Relate yw’r darparwr mwyaf y DU o ran perthynas cymorth, ac yn 2019, wedi helpu dros dau fil o bobl bob oedran, cefndir, cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaethau rhywedd i gryfhau eu perthynas. Mae'n ymwneud â darparu cymorth drwy gwnsela, rhaglenni tramgwyddwyr cam-drin domestig a chyswllt plant â chymorth drwy gynadledda wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gyfrwng fideo.
Drwy bartneriaethau gyda'r RAFBF a RNRMC, mae Relate yn gallu cynnig cwnsela ar berthynas am ddim i'r AWYRLU Brenhinol, y Llynges Frenhinol a'r Morlu Brenhinol sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, y lluoedd wrth gefn a'u dibynyddion. Mae personél a theuluoedd y lluoedd arfog yn wynebu pwysau unigryw sy'n gallu effeithio ar fywyd y teulu a pherthnasau cwpl. Mae cwnsela Relate ar gael os ydych yn briod, yn byw gyda'ch gilydd, mewn perthynas o'r un rhyw, wedi gwahanu, wedi ysgaru, yn weddw neu'n sengl ac y gellir ei ddarparu'n ddigidol neu wyneb yn wyneb. Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys sut i gael gafael arnynt, ewch i:
RAF
Llynges Frenhinol/Môr-filwyr Brenhinol