Hoffai rhwydwaith SSCE Cymru ddiolch yn fawr iawn i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd, sy'n hanfodol o ran cyfrannu at y frwydr yn erbyn Covid-19.
SSCE Cymru
- Ymgynghoriad ysgol SSCE Cymru ynghylch effaith Covid-19 ar blant milwyr (Ebrill-Mai 2020)
- Gweithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn a Chyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc (DCYP) i sicrhau eu bod yn ymwybodol o effaith Covid-19 ar blant milwyr yng Nghymru
- Cydweithio gyda sefydliadau a mudiadau perthnasol ar draws y DU, drwy SCiP Alliance, i nodi anghenion ac ymateb gyda dull cydgysylltiedig a chyson
- Parhau i gefnogi ysgolion a rhieni/gofalwyr plant milwyr drwy gyfathrebiadau rhith
- Nodi ffyrdd y gall y pedwar Swyddog Cyswllt Ysgolion Rhanbarthol - Plant Milwyr newydd (sy’n dechrau fis Medi 2020) gefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion yn ystod y cyfnod adfer
- Cynnal gweithdy cyllido rhithiol ddydd Mai 2020 a chefnogi ysgolion i wneud cais am gyllid drwy raglen Cymunedau’r Lluoedd Arfog Gyda’i Gilydd Cronfa Ymddiriedolaeth Cyfamod y Lluoedd Arfog
- Cynnal cyfarfod cydweithio rhithiol ar gyfer ysgolion ddydd Gorffennaf 2020 i roi cyfle i ysgolion rannu eu sylwadau a gofyn cwestiynau i’w gilydd
- Parhau i ddiweddaru ac adolygu’r wybodaeth a’r gefnogaeth a geir ar y wefan hon
- Ymwybyddiaeth o newidiadau a diweddariadau Llywodraeth Cymru i addysg a’r cwricwlwm a’r canllawiau a’r polisi dychwelyd i’r ysgol.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y cynnwys neu awgrymiadau pellach o ran manylion i'w cynnwys ar y dudalen wybodaeth hon, anfonwch neges i SSCECymru@wlga.gov.uk
Sylwadau ysgolion
Amlygodd ymgynghoriad SSCE Cymru ynghylch effaith Covid-19 ar blant milwyr, a gynhaliwyd ym mis Ebrill a Mai 2020, y negeseuon canlynol:
- Efallai y bydd plant milwyr yn fwy pryderus neu’n datblygu pryder o’r newydd ynghylch eu rhieni yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth iddyn nhw gefnogi'r ymdrechion i oresgyn y pandemig
- Efallai bod rhai plant yn cael eu gwahanu am y tro cyntaf oddi wrth riant neu ofalwr wrth i filwyr wrth gefn gael eu galw i wasanaethu ac wrth i deuluoedd sefydlu ffyrdd newydd i aros yn ddiogel a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol
- Mae rhai plant milwyr yn mynd i ysgolion hyb, ond mae’r rhan fwyaf yn derbyn addysg yn y cartref
- Mae ysgolion yn wynebu her ychwanegol wrth iddyn nhw geisio adnabod a chefnogi plant milwyr gydag anghenion emosiynol a chyfathrebu o bell
- Nid yw plant milwyr sydd wedi symud yn ddiweddar i’r ysgol wedi cael cyfle i setlo i mewn a gwneud ffrindiau
- Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi rhewi trefniadau lleoli milwyr sy’n golygu bod nifer o deuluoedd y lluoedd arfog a oedd i fod i adael wedi aros a’r plant a oedd i fod i ymuno â nhw wedi gorfod aros ble’r oedden nhw, sydd wedi achosi pryder ychwanegol i deuluoedd.
Mae sylwadau ychwanegol ysgolion yn cynnwys:
- Mae’r ansicrwydd a'r amhariadau y mae plant milwyr yn ei deimlo yn debyg iawn i’r teimladau pan fo’u rhieni yn cael eu lleoli a’u galw i wasanaethu
- Mae’r effaith ar deuluoedd y lluoedd arfog yn debyg iawn i’r effaith ar deuluoedd eraill, gan gynnwys methu mynd i’r ysgol yn achosi straen ar y teulu
- Mae plant milwyr mewn perygl o fod dan fwy o anfantais oherwydd methu dysgu gan eu bod nhw eisoes wedi’u heffeithio gan orfod symud o gwmpas a mynd i sawl ysgol gyda chwricwla gwahanol
- Mae yna bryder ychwanegol i ddysgwyr y mae eu rheini wedi’u galw i’r fyddin
- Mae’r ansicrwydd ynghylch oedi trefniadau symud wedi creu heriau ychwanegol i deuluoedd y lluoedd arfog
- Mewn rhai achosion, mae mwy o gyfathrebu gyda theuluoedd yn ystod y cyfnod clo wedi gwella’r berthynas rhwng yr ysgol a rhieni
- Roedd teuluoedd yn credu bod cael cyswllt rheolaidd gydag athro, drwy alwadau ffôn, i greu’r ymdeimlad o normalrwydd yn fuddiol iawn
- Mae adnabod plant milwyr wedi bod yn beth buddiol iawn i ganiatáu i’r ysgol adnabod y dysgwyr a all brofi heriau ychwanegol yn gyflym
- Mae staff ysgol sy’n siarad Nepali wedi bod yn hanfodol i alluogi cyfathrebu gyda theuluoedd Saesneg Fel Iaith Ychwanegol
- Mae sesiynau ailgydio wedi bod yn werthfawr iawn i baratoi’r plant i ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi.
Cefnogaeth ysgol
Fel y nodwyd yn ystod trafodaethau gydag ysgolion yng Nghymru, mae’r enghreifftiau o’r ffyrdd maen nhw wedi cefnogi plant milwyr a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo a chau ysgolion yn cynnwys:
- Darpariaeth hyb i blant milwyr
- Cyfathrebu rheolaidd a sesiynau ailgydio gyda phlant a theuluoedd drwy ddulliau rhithiol, gan gynnwys galwadau ffôn, negeseuon e-bost, gwasanaeth negeseua Schoop a gwefannau ysgol
- Monitro cynnydd ac ymgysylltu yn ystod sesiynau ailgydio a gweithgareddau diogelu
- Mae staff ymroddedig sy’n gyfrifol am blant milwyr wedi parhau i ddarparu cefnogaeth ac wedi bod yn bwynt cyswllt cyson
- Gweithgareddau pontio rhithwir a throsglwyddo cofnodion plant sydd i fod i adael neu ymuno â’r ysgol
- Cymorth i addysgu yn y cartref drwy ddarparu cymorth academaidd ac emosiynol yn rhithiol
- Nodi a hyrwyddo gweithgareddau dysgu a chorfforol perthnasol y mae modd eu gwneud gartref yn unigol neu fel teulu
- Creu cyfleoedd i blant gyfathrebu gyda’i gilydd yn rhithiol
- Staff yn ymgymryd â hyfforddiant, yn cynnwys cyrsiau Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod, Ymwybyddiaeth o Drawma ac Effaith Covid-19 ar Blant
- Defnyddio adnoddau’r awdurdodau lleol a’r gwasanaeth consortia addysg
- Cynnal asesiadau risg ar effaith Covid-19 ar deuluoedd y lluoedd arfog
- Cynhyrchu adnoddau gyda thema Lluoedd Arfog i annog trafodaeth ac i greu cyfleoedd dysgu a myfyrio i deuluoedd.
Fel y nodwyd yn ystod y trafodaethau gydag ysgolion yng Nghymru, mae’r enghreifftiau o’r ffyrdd maen nhw’n bwriadu cefnogi plant milwyr a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod adfer yn cynnwys:
- Canolbwyntio ar gefnogaeth emosiynol, yn defnyddio ELSA a staff sydd wedi derbyn hyfforddiant Thrive
- Deall effaith Covid-19 i sicrhau eu bod yn barod i gefnogi dysgwyr sy’n dychwelyd fis Medi
- Nodi hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus pellach ar gyfer staff i’w helpu i gefnogi dysgwyr yn emosiynol a chyda gofynion dal i fyny
- Cydweithio gydag ysgolion eraill i rannu arferion da i gefnogi plant y lluoedd arfog yn ystod cyfnodau pontio i ac o ysgolion
- Nodi gweithgareddau ar gyfer teuluoedd dros wyliau’r haf, gan gysylltu â thimau ymgysylltu a lles lleol y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Cadw mewn cysylltiad â theuluoedd i sicrhau eu bod yn barod i’r plant ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi
- Ystyried cyflwyno ceisiadau i ffrydiau ariannu perthnasol am gyllid i ddiogelu aelodau o staff sy’n gyfrifol am gefnogi plant milwyr a’u teuluoedd
- Cynllunio ar gyfer y posibilrwydd o ail don o achosion Covid-19 a chau ysgolion eto.