Dathlu profiadau plant y Lluoedd Arfog!
- Gallwch annog plant y Lluoedd Arfog i fod yn greadigol ac ysgrifennu eu straeon eu hunain am fod yn blentyn y Lluoedd Arfog.
- Rhowch gyfle i blant y Lluoedd Arfog wneud cyflwyniad am eu profiadau o fod yn rhan o deulu’r Lluoedd Arfog neu rannu lluniau, i ddangos y cyfleoedd cadarnhaol.
- Dangoswch fideos o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhannu eu profiadau, ar gael o SSCE Cymru
- Gallwch gynnal grwp trafod gyda phlant y Lluoedd Arfog i gael gwell dealltwriaeth o’u profiadau a dysgu am ffyrdd i’r ysgol ymateb i'w hanghenion, gan ddefnyddio Pecyn Adnoddau 11 SSCE Cymru.
- Cynhaliwch amser stori am brofiadau plant y Lluoedd Arfog, ffordd o fyw’r Lluoedd Arfog, bod yn ddisgybl newydd yn yr ysgol neu gydnabod gwahaniaethau yn y naill a’r llall. Gellir archebu cyfres o chwe llyfr dwyieithog Little Troopers AM DDIM gan SSCECymru@wlga.gov.uk
- Anogwch blant y Lluoedd Arfog i fod yn greadigol a chynhyrchu darn o waith celf sy’n dangos eu teimladau a’u profiadau o fod yn rhan o deulu’r Lluoedd Arfog.
- Ar fap o’r byd, nodwch ble mae plant y Lluoedd Arfog wedi byw neu ble mae eu rhieni wedi eu hanfon i wasanaethu.
- Gwnewch Wal Parth Amser, yn cynnwys cyfres o glociau i ddangos y gwahanol barthau amser o gwmpas y byd ble mae plant y Lluoedd Arfog wedi byw neu eu rhieni/rhiant wedi gwasanaethu.
- Dangoswch fideos o blant y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn rhannu eu profiadau, ar gael o SSCE Cymru.