This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfeiriadur cefnogaeth Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)

Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA)

Pwrpas prosiect ELSA yw meithrin gallu mewn ysgolion i helpu i ddiwallu anghenion emosiynol eu disgyblion drwy ddefnyddio eu hadnoddau eu hunain. Mae’n cydnabod bod plant yn dysgu’n well ac yn fwy bodlon yn yr ysgol os yw eu hanghenion emosiynol yn cael eu diwallu hefyd.

Mae ELSA yn fenter sydd wedi’i datblygu a’i chynnal gan seicolegwyr addysgol sy’n cymhwyso gwybodaeth am ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant at feysydd angen penodol ac at waith achos penodol.

 Yr unig bobl y mae’n gyfreithlon iddynt ddefnyddio enw rôl y Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol yw’r rheini sydd:

1.Wedi mynychu (neu sydd yn mynychu ar hyn o bryd) gwrs hyfforddi ELSA llawn sydd wedi’i ddarparu gan un neu ragor o seicolegwyr addysgol cymwys (cyrsiau sy’n para 5 diwrnod o leiaf ond 6 diwrnod fel arfer)

2.Yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd bob hanner tymor mewn grwpiau bach (gydag 8 ELSA ar y mwyaf ym mhob grwp am 2 awr, os oes modd), o dan arweiniad seicolegydd addysgol cymwys

3.Ar y pryd yn darparu rhaglenni cymorth wedi’u haddasu i ddiwallu anghenion disgyblion unigol ac weithiau grwpiau bach

Adnoddau perthnasol

Emotional needs:

Rheoli dicter/straen:

Colled a gwahanu:

Llyfrau defnyddiol – wedi’u hargymell gan ELSAs

Hunan-barch:

Sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch:

www.elsanetwork.org

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan