This site uses cookies to improve your experience. They are safe and secure and never contain sensitive information. For more information click here.

Cyfnodolyn SSCE Cymru

Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru 2023

Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog Cymru 2023

Hydref 2023

Ar Ddydd Sadwrn 28ain Hydref 2023, fe wnaethom ddathlu Gwobrau Plant y Lluoedd Arfog cyntaf erioed Cymru. Cyflwynwyd y wobrau gan gyn-filwyr CIC, mewn partneriaeth â SSCE Cymru, a noddir gan Gyngor Powys, General Dynamics, YourNorth a Forces Fitness. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn yr ‘Infanty Battle School’ yn Aberhonddu, gyda chefnogaeth timoedd ymgysylltu'r Fyddin a'r Awyrlu ac yn cynnwys cerddoriaeth a berfformiwyd gan fand gwych Tywysog Cymru! 
Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr. Rydym wedi mwynhau dathlu gyda chi i gyd!!! 
Yn y digwyddiad, manteisiwyd hefyd ar y cyfle i ddathlu cyflawniad yr ysgolion yng Nghymru sydd wedi cyflawni eu statws Ysgol Aur Ysgolion sy’n Cefnogi'r Lluoedd Arfog Nghymru.

Enillwyr pob categori yw: 


Cyfraniad i Chwaraeon dan 11 oed  

Aur – Jack Woodhouse
Arian – Ollie Evans
Efydd – Harry Moore
Efydd - Freddie Scott

 

Cyfraniad i Chwaraeon dros 11 oed

Aur – Mollie Bastock
Arian – Luke Woodhouse
Efydd – Bleddyn Gibbs

 

Llysgennad Plant y Flwyddyn

Aur – Riley Barn
Arian – Beth Symmons
Efydd – Lyla McGuinness

 

Gwobr gymunedol o dan 11 oed

Aur – Samridhi Gurung
Arian – Sion Woodhouse
Efydd – Faith Lees
Efydd – Arushi Rai

 

Gwobr gymunedol dros 11 oed

Aur – Luke Woodhouse
Arian– Cari Jarvis
Efydd– William Grant

 

Gwobr arwr tawel

Aur –Shan Kenchington (Mount Street Infants School)
Arian – Delyth Marshman / Tara Rana (Mount Street Infants School)
Efydd – Sarah Hayward (Ysgol Pen y Bryn)

 

Enillydd y Pencampwr #ServiceChildrenAwards cyffredinol oedd Riley Barn. 
Da iawn Riley yn haeddiannol iawn! 

 

Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru - Ysgolion Aur 

Cyflwynwyd i: 

Mount Street Infants School, Powys

Ysgol Pen y Bryn, Conwy

Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Sir Benfro

 

 

Dyfyniadau Plant Milwyr

"Gynted ag ydych yn dod i arfer i dŷ, rydych yn cael eich symud – rwyf wedi bod mewn pedair ysgol ac wedi symud chwech gwaith."

Aiden

"Roeddwn i’n byw yn Nepal, yna aethom i Brunei, yna Malaysia."

Ashim

"Drwy fy llygaid i mae gennych gannoedd o ffrindiau mewn llefydd gwahanol."

Chloe

"Dwi di arfer symud rŵan a chymysgu gyda’r plant... Dwi di neud o gymaint o weithiau mae’n rhywbeth arferol rŵan."

Chloe

"Mae’n iawn siarad dros skype a phethau felly ond weithiau ti jyst eisiau cwtsh pan mae Dad i ffwrdd."

Georgia

"Dwi di mwynhau mynd o amgylch llawer o lefydd o amgylch y byd, mae’n anturus ac yn gyffrous."

Harry

"Mae bod yn rhan o’r fyddin fel bod yn rhan o deulu."

Ieuan

"Mae mam wedi prynu bwrdd sialc ac mae’n dweud sawl noson o gwsg arno, pob munud mae’n dod yn agosach iddo ddod adref."

Mia

"Dwi ddim eisiau iddo gael dyrchafiad... Dwi eisiau iddo gael dyrchafiad ond dwi ddim eisiau gadael."

Oliver

"Efallai y bydda i’n mynd i ysgol breswyl fel nad wyf yn newid ysgol bob yn ail flwyddyn."

Ryan

"Dwi di bod mewn saith ysgol wahanol; dwi heb aros mewn un ysgol ddigon hir."

Shana

"Mae wedi bod i ffwrdd am chwe mis ac yna mae yn ôl am bythefnos, yna mae’n mynd i ffwrdd eto."

Sianed

"Roedd fy rhieni yn y Fyddin. Roedd mam yn nyrs ac aeth dad i Afghanistan. 'Do ni’m yn deall yn iawn be' oedd o’n neud a deud y gwir ond ar ôl i mi ffeindio allan o ni’n meddwl "diolch byth bod o wedi dod adre’n saff.'"

Sanjog

"Mi wnaeth o lofnodi i adael yr wythnos ddiwetha’, felly mi fydd o wedi gadael erbyn diwedd y flwyddyn yma. Mae o wedi bod i mewn ers 24 o flynyddoedd. Fydd o’n well i mi achos mi fydd o o gwmpas lot mwy. Mae o’n hoffi’n gwylio ni’n chwarae rygbi felly mi fydd o’n gallu dod i’n gweld ni’n fwy aml"

Lewis

"Dwi’n mynd i rywle hollol newydd. Dydyn nhw’m yn gwybod dim amdana’i felly mae’n ddechrau newydd ac yn beth da iawn i mi."

Piaras

"Nes i symud i Gymru achos bod dad wedi cael ei anfon yma gan y Fyddin. O ni’n meddwl y baswn yn cael fy mwlio a dwi’n swil efo pobol newydd ond mi nes i ychydig o ffrindiau."

Dan