Diffiniad 1 (Diffiniad Llywodraeth Cymru)
Mae gan 'blentyn y Lluoedd Arfog' riant / rhieni – neu unigolyn/unigolion gyda chyfrifoldeb rhiant gweithredol sy’n aelodau o’r Lluoedd Arfog:
- yn Lluoedd Arfog Parhaol Ei Mawrhydi
- gydag ymrwymiad llawn fel rhan o’r gwasanaeth Wrth Gefn llawn-amser
- yn gyn-filwr sydd wedi bod yn Gwasanaethu o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf
- bu farw un o’u rhieni wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac mae’r disgybl yn derbyn pensiwn dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog neu’r Cynllun Pensiynau Rhyfel.
Diffiniad 2
Unigolyn y mae ei riant, neu brif ofalwr, yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog parhaol, neu fel milwr wrth gefn, neu wedi gwneud hynny ar unrhyw bryd yn ystod 25 mlynedd gyntaf bywyd yr unigolyn hwnnw (SCiP Alliance diffiniad) - ac nad yw’n cwrdd â'r meini prawf yn niffiniad 1.
Bydd y data a roddwch ar y ffurflen hon yn cael ei rannu gyda SSCE Cymru er mwyn deall nifer a lleoliad plant y Lluoedd Arfog mewn addysg yng Nghymru, gan alluogi SSCE Cymru i ddarparu'r wybodaeth, cyngor, y gefnogaeth a'r adnoddau priodol sy'n berthnasol i gefnogi plant y Lluoedd Arfog. I ddarllen mwy am sut mae CLlLC yn prosesu eich data personol, gweler yr hysbysiad preifatrwydd yma.