millie wedi creu sawl cyfle i gydweithio yng Nghymru ac mae bob amser yn awyddus i rannu arfer da gyda sefydliadau ar draws y DU.

O’i swyddi eraill o fewn y bydd addysg, mae profiad a dealltwriaeth gan Millie o reoli prosiectau, marchnata a chyfathrebu, cwricwlwm rhyngwladol a chymwysterau. Mae gan Millie gymhwyster Ymarferydd Rheoli Prosiect PRINCE 2, mae ganddi radd mewn Astudiaethau Seicolegol ac wedi cymryd rhan yn y rhaglen Arweinyddiaeth COBSEO Clore a ariennir gan y Forces in Mind Trust (FiMT)

Uchafbwynt gyrfa broffesiynol Millie oedd bod yn un o’r tri olaf yng nghategori Ieuenctid / Cadet Gwobrau’r Lluoedd Arfog yng Nghymru 2019.

Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer Plant y Lluoedd Arfog

Mewn cydweithrediad gyda Brigâd 160 (Cymreig), sicrhaodd Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru (CLlLC) gyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog i benodi pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol ar gyfer prosiect dwy flynedd yn cychwyn ym mis Medi 2020.

Yn cael ei gynnal gan bedwar awdurdod lleol arweiniol sef Ynys Môn, Casnewydd, Sir Benfro a Bro Morgannwg, mae’r swyddogion cyswllt ysgolion yn gweithio’n rhanbarthol ac mae pob un yn gyfrifol am weithgareddau yn y pump / chwech awdurdod lleol.

Mae’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion yn cydweithio gyda Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru i ddarparu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwaith a ddatblygwyd ar y cyd ag aelodau Rhwydwaith SSCE Cymru; yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i ddeall profiadau ac anghenion Plant y Lluoedd Arfog a sefydlu gweithgareddau fydd yn sicrhau systemau cefnogi cynaliadwy.

Mae ffordd gall Swyddogion Cymorth Dysgu Cymdeithasol weithio gydag ysgolion a'u cefnogi yn cynnwys:

  • Rhedeg/hwyluso grwpiau trafod gyda phlant y Gwasanaeth
  • Datblygu dealltwriaeth o sut y gall ysgol ddefnyddio Pecyn Cymorth ac Offer SSCE Cymru
  • Nodi arfer dda gellir rhannu ag ysgolion eraill yng Nghymru
  • Cefnogi cyfleoedd i gydweithio
  • Nodi camau gweithredu/gweithgareddau gall ysgol cyflawni i gefnogi plant Gwasanaeth a chymuned y Lluoedd Arfog
  • Darparu sesiynau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o brofiadau plant y Gwasanaeth
  • Darparu cyngor a chymorth i gael gafael ar gyllid a'i ddefnyddio i gefnogi plant y Gwasanaeth.

Gallai’r Swyddogion Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol weithio gydag ysgolion naill mewn person neu’n rhithiol, yn dibynnu ar gyfyngiadau cenedlaethol/lleol a gofynion ysgolion.

Map RSLO

Gogledd Cymru

Cara Lloyd-Roberts

SSCECymru@wlga.gov.uk 

07929 765712

Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam


Cara Lloyd-Roberts

Dwyrain Cymru

Emilee Kinsey

Emilee.Kinsey@newport.gov.uk 
07929 861170

Blaenau Gwent, Caerffili , Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a Phowys


Emilee Kinsey

De Cymru

Ellis Regan

Ellis.Regan@rctcbc.gov.uk 

07385 389569

Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg


Ellis Regan

Gorllewin Cymru

Emma Reeves

Emma.Reeves@pembrokeshire.gov.uk

Sir Gâr, Ceredigion, Castell-Nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe


Emma Reeves

Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru

Mae Joanna yn ymuno â ni fel Swyddog Arweiniol Cyfranogi SSCE Cymru (SAC). Yn ei rôl bydd yn cefnogi, datblygu a gweithredu prosiectau a gweithgareddau fel cynllun llysgennad Plant y Lluoedd Arfog SSCE Cymru.

Mae gan Joanna brofiad uniongyrchol o fywyd yn y Lluoedd Arfog, ar ôl bod yn blentyn y lluoedd arfog ei hun ac yna’n priodi aelod o’r Fyddin sydd wedi bod yn gwasanaethu ers amser maith. Mae ganddynt ddau o blant ac maent wedi byw mewn sawl lleoliad ar draws y DU a’r Almaen. Tra’n ‘dilyn y faner’ am yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae Joanna wedi ymgymryd ag amrywiol swyddi, gan gynnwys Ailsefydlu, Addysg ac Adnoddau Dynol, y cyfan o fewn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ar ôl setlo yng Nghymru yn ddiweddar, mae ei gŵr yn parhau i gymudo i ble bynnag mae’r Fyddin ei angen.

Mae Joanna yn arddiwr a cherddwr brwd, rhywun sy’n gwerthfawrogi budd adfer bod allan yng nghanol natur. Mae Joanna hefyd wedi mwynhau nifer o swyddi gwirfoddol. Bu’n gweithio gydag elusennau fel Ymddiriedolaeth y Tywysog, Cymorth y Lluoedd SSAFA ac yn y blynyddoedd diweddar, y Sgowtiaid ble mae’n Arweinydd Cybiau’r Sgowtiaid.

Mae Joanna bob amser wedi mwynhau gweithio gyda phlant ac mae’n deall yn llwyr y pwysigrwydd o wrando arnynt a’u safbwyntiau. Mae hyn yn rhywbeth y bydd yn parhau i’w wneud fel SAC, i blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a dathlu.

“Rwy’n edrych ymlaen at annog ymgysylltu gyda phlant y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Dylai holl blant y lluoedd arfog deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, clodfori a’u croesawu ble bynnag maen nhw.”

E-bost: joanna.wolfe@wlga.gov.uk

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan