This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth Therapi Lego®

Therapi Lego®

Mae therapi seiliedig ar LEGO® yn ymyriad sgiliau cymdeithasol cydweithredol wedi’i seilio ar chwarae ar gyfer plant sydd ag awtistiaeth ac anhwylderau tebyg. Mae’n ceisio meithrin cymhwysedd cymdeithasol drwy ddatblygu sgiliau cymdeithasol. Mae chwarae cydweithredol yn cynnig cyfleoedd i blant ymarfer sgiliau fel cymryd eu tro, gwrando, rhannu syniadau, cyfathrebu, cyfaddawdu, datrys problemau a rhannu sylw. Mae’r grwpiau’n cael eu rhedeg gan hwylusydd hyfforddedig ac mae plant yn cael eu hannog i gydadeiladu o fewn rolau penodedig. Bydd pob plentyn yn chwarae rhan “peiriannydd”, “cyflenwr” neu “adeiladwr” a gyda’i gilydd byddant yn dilyn cyfarwyddiadau darluniadol er mwyn adeiladu model.

 

Mae therapi seiliedig ar LEGO® yn cymell plant i ryngweithio â’i gilydd drwy chwarae cydweithredol â theganau adeiladu, sef deunyddiau sydd yn aml yn ennyn brwdfrydedd mewn plant sydd ag awtistiaeth ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd plant yn cael eu hysgogi i gymryd rhan yn yr ymyriad grwp am eu bod yn ymddiddori mewn adeiladu, ac felly byddant yn fwy parod i gydweithio fel grwp. Mae’r sylw y mae’r plant yn ei roi ar y cyd i’r adeiladu yn eu galluogi i ddysgu ac arfer sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd cymdeithasol sy’n gyfforddus iddynt.

Nod masnach grwp cwmnïau LEGO® yw LEGO® ac nid yw’n noddi nac yn cymeradwyo’r wybodaeth hon.

 

www.bricks-for-autism.com/about-lego-therapy

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan