This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Digwyddiadau

Cyfnodolyn SSCE Cymru

Mae cyfnodolyn SSCE Cymru yn rhoi trosolwg o'r gweithgareddau a'r digwyddiadau y mae aelodau tîm SSCE Cymru wedi bod yn rhan ohonynt.

Meh
23

Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2023

Mehefin 2023

Cafodd Millies ac Emilee amser gwerth chweil yn Niwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Cymru dan arweiniad Cyngor Dinas Casnewydd.

Meh
23

Ysgol Gynradd Cwmclydach yn dathlu Diwrnod Lluoedd Arfog

Mehefin 2023

Dathlodd Ysgol Gynradd Cwmclydach Ddiwrnod Lluoedd Arfog eleni trwy ddysgu am y Lluoedd Arfog yn y dosbarth yn ogystal â chyfarfod Swyddog Gwarantedig y Gwarchodlu Cymreig, Ryan Anthony a’r Uwch Siarsiant yn ogystal â hwyl a gemau yng nghwmni Forces Fitness yn y prynhawn!

Mai
23

Gŵyl Lluoedd Pen-y-bont ar Ogwr

Mai 2023

Mewn partneriaeth â SSCE Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, trefnwyd digwyddiad deuddydd i blant y lluoedd arfog a’u cyfoedion i gymryd rhan mewn diwrnod llawn hwyl gyda Forces Fitness.

Mai
23

Ysgol Pen y Bryn yn dathlu statws Arian Ysgol sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog

Mai 2023

Mae aelodau tim SSCE Cymru wedi ymuno ag Ysgol Pen-y-Bryn ym Mae Colwyn i gynnal eu digwyddiad Diwrnod Lluoedd Arfog cyntaf i ddathlu mai nhw yw’r ysgol cyntaf yng Nghymru i gael eu dyfarnu a statws Arian Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru.

Ebr
23

Dathlu Gwobrau Teuluoedd Lluoeddd Arfog, gwobr i Gregor!

Ebrill 2023

Enwebodd SSCE Cymru un o’n llysgenhadon plant y lluoedd arfog, Gregor, ar gyfer y categori Gwobr Pobl Ifanc yng Ngwobrau Dathlu Teuluoedd y Lluoedd Arfog 2023. 

Ebr
23

Dathlu ‘Diwrnod Piws’ 2023

Ebrill 2023

Dathlwyd ‘Diwrnod Piws’ ar ddydd Gwener, 28 Ebrill 2023 ar gyfer diwrnod Mis y Plentyn Milwrol. 

Ebr
23

Taith Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast i Folly Farm

Ebrill 2023

Cafodd plant y lluoedd arfog a’u teuluoedd gyfle i fwynhau diwrnod allan yn Folly Farm yn ystod Mis y Plentyn Milwrol.

Ebr
23

Rygbi Cadair Olwyn URC

Ebrill 2023

Cafodd blant y lluoedd arfog yn Ysgol Harri Tudur gyfle i roi cynnig ar rygbi cadair olwyn i ddathlu Mis y Plentyn Milrwrol.  

Ebr
23

Dosbarth celf ac amgueddfa symudol Oriel VC

Ebrill 2023

Cafodd blant y lluoedd arfog o Ysgol Gymunedol Doc Penfro ac Ysgol Gelli Aur gyfle i fwynhau prynhawn o gelf a hanes.

Ebr
23

Y Cynghorydd Dorrance, Cefnogwr y Lluoedd Arfog dros Bowys, yn ymweld â Chlwb Little Troopers Ysgol Babanod Mount Street

Ebrill 2023

Ymwelodd y Cynghorydd Dorrance â Chlwb Little Troopers Ysgol Babanod Mount Street o ddathlu Mis y Plentyn Milwrol.

Maw
23

‘Pecynnau Piws’ Mis y Plentyn Milwrol

Mawrth 2023

Er mwyn paratoi ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol, daeth tîm SSCE Cymru ynghyd yng Ngweinyddiaeth Amddiffyn St Athan i roi ‘pecynnau piws’ at ei gilydd ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol.

Chw
23

Riley yn adrodd o Orllewin Cymru, drwy garedigrwydd BBC Wales Today

Chwefror 2023

Mae Riley sy’n blentyn y lluoedd arfog o Orllewin Cymru wedi ennill cystadleuaeth i fod yn Ohebydd Ifanc BBC Wales. Adroddodd Riley am ei brofiad fel plentyn y lluoedd arfog a sut deimlad oedd pan fyddai ei dad i ffwrdd gyda’r Fyddin.  

Ion
23

Mae RAF St Athan yn dathlu ysgolion lleol yn derbyn eu statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru.

Ionawr 2023

Cynhaliodd RAF St Athan ddigwyddiad i ddathlu bod dwy ysgol lleol sef Ysgol Uwchradd Llantwit Major ac Ysgol Gynradd St Athan wedi derbyn statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru. 

Tach
22

Coffau

Tachwedd 2022

Ar gyfer holl weithgareddau coffau byddwn yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi colli eu bywydau dros eraill. Dydi coffau ddim yn clodfori rhyfel ond yn cydnabod yn barchus yr aberthau a wneir ar gyfer dyfodol heddychlon. 

Meh
22

Mae Adran Iau Mount Street wedi cyflawni eu Statws Efydd Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru

Mehefin 2022

Ym Mehefin 2022, dathlodd Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu, Powys, eu bod nhw yr ysgol gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws Efydd  Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru .

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan