Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru:

Canllaw ar gyfer

Ysgolion

2015

2

Croeso i Ganllaw Ysgolion SSCECymru 2015

Nod y canllaw hwn yw rhoi gwybodaeth i ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn iddynt ddeall yn well sut mae bywyd yn gallu bod i blant milwyr mewn addysg yng Nghymru, a bod yn adnodd i helpu ysgolion i gefnogi plant milwyr i oresgyn unrhyw heriau maen nhw’n eu hwynebu o ganlyniad i symud neu adleoli. Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am y Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn amlinellu’r effeithiau posibl ar blant milwyr, ac yn rhoi arweiniad ac astudiaethau achos am sut orau i weithio gyda phlant milwyr a’u teuluoedd.

Cafodd yr adnodd ei gynhyrchu gan SSCECymru gyda chomorth ysgolion, rhieni, y Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS), y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc (DCYP), Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y canllaw hwn yn gywir ym Mai 2015. Rydym yn cydnabod bod llawer o newidiadau ar y gweill mewn addysg neu amddiffyn ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig, a’n bwriad yw adlewyrchu newidiadau arwyddocaol mewn unrhyw fersiynau dilynol o’r canllaw hwn.

3

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

4

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Er nad yw amddiffyn wedi ei ddatganoli i Gymru a chan hynny’n rhan o bolisi llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd, mae trefniadau ar waith i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac aelodau’r Lluoedd Arfog ar bob lefel yng Nghymru.

Cyfamod y Lluoedd Arfog

Cafodd Cyfamod y Lluoedd Arfog ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn 2011 gan bennu cytundeb rhwng ‘cymuned y Lluoedd Arfog, Llywodraeth y DU a’r Genedl’ o ran sut mae’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chymunedau yn gallu gweithio gydag aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd a’u cefnogi nhw.

4

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Pecyn Cymorth y Lluoedd Arfog

Yn 2011, sefydlwyd Pecyn Cymorth Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru i sicrhau nad yw aelodau cymuned y Lluoedd Arfog o dan anfantais wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’w gwasanaeth. Cafodd y pecyn cymorth ei ddiweddaru yn 2013 i gynnwys cyfeiriadau pellach ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog at amrediad o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys addysg, tai, iechyd, gofal plant, cyflogaeth a mwy.

5

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Cafodd Cyfamodau Cymunedol y Lluoedd Arfog eu creu fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, ar ôl i’w hegwyddorion allweddol gael eu deddfu yn Neddf y Lluoedd Arfog 2011. Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru wedi ymrwymo i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Nod pob Cyfamod yw bodloni anghenion cymuned y Lluoedd Arfog o fewn yr awdurdod lleol penodol hwnnw. Bydd cyflawni ymrwymiadau’r Cyfamodau yn golygu gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, cymdeithasau tai a sefydliadau addysg bellach ac uwch.

6

Cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Yn ogystal â rhoi’r cyfle i anrhydeddu Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, nod Cyfamod Cymunedol yw:

  • Annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog;
  • Cydnabod a chofio’r aberthau mae cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu;
  • Annog gweithgareddau sy’n helpu i integreiddio cymuned y Lluoedd Arfog mewn bywyd lleol;
  • Annog cymuned y Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi’r gymuned ehangach, boed drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu fathau eraill o ymgysylltu.

7

Pwyllgor Sefydlog Cymru Gyfan ar Blant Milwyr mewn Addysg

Mae Pwyllgor Sefydlog Cymru Gyfan ar Blant Milwyr mewn Addysg yn grŵp o benaethiaid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, aelodau’r Lluoedd Arfog, swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn, a chyrff trydydd sector eraill sy’n gweithio gyda’i gilydd i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant milwyr mewn addysg, ac i ddatblygu a rhannu arfer da er mwyn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i fodloni anghenion plant milwyr mewn addysg ledled Cymru.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu ymuno â’r pwyllgor neu rwydwaith SSCECymru, cysylltwch â millie.taylor@wlga.gov.uk

8

Cymuned y Tri Llu

Mae cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cynnwys personel sy’n gweithio ym mhob un o’r tri Llu: y Fyddin, Y Llu Awyr Brenhinol a’r Llynges Frenhinol. Y Lluoedd pennaf yng Nghymru yw’r Fyddin a’r Llu Awyr o ganlyniad i nifer y canolfannau sydd ganddynt yng Nghymru.

9

Cymuned y Tri Llu

Y Fyddin

Mae sawl canolfan a chyfleuster hyfforddiant gan y Fyddin yng Nghymru, gyda Brigâd 160 (Cymru), wedi ei leoli yn Aberhonddu, yn arwain ymgysylltiad ar gyfer y Tri Llu am y wlad i gyd. Am fwy o wybodaeth am y Fyddin yng Nghymru ewch i:

Y Llu Awyr Brenhinol

Mae gan yr RAF bersonel sydd wedi eu lleoli ledled Cymru, ac ar Ynys Môn y mae’r ganolfan fwyaf sef RAF Valley. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau’r RAF yng Nghymru ewch i:

Y Llynges Frenhinol

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau’r llynges yng Nghymru, ond bydd rhai o bersonel y llynges wedi eu lleoli gyda Lluoedd Arfog eraill. Am fwy o wybodaeth am y Llynges ewch i:

10

Rôl y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Addysg

Gwasanaethau Lles a HIVEs

Mae swyddogion lles wedi ei lleoli ym mhob un o’r canolfannau mawr yng Nghymru sy’n gyfrifol am gefnogi lles personel gweithiol a’u teuluoedd pan fo angen. Bydd gwasanaethau lles yn ymwneud â theuluoedd milwyr i’w cefnogi gydag amrediad o faterion ehangach fel tai ac iechyd, sydd â sgil-effeithiau posibl i blentyn milwr a’i addysg hefyd. Hefyd dylai’r swyddogion lles allu rhoi gwybodaeth leol am adleoliadau sydd wedi cael eu trefnu, a symudiadau mawr sydd ar y gweill.

HIVEs y Fyddin a’r RAF

Canolfannau gwybodaeth yw HIVES sydd ar gael i bob aelod cymuned y Lluoedd Arfog, gan ddarparu cymorth ar ffurf gwybodaeth i filwyr rheolaidd, TA a milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd a dibynyddion. Mae’r HIVEs yn ffordd dda o ledaenu gwybodaeth i gymuned y Lluoedd yn lleol drwy eu blogiau, rhestri e-bost a chyfryngau cymdeithasol. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth gysylltu yn yr adran cymorth a chyngor ar ddiwedd y canllaw hwn.

11

Rôl y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Addysg

Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS)

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i deuluoedd y Lluoedd Arfog syd â phlant mewn addysg ledled y DU a thramor.

Yn ogystal, mae CEAS yn cynnal llinell gymorth ar gyfer rhieni o 9.30am tan 3.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener:

Ffôn: 01980 618 244 (milwrol: 94 344 8244)
E-bost: enquiries@ceas.uk.com
Ffacs: 01980 618245 (milwrol: 94 344 8245)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan: https://www.gov.uk/childrens-education-advisory-service

12

Rôl y Weinyddiaeth Amddiffyn ac Addysg

Swyddog Cymorth Gurkhas

Mae Gurkha Wing Mandalay yn uned o’r Gurkhas sydd wedi ei lleoli yn Aberhonddu. Mae swyddog cymorth Gurkhas wedi ei leoli yno i gefnogi ymgysylltiad â’r teuluoedd o Nepal yn y gymuned.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: AWS-160X-Brecon-GSW@mod.uk neu ewch i:

Neu am fwy o wybodaeth am y gymuned Gurkha yng Nghymru ewch i:

13

Cydgysylltu â’r Lluoedd Arfog

Awgrymiadau i Ysgolion Gydgysylltu â’r Lluoedd Arfog yn Lleol
Os hoffech chi sefydlu cysylltiadau gwell â chymuned y Lluoedd Arfog yn eich ardal chi, beth am ystyried:

  • Cynrychiolaeth o’ch canolfan/uned leol ar eich corff llywodraethu;
  • Cyd-drafod darpariaeth ysgol estynedig gyda chanolfannau milwrol lleol;
  • Rhannu strategaethau i ymdrin ag effeithiau adleoliad ar blant milwyr a’u teuluoedd gydag uned leol y mae eu personel wedi eu lleoli tramor;
  • Sicrhau bod cymuned y Lluoedd yn cael ei chynrychioli’n ddigonol yng ngweithlu’r ysgol sy’n cael eu talu a’r rhai nad ydynt yn cael eu talu
  • Rhannu strategaethau i ddathlu presenoldeb cymuned y Lluoedd yn eich ysgol gydag unedau lleol;
  • Gweithio gyda rhieni, plant a chymunedau’r Lluoedd cyn iddynt symud i leoliadau eraill, er mwyn lleihau effeithiau negyddol symud;
  • Efallai y bydd grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn ffynhonnell arian i gefnogi mentrau sy’n canolbwyntio ar ddod â chymunedau milwyr a sifiliaid ynghyd yn agosach.

14

Plant milwyr yng Nghymru

15

Plant milwyr yng Nghymru

Pwy yw Plant Milwyr?

Wrth siarad am blant milwyr, rydym ni’n sôn yn bennaf am blentyn y mae un neu’r ddau o’i rieni’n gweithio yn y Lluoedd Arfog (y Fyddin/y Llu Awyr Brenhinol/ y Llynges Frenhinol) ar hyn o bryd.

Mae’r prosiect yn cydnabod hefyd y gall yr un ystyriaethau barhau i effeithio ar blant cyn-filwyr (pobl sydd wedi ymadael â’r Lluoedd Arfog o fewn y 6 mlynedd diwethaf) neu blant milwyr Wrth Gefn (a fydd efallai’n cael eu hadleoli fel rhan o’u rôl).

Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, mae’n bosib y dewch chi o hyd i blant sydd mewn unrhyw un o’r grwpiau hyn, ac mae’r themâu a drafodir yn y canllaw hwn yn effeithio arnyn nhw ar wahanol adegau yn eu gyrfa ysgol.

Plant nad ydynt yn byw gyda’r rhiant sydd yn y Lluoedd Arfog

Mae llawer o blant nad ydynt yn byw gyda’r rhiant sydd yn y Lluoedd Arfog ac nad ydynt o ganlyniad yn dioddef llawer o’r effeithiau sy’n effeithio ar blant milwyr eraill. Yn dibynnu ar eu perthynas â’r rhiant sydd yn y Lluoedd/eu hagosrwydd atyn nhw gall y plant hyn ar adegau ddioddef rhai o’r un heriau pan gaiff y rhiant hwnnw ei adleoli neu’n symud ymhell i ffwrdd o ganlyniad i’w swydd. Ar hyn o bryd nid yw’r plant hyn yn cael eu cydnabod yn blant milwyr ond efallai y bydd rhywfaint o’r wybodaeth yn y canllaw hwn o gymorth i chi wrth ystyried y grŵp hwn.

15

Plant milwyr yng Nghymru

16

Plant milwyr yng Nghymru

Faint o Blant Milwyr sy’n Byw yng Nghymru?

Gan nad yw data am blant milwyr yng Nghymru yn cael ei gofnodi ar hyn o bryd, mae’n anodd rhoi nifer cywir.

Yr hyn a wyddom, ar sail data’r cyfrifiad diweddaraf o 2011, yw bod teuluoedd y Lluoedd Arfog y mae ganddyn nhw blant 0-16 oed ledled pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae data cyfrifiad 2011 yn awgrymu bod o leiaf 2,486 o blant yng Nghymru lle nododd Person Cyswllt y Cartref eu bod yn y Lluoedd Arfog.

Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth lle mae rhywun heblaw Person Cyswllt y Cartref yn y Lluoedd Arfog, gwybodaeth am gyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, neu lle bo teuluoedd milwyr sydd â phlant sy’n byw mewn cyfeiriad arall.

17

Plant milwyr yng Nghymru

Derbyniadau a Chasglu Data

Er nad oes unrhyw fecanwaith ffurfiol ar hyn o bryd i gofnodi plant milwyr drwy’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), mae sawl ysgol yng Nghymru, lle mae niferoedd y plant milwyr yn gyfran fwy sylweddol o gymuned yr ysgol, wedi cychwyn dulliau anffurfiol o gyfrif niferoedd y plant milwyr yn eu hysgolion. Mae hyn wedi cael ei wneud drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gwella cyfathrebu, holi adeg ymrestru, gwybodaeth oddi wrth ddisgyblion a phenodi gweithwyr allweddol i weithio gyda phlant milwyr a’u teuluoedd.

Mae rhai awdurdodau lleol wedi dechrau cynnwys blwch ar ffurflenni derbyniadau’r ysgol i gofnodi niferoedd y plant milwyr. Byddai SSCECymru yn annog pob awdurdod lleol i fabwysiadu hyn fel arfer da.

Mae SSCECymru yn gweithio yn ogystal i godi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd y Lluoedd Arfog ledled Cymru i’w hannog i ddweud wrth ysgolion os ydynt yn dod o deulu’r Lluoedd Arfog.

18

Plant milwyr yng Nghymru

Tabl o Gyfrifiad 2011 sy’n dangos nifer y plant lle mae Person Cyswllt y Cartref yn y Lluoedd Arfog:

PawbPennaeth teulu yn y lluoedd arfog
Ynys Môn11,890185
Gwynedd20,86840
Conwy19,06396
Sir Ddinbych17,02054
Sir y Fflint28,58498
Wrecsam25,84290
Powys22,761294
Ceredigion11,165 -
Sir Benfro22,002223
Sir Gâr33,026109
Abertawe41,322114
Castell-nedd Port Talbot24,67459

19

Plant milwyr yng Nghymru

Tabl o Gyfrifiad 2011 sy’n dangos nifer y plant lle mae Person Cyswllt y Cartref yn y Lluoedd Arfog:

PawbPennaeth teulu yn y lluoedd arfog
Pen-y-bont ar Ogwr25,35888
Bro Morgannwg23,776365
Caerdydd63,074137
Rhondda Cynon Taf44,325143
Merthyr Tudful10,969 -
Caerffili34,831101
Blaenau Gwent12,474 -
Tor-faen17,204 -
Sir Fynwy16,21399
Casnewydd29,40072
Cymru555,8412,486
-cymhwyswyd rheolaeth datgelu

20

Arian ar gyfer Ysgolion

Ariannu addysg gynhwysol i bob dysgwr yng Nghymru

Gan fod addysg wedi ei datganoli yng Nghymru, mae ymagwedd wahanol at ddyfarnu arian grant sy’n symud i ffwrdd o dargedu grwpiau penodol a thuag at sicrhau bod pob grant yn cwmpasu gwahanol grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys plant milwyr. Mae hyn yn golygu er nad oes unrhyw gyllid penodol ar gyfer plant milwyr drwy Bremiwm Disgyblion sy’n Blant Milwyr, mae cyllid yn ei le i gefnogi pob dysgwr er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu hanfanteisio.

Cronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn

Hefyd mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfle i wneud cais am arian y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer prosiectau penodol a fydd o fudd i blant milwyr o fewn cymuned yr ysgol. Mae SSCECymru yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i annog mwy o ysgolion i wneud cais am yr arian hwn lle bo angen. Mae bwriad i ddod â’r Gronfa Cymorth Addysg i ben ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2017-18.

21

Grantiau’r Cyfamod Cymunedol

Ariannu addysg gynhwysol i bob dysgwr yng Nghymru – Pam nad Oes Unrhyw Bremiwm Disgyblion sy’n Blant Milwyr?

Mae grantiau’r Cyfamod Cymunedol yn ffordd arall i ysgolion weithio gyda chymuned ehangach y Lluoedd Arfog i fanteisio ar arian am amrediad o fentrau.

Cafodd cynllun grantiau’r Cyfamod Cymunedol ei sefydlu i gefnogi’r Cyfamod Cymunedol ac i ariannu prosiectau lleol sy’n dod â’r gymuned sifiliaid a’r Lluoedd Arfog ynghyd. Mae rhestr o gysylltiadau Cyfamod Cymunedol awdurdodau lleol ac o’r gwaith sy’n digwydd yn lleol ar gael yma:

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ewch i:

Ym mis Chwefror 2015 cyhoeddodd y Gweinidog Amddiffyn gronfa barhaol o £10 miliwn y flwyddyn ar gyfer prosiectau’r Cyfamod Cymunedol. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi.

22

Ffactorau sy’n Effeithio ar Blant Milwyr mewn Addysg

Er bod amgylchiadau unigol pob plentyn yn gallu effeithio ar eu bywyd yn yr ysgol a’r tu allan iddi yn wahanol, mae rhai ffactorau cyffredin yn achosion plant milwyr sy’n gallu dod ag amrediad o effeithiau cadarnhaol a negyddol ar wahanol adegau yn eu gyrfa ysgol. Gall y rhain fod yn gysylltiedig ag adleoliad a symud.

Symudedd

Y gallu i symud neu gael eu symud yn rhwydd ac yn ddidrafferth

Gall fod angen i bersonel y Lluoedd Arfog symud i leoliadau gwahanol (postiadau) llawer o weithiau yn ystod eu gyrfa. Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn annog teuluoedd personel gweithgar y Lluoedd Arfog i symud gyda’i gilydd, lle bo’n bosibl. Gall y symudiadau hyn gael eu cynllunio neu ddigwydd ar fyr rybudd, ond yn y pen draw bydd ganddyn nhw oblygiadau sylweddol i blant milwyr a fydd efallai’n newid ysgolion llawer o weithiau yn ystod eu gyrfa ysgol.

23

Ffactorau sy’n Effeithio ar Blant Milwyr mewn Addysg

24

Ffactorau sy’n Effeithio ar Blant Milwyr mewn Addysg

Mae Lluoedd Gwahanol yn Symud yn Wahanol:
Yn Y Fyddin mae personel yn tueddu i symud mewn grwpiau (catrawd/batalion/ sgwadron)
Mae personel yr RAF yn tueddu i symud yn unigol wrth i’w gyrfaoedd symud ymlaen neu i fodloni anghenion y Gwasnaeth
Mae personel y Llynges (gan gynnwys y Môrfilwyr Brenhinol) yn debygol o fyw mewn un lle am gyfnodau hwy ond maent yn symud i weithio gyda phersonel o’r Fyddin neu’r RAF.
Weithiau bydd symudiadau graddfa fawr o bersonel, pan fydd llawer o bobl yn symud ar yr un pryd.
Mae hyn fel arfer oherwydd cau canolfan neu newid yn yr isadeiledd amddiffyn.

25

Newidiadau i Symudedd Lluoedd

Wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig barhau i gyflwyno newidiadau i sut mae’r Lluoedd Arfog yn gweithredu ym Mhrydain, bydd rhai newidiadau i symudedd Lluoedd.

Y newid mwyaf sy’n debygol o ddigwydd yng Nghymru yw cau Barics Brawdy yn Hwlffordd (sydd wedi ei drefnu ar gyfer 2018), a fydd yn gweld personel y Lluoedd yn cael eu hadleoli i rannau eraill o’r wlad ond yn bennaf i Sain Tathan ym Mro Morgannwg. O ganlyniad i hyn mae’n bosib y bydd mewnlif o deuluoedd i Fro Morgwnnag, yn arbennig o amgylch ardaloedd Sain Tathan a Llanilltud Fawr.

Mae’r newid mawr arall yn ymwneud â rôl Brigâd 160 (Cymru), sydd wedi mabwysiadu rôl newydd fel uned hawdd ei lleoli, ac a fydd o bosib yn effeithio ar y ffordd mae milwyr yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.

26

Effeithiau Symudedd

Mae symud o un lle i’r llall ac o un ysgol i’r llall yn gallu bod yn her i unrhyw blentyn. Mae llawer o blant milwyr yn aml yn symud sawl gwaith yn ystod eu gyrfa ysgol. Mae’r symud aml hwn yn gallu creu heriau ychwanegol i blant milwyr, eu teuluoedd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sy’n cefnogi’r symudiadau hynny.

Problemai Posibl i Blant Milwyr sy’n SymudManteision Posibl i Blant Milwyr sy’n Symud
• Ymdeimlad o golled ar ôl symudiadau• Gwydnwch
• Ymddygiad allblyg neu echblyg, (yn arbennig pan fydd rhieni wrthi’n Gwasanaethu)• Gallu i addasu i newid
• Ansicrwydd• Gallu i gymdeithasu a gwneud ffrindiau’n gyflym
• Dibyniaeth ar oedolion a/neu blant eraill personel Lluoedd Arfog (gan gynnwys brodyr a chwiorydd)• Annibyniaeth/hyder
• Anhawster wrth nodi anghenion addysgol arbennig• Amrediad eang o brofiadau gan gynnwys gwahanol ddiwylliannau, ieithoedd a theithio
• Anawsterau iaith (i blant sydd wedi bod yn dysgu ieithoedd heblaw Saesneg)
• Anawsterau wrth ymrwymo i gydberthnasau â chymheiriaid, oedolion, ac ysgolion yn eu cyfanrwydd – perygl dadrithiad
• Bylchau mewn dysgu
• Cymhlethdodau o ran arholiadau a chyrsiau cyhoeddus
• Trosglwyddiad gwael gwybodaeth rhwng ysgolion sy’n arwain, er enghraifft, at ddiffyg her
• Anawsterau datblygiad emosiynol a chymdeithasol
• Diffyg dilyniant rhwng darpariaeth AAA

27

Ar gyfer Ysgolion ac Awdurdodau Lleol

Mae llawer o heriau posibl i ysgolion ac awdurdodau lleol eu hystyried o ran symudiad plant milwyr i mewn ac allan o ardal. Yn debyg i boblogaethau mwy symudol eraill, fel plant teithwyr sipsi neu geiswyr lloches, y gallu i gynllunio ymlaen llaw a datblygu systemau effeithiol i gyfathrebu a rheoli gwybodaeth sy’n allweddol. Mae cymhlethdod ychwanegol wrth gynllunio ar gyfer symudiadau graddfa fwy plant i mewn i ardal / allan ohoni yn achos symud canolfan neu symudiadau catrawdau cyfan.

YsgolionAwdurdodau Lleol
• Sicrhau bod gwybodaeth disyblion yn cael ei throsglwyddo’n gyflym ac yn effeithiol rhwng hen ysgolion a’r rhai newydd• Cynllunio am leoedd mewn ysgolion
• Rheoli’r broses bontio o ymagweddau gwahanol at y cwricwlwm ac asesu yng ngwledydd gwahanol y DU• Sicrhau pontio rhwydd gan blant i mewn ac allan o awdurdodau lleol yn achos plant sydd â datganiadau
• Sefydlu anghenion AAA/AAY yn gyflym a darparu adnoddau i fodloni’r anghenion hyn• Sicrhau cyfathrebu rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn, awdurdodau lleol ac ysgolion
• Bodloni anghenion bugeiliol plant yn effeithiol a chydnabod mai dim ond un rhiant fydd gan lawer ohonyn nhw gartref am gyfnodau hir• Gweithredu ffyrdd o gasglu data am blant milwyr
• Effaith symud ar argaeledd adnoddau materol• Gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r Cyfamod Cymunedol a’i ymrwymiad i gefnogi teuluoedd milwyr o fewn yr awdurdod lleol

28

Ar gyfer Ysgolion ac Awdurdodau Lleol

YsgolionAwdurdodau Lleol
• Costau gweinyddol pobogaeth ysgol symudol iawn• Gweithio i hybu grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a Chronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth ar draws ysgolion yn yr ardal area
• Rheoli diffyg dilyniant yn y cwicwlwm a bylchau dysgu • Rheoli hyfywedd ysgolion bach oherwydd proffil daearyddol newidiol y lluoedd arfog yn y DU ac oherwydd newidiadau neu oedi yn symudiadau cynlluniedig grwpiau o bersonel Lluoedd
• Gwyliau yn ystod amser tymor
• Cydgysylltu’n effeithiol â’r gymuned filwrol
• Rheoli agweddau rhieni/ disgyblion at ddarpariaeth Gymraeg
• Tebygolrwydd uwch o blant personel y Lluoedd Arfog yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ymddygiadau peryglus a dioddef anawsterau ymddygiadol, cymdeithasol neu emosiynol
• Effaith y Lwfans Ysgol Ddydd (Gogledd Cymru) ar leoedd mewn dosbarthiadau ar ôl oedran derbyn (pan fydd disgyblion yn gadael i fynychu ysgol breifat)

29

Ar gyfer Teuluoedd

Pan fydd teulu Lluoedd Arfog yn paratoi i symud o’r newydd, mae’n bosib y byddant yn ystyried amrediad eang o ffactorau ynghylch addysg eu plant yn y dyfodol. Mae hyn yn gallu bod yn cyfnod llawn straen i deuluoedd, yn enwedig wrth ystyried symud gyda phlant hŷn sy’n astudio am TGAU ac arholiadau eraill. Mae’n cynnwys o bosib:

  • Dewis ysgol/cael gwybodaeth ddefnyddiol/ymweld ag ysgolion;
  • Derbyniadau i ysgolion/apeliadau ynghylch derbyn;
  • Trosglwyddo gwybodaeth ddefnyddiol i ysgolion newydd;
  • Anghenion dysgu ychwanegol a pharhad unrhyw ddarpariaeth arbenigol;
  • Cymryd gwyliau yn ystod amser tymor;
  • Ystyried opsiwn byrddio neu Lwfans Ysgol Ddydd Gogledd Cymru;
  • Y gwahaniaethau rhwng ardaloedd: ansawdd llety/bywyd, safonau addysg, hygyrchedd ysgolion, mynediad i gefnogaeth teulu estynedig, agweddau ysgolion tuag at blant milwyr a chymunendau Lluoedd Arfog;
  • Disgwyliadau afrealistig ynghylch safonau ysgolion a/neu gymorth wrth symud o un ardal i’r llall;
  • Rhybudd am symudiadau swydd/argaeledd gwybodaeth ymlaen llaw am gyfeiriadau llety;
  • Penderfyniadau ynghylch symud gyda’i gilydd fel teulu neu fodloni anghenion addysgol plant h.y. aros ymlaen i gwblhau arholiadau;
  • Rheoli anghenion addysgol plant ochr yn ochr â’r llawer o ystyriaethau eraill wrth symud cartref/swydd/gwlad ac yn y blaen.

30

Lliniaru Effeithiau Symud

Yn dibynnu ar oedran ac anghenion plant milwyr, bydd eu cefnogi i gymryd rhan yn y broses symud yn helpu i wneud y pontio i ysgol newydd yn haws. Bydd llawer o hyn yn dibynnu ar agwedd y teulu at symud, ond mae’r ysgol yn chwarae rhan hanfodol o hyd wrth gefnogi’r plentyn drwy’r broses.

  • Pecynnau symud ysgol: mae CEAS wedi datblygu pecynnu symud ysgol i blant i’w helpu i baratoi i symud ysgol. Maent ar gael ar-lein a thrwy HIVEs ledled Cymru: www.gov.uk/childrens-education-advisory-service
  • Os oes modd, cefnogi plant i gymryd rhan wrth ddewis ysgol a’r cyfnod pontio gan gynnwys cefnogi cyfathrebu ag ysgol newydd neu gefnogi ymweliadau ag ysgol newydd
  • Mabwysiadu system gyfeillio/cefnogaeth gan gymheiriaid i helpu’r disgyblion newydd i ymsefydlu yng nghymuned yr ysgol
  • Cysylltiad rhwng ysgolion: pan fydd ysgol yn ymwybodol o symudiad plentyn ac mae manylion yr ysgol newydd ar gael, cysylltu â’r ysgol i ddechrau trosglwyddo gwybodaeth a chefnogi dealltwriaeth o anghenion plentyn cyn gynted â phosibl

31

Adleoli

32

Adleoli

Symudiad criwiau neu offer i le neu sefyllfa ar gyfer gweithrediad milwrol

Gall adleoli criwiau fod yn rhan arferol o fywyd i lawer o deuluoedd Lluoedd Arfog, a bydd yn parhau i fod yn realiti er gwaethaf dychweliad personel o Affghanistan ac Irac, wrth i luoedd amddiffyn Prydain barhau i wasanaethu dros y byd i gyd. Yn yr un modd â symudiadau lluoedd, yn ddelfrydol caiff adleoliadau eu cynllunio i ganiatáu i deuluoedd a phersonel baratoi, ond weithiau gall adleoliadau ddigwydd yn gyflym ac yn ddirybudd.

If you would like understand more about the deployment process the MOD has produced a guide for Armed Forces families available here: Families Deployment Guide.pdf

33

Adleoli

Effeithiau Posibl Adleoliad:

  • Yn heriol yn emosiynol
  • Straen a gofid
  • Ymddygiad heriol gartref ac yn yr ysgol
  • Ymaddasu i’r ffaith bod rhieni yn ymadael ac yn dychwelyd
  • Derbyn gofal gan un rhiant neu ofalwr tra bydd rhiant/rhieni wedi eu hadleoli
  • Delio â phrofedigaeth

Lliniaru Effeithiau Adleoliad

Bydd gan blant y mae eu rhiant neu rieni yn adleoli i wasanaethu amrediad o adweithiau a dulliau o ymdopi ar sail eu hanghenion a’u hamgylchiadau eu hunain. Mae ffactorau fel AAA neu anghenion addysgol eraill, profiadau blaenorol o adleoli a symud, cydberthnasau presennol o fewn y teulu a lefel cefnogaeth/agosrwydd at deulu estynedig i gyd yn gallu chwarae rhan arwyddocaol yn y ffordd mae plentyn yn ymdopi.

34

Adleoli

Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu

Mae ymwybyddiaeth a chyfathrebu yn allweddol i sicrhau bod plant yn cael manteisio ar y lefel gywir o gefnogaeth mae arnynt ei hangen o fewn amgylchedd yr ysgol. Drwy wybod a oes gan blentyn rhiant/rhieni sy’n adleoli i wasanaethu, byddwch yn gallu briffio staff a gwneud unrhyw drefniadau angenrheidiol i sicrhau bod cyn lleied o ymyrraeth â phosibl i addysg plentyn.

Cyfathrebu â Chanolfannau Milwrol

Os yw’ch ysgol chi yn agos at ganolfan filwrol, mae’n bosib bod gennych chi gysylltiadau da ag aelodau staff yn y tîm lles yn barod a fydd yn gallu rhoi gwybod i chi am adleoliadau sydd ar y gweill a natur a hyd yr adleoliad. Os yw’ch ysgol chi ymhellach i ffwrdd o ganolfan neu rydych ond wedi darganfod yn ddiweddar bod gennych chi blant milwyr ar eich cofrestr, efallai yr hoffech chi ymuno â Rhwydwaith SSCECymru, neu gysylltu â’r canolfannau’n uniongyrchol er mwyn meithrin y cysylltiadau hynny.

35

Adleoli

Cynllunio: Adeoliad a Dychweliad Rhiant/Rhieni

Efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar rai plant cyn neu ar ôl i rriant neu rieni gael eu hadleoli neu ddychwelyd adref. Os ydych chi’n ymwybodol o adleoliad sydd ar y gweill, gallwch gynllunio ffyrdd o sicrhau bod gan blentyn milwr y gefnogaeth mae arno/arni eu hangen fel:

  • Meddwl am ddulliau o gadw bywyd yn yr ysgol mor ‘normal’ â phosibl er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a bod dysgu yn cael parhau;
  • Sicrhau bod plant milwyr yn gwybod bod aelod staff y gall ymddiried yndo/ynddi ar gael os oes arnyn nhw angen siarad â rhywun;
  • Cyfathrebu ag athrawon a staff eraill am adleoliadau er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn parhau’n amgylchedd diogel, sensitif a deallgar;
  • Datblygu gweithgareddau eraill yn ôl yr angen a allai gefnogi plentyn neu berson ifanc (mae rhai ysgolion ledled y DU wedi sefydlu ‘bluey clubs’ a chlybiau gwaith cartref ac yn cynnig cymorth gyda sgiliau ysgrifennu llythyrau a hyder).

36

Adleoli

Cyfathrebu â rhiant/rhieni sydd wedi eu hadleoli

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwella ei gallu i alluogi cyfathrebu rhwng personel sydd wedi eu hadleoli a’u teuluoedd. Dylai ysgolion drafod â rhieni a staff lles unedau sut allant gefnogi’r cyfathrebu yma ac, os yw’n briodol, gymryd rhan ynddo.

Cymorth i Deuluoedd

Bydd teuluoedd yn delio ag adleoli yn eu ffyrdd eu hun, ond bydd rhai efallai’n elwa ar fwy o gefnogaeth oddi wrth gymuned yr ysgol nag eraill, yn arbennig os nad ydynt yn byw mewn canolfan filwrol neu wrth ymyl un. Mae cyfranogiad rhieni mewn ysgolion wedi cynnig cyfleoedd erioed i gysylltiadau cryf gael eu creu rhwng cartref ac ysgol ac i rieni gefnogi ei gilydd. Mae rhai ysgolion wedi datblygu eu grwpiau rheini’r Lluoedd Arfog eu hun i drafod materion sy’n berthnasol i blant y Lluoedd Arfog ac i annog cyfathrebu’n well.

37

Adleoli

Diogelu

Yn ystod cyfnodau adleoliad pan fydd un rhiant neu’r ddau i ffwrdd o bosib, mae rhai plant yn wynebu mwy o risgiau o ran diogelu. Os ydych chi’n pryderu am blentyn, dylech chi ddilyn y gweithdrefnau perthnasol a gweithio gydag asiantaethau eraill os oes angen i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ‘Cadw Dysgwyr yn Ddiogel’ (2015) ar gael yma: http://gov.wales/topics/educationandskills/publications/guidance/keeping-learners-safe/?lang=en

Dull Amlasiantaeth

Os ydych chi’n ymwybodol o wasanaethau statudol eraill sy’n gweithio gyda theulu, dylech chi roi gwybod iddynt am unrhyw adleoliadau i sicrhau bod unrhyw anghenion sydd gan y plant neu’r teulu cyfan sy’n dod i’r amlwg yn cael eu diwallu’n effeithiol.

38

Adleoli

Polisi Clir ynghylch Gwyliau yn ystod Amser Tymor

Pan fydd personel y lluoedd arfog yn dychwelyd o adleoliadau, fel arfer mae cyfnodau gwyliau yn cael eu rhoi iddynt i’w treulio gyda’u teuluoedd, i ymlacio ac ymadfer. Mae’r cyfnodau gwyliau hyn yn cael eu pennu yn ôl eu hadleoliadau ac yn aml byddant yn digwydd yn ystod amser tymor ysgol. Os nad oes gan eich ysgol bolisi’n barod am absenoldeb yn ystod amser tymor sy’n cynnwys amgylchiadau plant milwyr a’u teuluoedd, efallai yr hoffech ystyried:

  • Sicrhau lle bo’n bosibl bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i deuluoedd Lluoedd Arfog sydd efallai’n methu cymryd gwyliau gyda’i gilydd ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn ysgol;
  • Annog teuluoedd Lluoedd Arfog i ddweud wrth yr ysgol pan maent yn bwriadu mynd â’u plant allan o’r ysgol yn ystod amser tymor am wyliau neu am resymau eraill sy’n ymwneud ag adleoliad y Lluoedd Arfog.
  • Mae gan benaethiaid bŵer disgresiynol i awdurdodi absenoldeb am wyliau teuluol yn ystod amser tymor pan fydd rhieni’n gofyn am ganiatâd. Ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol, ni ddylai mwy na 10 niwrnod o absenoldeb gael eu caniatáu at y diben hwn. Dylai pennaeth ystyried amser y flwyddyn y daith arfaethedig, hyd a phwrpas y gwyliau, yr effaith ar ddilyniant dysgu, amgylchiadau’r teulu a dymuniadau’r rhieni yn ogystal â phatrwm presenoldeb cyffredinol y plentyn.

39

Adleoli

Gwasanaethau Cwnsela Annibynnol

Yng Nghymru mae cwnsela yn ddarpariaeth gyffredinol i bobl ifanc 11 i 18 mlwydd oed a disgyblion blwyddyn 6, y gallant fanteisio arno os byddant yn ofidus, wedi drysu neu’n ofnus. O fewn ysgolion, mae cwnsela’n cydategu’r dulliau gwahanol sydd eisoes ar waith i gefnogi anghenion iechyd, emosiynol a chymdeithasol disgyblion.

Trosglwyddo Gwybodaeth Disgybl

Bydd gan bob ysgol broses yn ei lle i sicrhau pan fydd plentyn yn ymadael neu’n ymuno ag ysgol, y caiff gwybodaeth am eu hanghenion a’u cyrhaeddiad ei throsglwyddo gyda nhw. I blant milwyr a fydd efallai wedi symud i sawl ysgol yn barod yn eu gyrfa ysgol, neu sy’n debygol o symud yn y dyfodol, mae pwysigrwydd trosglwyddiad yr wybodaeth hon yn hanfodol.

Mae’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc (DCYP) wedi datblygu templed Proffil Gwybodaeth Disgybl ar gyfer ysgolion i helpu wrth drosglwyddo gwybodaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl rhwng ysgolion. Gallwch weld y templed yma: https://www.gov.uk/government/publications/pupil-information-profile-for-military-service-children

Neu gweler Atodiad A ar ddiwedd y canllaw hwn.

40

Yr Iaith Gymraeg

Pan fydd plentyn y Lluoedd Arfog yn dechrau yn yr ysgol yng Nghymru am y tro cyntaf, bydd cymryd amser i esbonio’r system o ran yr iaith Gymraeg a sut mae’n gweithio o fewn eich ysgol chi i’r rhieni o fudd mawr iddyn nhw a’u plant.

Yn aml bydd gan deuluoedd sydd heb fyw yng Nghymru o’r blaen bryderon y bydd eu plant an anfantais neu’n syrthio ar ei hôl oherwydd eu diffyg sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd plant hŷn yn symud i mewn i Gymru ac mae’r rhieni yn poeni am yr effaith ar eu hopsiynau arholiadau a’u canlyniadau. Drwy esbonio sut mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu yn eich ysgol chi a sut mae dysgwyr newydd yn cael eu cefnogi, byddwch yn helpu i leddfu pryderon teuluoedd sydd wedi symud i Gymru’n ddiweddar.

41

Anghenion Addysgol Arbennig

Gall asesu plant milwyr am anghenion dysgu ychwanegol a darparu dilyniant o ran y ddarpariaeth ddod yn llawer anos o ganlyniad i symudiadau aml. Mae sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn trosglwydo gwybodaeth berthnasol mor gyflym â phosbl yn allweddol i gyflawni hyn, ond mae ffactorau eraill sy’n gallu peri her i ysgolion a rhwystredigaeth i deuluoedd.

Asesu a Monitro Angen

Ymhlith y ffactorau sy’n gallu rhwystro darpariaeth cymorth AAA priodol mae polisïau asesu, trothwyon ac ymagweddau gwahanol rhwng ysgolion/ awdurdodau lleol, trosglwyddo gwybodaeth yn araf a’r amser y gall ei gymryd i anghenion ddod i’r amlwg. Mae’n hanfodol deall hanes addysgol blaenorol a darpariaeth AAA plentyn y Lluoed Arfog, yn ogystal â rheoli disgwyliadau rhieni tra bydd asesiadau’n cael eu cynnal/darpariaeth newydd yn cael ei sefydlu.

42

Anghenion Addysgol Arbennig

Gwneud Penderfyniadau ac Adnoddau

Ymhlith y ffactorau sy’n gallu rhwystro darpariaeth cymorth AAA priodol mae polisïau asesu, trothwyon ac ymagweddau gwahanol rhwng ysgolion/ awdurdodau lleol, trosglwyddo gwybodaeth yn araf a’r amser y gall ei gymryd i anghenion ddod i’r amlwg. Mae’n hanfodol deall hanes addysgol blaenorol a darpariaeth AAA plentyn y Lluoed Arfog, yn ogystal â rheoli disgwyliadau rhieni tra bydd asesiadau’n cael eu cynnal/darpariaeth newydd yn cael ei sefydlu.

Cyfathrebu

Mae sicrhau y gallwch chi gyfathrebu’n glir, yn onest ac yn dosturiol â theuluoedd am AAA eu plant yn rhan hanfodol o feithrin a chynnal ymddiriedaeth. Weithiau gall pryderon arwain at gamddealltwriaethau sy’n gallu tanseilio ymddiriediaeth y naill yn y llall. I deuluoedd y Lluoedd Arfod sy’n symud rhwng gwledydd, awdurdodau lleol ac ysgolion gwahanol, mae’r cyfleoedd i gyfathrebu ac ymddiriedaeth fethu yn llawer uwch. Mae’n bwysig bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn deall y cyd-destunau addysgol ac eraill mae plant milwyr symudol wedi dod ohonyn nhw er mwyn meithrin cysylltiadau llwyddiannus â phlant personel y Lluoedd a’u teuluoedd.

43

Anghenion Addysgol Arbennig

Cofrestru gyda CEAS

Gofynnir i ysgolion annog teuluoedd y Lluoedd Arfog i gofrestru gyda CEAS unrhyw rai o’u plant y mae ganddynt AAA os yw’r plant hynny yng nghyfnod Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy neu’r tu hwnt. Pwrpas cofrestru yw galluogi CEAS i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefogaeth i deuluoedd y Lluoedd Arfog ar unrhyw fater sy’n ymwneud ag anghenion eu plant o bryderon cychwynnol am gynnydd eu plant yn yr ysgol drwodd i gefnogaeth gydag apeliadau a thribiwnlysoedd.

Canllaw SSCECymru i Rhieni
Ar y cyd â Chanllaw SSCECymru i Ysgolion 2015, rydym ni hefyd wedi cynhyrchu adnodd ar gyfer rheini sydd yn y Lluoedd Arfog sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor am y system addysg yng Nghymru. Mae’r canllaw ar gael yma: www.SSCECymru.co.uk

44

ASTUDIAETH ACHOS 1

Ysgol Babanod a Meithrinfa Mount Street, Aberhondda, Powys

Gwella Sgiliau Iaith a Rhifedd ac Integreiddio Cymunedau

Maint yr ysgol: 166
Plant milwyr sydd ar y gofrestr: 47
Canran plant milwyr: 28.3%

Mae Ysgol Babanod a Meithrinfa Mount Street yn Aberhonddu wedi ei lleoli o fewn calon cymuned y Lluoedd Arfog yn Aberhonddu. Yn draddodiadol mae gan yr ysgol ganran uchel o blant milwyr o fewn cymuned yr ysgol ac mae’n gweld cryn symud o fewn tymhorau’r ysgol. Mae Aberhonddu hefyd yn unigryw yng Nghymru am ei chymuned Nepalaidd gynyddol sy’n byw ac yn setlo yng Nghymru fel rhan o gatrawd y Gurkhas.

45

ASTUDIAETH ACHOS 1

Gwella Sgiliau Iaith a Rhifedd

Nododd yr ysgol fod y plant Nepalaidd a oedd yn ymuno â’r ysgol yn cael anawsterau gyda’u llythrennedd rhifyddol a geiriau/cysyniadau nad ydynt yn cael eu defnyddio yn Nepaleg (e.e. llai/mwy na). Yn dilyn profion cynnydd mathemateg a darllen NFER 2011 i blant Blwyddyn 1 a 2, dadansoddodd yr ysgol y sgoriau rhwng plant y Lluoedd Arfog Nepalaidd a disgyblion eraill yn y flwyddyn a darganfod bod gwahaniaeth o 15-pwynt. Am hynny, penderfynodd yr ysgol gyflogi dau Gynorthwywydd Cymorth Dysgu (LSAs) Nepalaidd o’r gymuned i gefnogi’r plant milwyr wrth weithio ar sgiliau iaith a helpu i esbonio iaith fathemategol. Y flwyddyn ddilynol, gydag ymyriadau, dangosodd ganlyniadau’r profion welliant mawr gyda sgôr Blynyddoedd 1 a 2 y plant Nepalaidd, ar gyfartaledd, i lawr i wahaniaeth o ddim ond 6-phwynt ar y sgoriau safonedig.

Yn 2014, yn dilyn ymadawiad yr LSAs o Nepal, llogodd yr ysgol un Cynorthwy-ydd Prydeinig gyda chefndir yn y Lluoedd Arfog ac un Cynorthwy-ydd Nepalaidd o gefnir y Lluoedd Arfog i barhau i ddatblygu’r gwaith cefnogi holl blant y Weinyddiaeth Amddiffyn o fewn yr ysgol.

46

ASTUDIAETH ACHOS 1

Cymuned Ysgol Gynhwysol

Mae’r ysgol yn croesawu ei hunaniaeth aml-ddiwylliannol drwy sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael dysgu oddi wrth eu profiadau a’u rhannu:

  • Yn ogystal â dathlu’r Nadolig, mae Mount Street hefyd yn dathlu’r Flwyddyn Newydd Tseiniaidd a ‘Dashain’ sy’n ddathliad Nepalaidd mawr. Yn yr ysgol, mae’r plant yn cymryd rhan mewn dawnsio, blasu bwyd Nepalaidd a gwneud cardiau ac addurniadau;
  • Creu man arbennig yn yr ysgol ar gyfer ‘Mandir’ (teml/man addoli Handwaidd) lle gall plant Nepalaidd weddïo a gadael cynigion;
  • Mae’r ysgol wedi cynnal Noson i’r Merched ar gyfer holl famau’r ysgol ddod i gael blas ar fwyd Nepalaidd, rhoi cynnig ar wisgo gwisg Nepalaidd traddodiadol a dysgu ymadroddion Nepaleg.

47

ASTUDIAETH ACHOS 2

Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast
Hwlffordd

Maint yr ysgol: 527
Plant milwyr sydd ar y gofrestr:
81
Tua
15% Service Children

Rheoli Symudiadau: Datblygu Prosesau Ymsefydlu ac Ymadael

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast yn ysgol fawr o’i chymharu ag ysgolion eraill yr ardal. Mae ei sefyllfa yn y dref yn unigryw, yn agos at yr ysbyty lleol ac at ystad Cashfield a gafodd ei hadeiladu’n bwrpasol i fod yn gartref i aelodau’r Lluoedd Arfog sy’n gweithio yn Brawdy (Barics Cawdor). O ganlyniad, mae’r ysgol yn cynnwys llawer o deuluoedd y mae eu rhieni wedi eu seilio yn yr ysbyty, yn ogystal â nifer arwyddocaol o deuluoedd y Lluoedd Arfog.

48

ASTUDIAETH ACHOS 2

Penodi Gweithiwr Allweddol:

Penododd Prendergast Weithiwr Allweddol y Weinyddiaeth Amddiffyn i ymuno â’u Tîm Arloesi a Newid, sy’n cael ei alw yn ôl y talfyriad S.T.E.P.S. (Steps Towards Excellence at Prendergast School). Y gweithiwr allweddol yma yw’r pwynt cyswllt cyntaf i blant milwyr a’u teuluoedd. Ochr yn ochr â hyn mae’r ysgol yn cynnig clinig galw heibio i deuluoedd Lluoedd Arfog, grŵp rhieni a phlant bach ac wedi cyflogi cynorthwy-ydd cymorth dysgu o deulu milwrol sy’n gweithio yn lleoliad y feithfinfa. Mae’r ysgol yn hybu ymagwedd drws-agored i annog teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol.

Mae’r Tîm S.T.E.P.S yn cydlynu ac yn goruchwylio grwpiau o ddysgwyr a’u cynnydd yn yr ysgol. Mae pob plentyn yn derbyn asesiadau gwaelodlin i olrhain eu dysgu yn ystod eu bywyd ysgol yn Prendergast. Mae Gweithiwr Allweddol y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gweithio gyda phlant y Lluoedd Arfog i asesu a oes angen unrhyw ymyrraeth neu gefnogaeth bellach ar blentyn newydd, neu i amlygu dysgwr Mwy Abl neu Ddawnus. Un o’r asesiadau gwaelodlin yw’r Arolwg “PASS” (Pupils Attitude to Self and School). Mae hwn yn gadael i’r Gweithiwr Allweddol nodi unrhyw broblemau yn agwedd y plentyn tuag at ei hun, at eraill ac at yr ysgol er mwyn darparu cefnogaeth berthnasol. Gall hyn gynnwys gweithgareddau Magu, Lles neu Alwedigaethol fel Peiriannu, Gwallt a Harddwch, pysgota, crefft yr awyr agored ac ati.

49

ASTUDIAETH ACHOS 2

Proses Ymsefydlu ac Ymadael:

O ganlyniad i’r symud amlach i mewn ac allan o’r ardal gan deuluoedd y Lluoedd Arfog, nododd yr ysgol fod angen iddi gryfhau prosesau ymsefydlu ac ymadael yr ysgol. Ymwelodd staff o Prendergast ag Ysgol Eglwys Lloegr Mary’s yn Credenhill, Swydd Henffordd i weld eu harfer da a defnyddio’r wybodaeth hon i wella eu mecanweithiau cefnogaeth eu hun ymhellach. Gwelant sut roedd data yn cael ei gasglu, ei goladu a’i ddefnyddio i sicrhau nad oedd plant o gefndir y Lluoedd Arfog yn dioddef o ran eu dysgu o’u cymharu â disgyblion eraill. Edrychant hefyd ar sut allai gynnal digwyddiadau i’r ysgol gyfan sicrhau bod gan bob aelod o gymuned yr ysgol ddealltwriaeth well o’r bywydau aml-ffased mae teuluoedd y Lluoedd yn eu harwain.

Mame’r broses yn Prendergast yn dechrau gyda llythyr sy’n croesawu’r plant i’r ysgol. Mae’r plant yn cael pecyn cychwyn i ddod yn gyfarwydd â golwg yr ysgol a rhai o’r meysydd byddant yn gweithio ynddynt. Wrth gyrraedd yr ysgol mae’r plant yn mynd ar daith o’i hamgylch ac mae cyfaill yn cael ei aseinio iddynt i’w cefnogi yn eu dyddiau cyntaf yn eu hysgol newydd.

50

ASTUDIAETH ACHOS 2

Proses Ymsefydlu ac Ymadael:

Yn dilyn y cyfnod setlo cychwynnol hwn, mae’r plant yn cwblhau ‘pasbort.’ Addasiad o ‘The Passport’, a gafodd ei ddatblygu gan Robert Beadel (Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Swydd Buckingham) a Charlotte Bradshaw (Tîm Cefnogi Pontio Swydd Buckingham), yw hwn. Mae Pasbort Prendergast yn cysylltu’r adnodd â set Werthoedd unigryw’r ysgol. Mae pob disgybl sy’n ymuno â’r ysgol yn mynd drwy broses gynefino, gyda chefnogaeth Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu eu dosbarth.

Pan fydd digybl yn ymadael â’r ysgol maent yn cwblhau pecyn ymadael i’w helpu i drosglwyddo gwybodaeth yn llwyddiannus a chefnogi’r pelntyn yn y broses symud, sy’n cynnwys ymweld â’r ysgol newydd lle bo’n bosibl. Mae’r broses hefyd yn cefnogi ffrindiau’r plentyn sy’n cael eu ‘gadael ar ôl’ a fydd efallai’n teimlo’n drist neu’n dioddef ymyrraeth bosibl pan fydd ffrind yn y dosbarth yn symud i ffwrdd.

O ganylniad i lwyddiant y prosesau ymsefydlu ac ymadael gyda phlant y Lluoedd Arfog mae’r ysgol bellach wedi eu hestyn i gynnwys pob plentyn newydd sy’n dod i mewn i’r ysgol.

51

ASTUDIAETH ACHOS 3

Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr, Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Maint yr ysgol: 900
Plant milwyr sydd ar y gofrestr: 82
Canran: 9%

Gweithio mewn Partneriaeth ac Adeiladu Potensial

Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr yw’r brif ysgol uwchradd ar gyfer canolfan filwrol Sain Tathan ym Mro Morgannwg. Oherwydd y cymysgedd o bersonel y Fyddin a’r RAF sydd wedi eu seilio yn Sain Tathan, mae’r ysgol yn gweithio gyda disgyblion sydd wedi bod drwy symudiadau ac adleoliad sylweddol ac wedi gweithio’n llwyddiannus dros sawl blwyddyn i greu amrediad o fecanweithiau cefnogi ar gyfer plant milwyr. Mae ysgol Llanilltud Fawr yn unigrwy am fod ganddi drefniant clwstwr ag ysgolion cynradd lleol, fel bod gwybodaeth a chefnogaeth yn cael eu rhannu ar draws addysg gynradd ac uwchradd.

52

ASTUDIAETH ACHOS 3

Gweithio mewn Partneriaeth

Yn 2012, cydnabu Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr nad oedd ganddi fawr o gyfathrebu â chanolfan Sain Tathan, er bod yn agos iawn ati, ac nad oedd yn ymwybodol o ba blant a oedd yn mynychu’r ysgol oedd yn dod o gefndir y Lluoedd Arfog. Ynghyd â rhai o’r ysgolion cynradd porthi yn y clwstwr sydd hefyd yn agos iawn at y ganolfan, penododd gydlynydd partneriaeth sy’n gweithio ar draws yr ysgolion cyfun a’r ysgolion cynradd porthi partner i reoli darpariaeth cymorth i blant y Lluoedd Arfog. Mae rôl y Cydlynydd Partneriaeth yn cynnwys:

  • Sefydlu, rheoli a choladu’r data am niferoedd disgyblion Lluoedd Arfog sydd yn yr ysgol;
  • Rheoli trosglwyddiad gwybodaeth i blant y Lluoedd Arfog i mewn ac allan o’r ysgol a monitro cynnydd plant y Lluoedd Arfog;

Cynnal Grŵp Rhieni Lluoedd Arfog rheolaidd i rieni gael dod a thrafod unrhyw broblemau, ymgysylltu â’r ysgol ac aelodau timau lles y Fyddin, a gwella darpariaeth;

  • Darparu pwynt cyswllt rhwng holl ysgolion y clwstwr a staff lles Sain Tathan i rannu gwybodaeth a gwella cyfathrebu.

53

ASTUDIAETH ACHOS 3

Adeiladu Potensial:

Hyder a Sgiliau

Mae Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr wedi bod yn gweithio gyda’r MPCT (Coleg Paratoi Milwrol) yng Nghaerdydd i ddarparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion drwy ddarparu mentora a datblygu sgiliau arweinyddiaeth, adeiladu tîm, meddwl, a chyfathrebu. Mae’r rhaglen yn cynnwys plant o gefndiroedd y Lluoedd Arfog a sifiliaid, ond mae’n canolbwyntio ar y rhai mwyaf abl a dawnus, y sawl sy’n tangyflawni, a’r sawl y mae arnyn nhw angen gymorth ychwanegol o ran eu hymddygiad neu fagu hyder o bosib. Hefyd mae rhaglen ôl-ysgol benodol ar gyfer plant y Lluoedd Arfog sy’n cael ei chynnal gan MPCT.

Clybiau Gwaith Cartref a Chymorth Dal i Fyny

Ar ddiwedd pob hanner tymor, bydd y cydlynydd prosiect yn dadansoddi data perfformiad disgyblion y Lluoedd Arfog. Pan na fydd disgyblion yn cyrraedd eu lefelau targed ym mhob pwnc, mae amrywiaeth o gefnogaeth yn cael ei chynnig drwy gyfrwng clybiau gwaith cartref, cymorth dal i fyny, a mentora.

54

ASTUDIAETH ACHOS 3

Cyfathrebu

Mae’r ysgol yn gweithredu system gyfeillio ar gyfer plant milwyr newydd yn yr ysgol ac yn annog cymryd rhan mewn gweithgareddau amser cinio ac ar ôl ysgol. Hefyd mae’r ysgol wedi cychwyn hysbysfwrdd Lluoedd Arfog er mwyn i ddisgyblion fod yn ymwybodol o unrhyw weithgareddau neu newyddion perthnasol a lle gallant arddangos eitemau ar gyfer plant eraill Lluoedd Arfog. Mae’r swyddog partneriaeth yn gweithredu’n bwynt cyswllt dibynadwy ar gyfer plant milwyr yn yr ysgol hefyd pe bai ganddyn nhw unrhyw broblmau maen nhw eisiau eu trafod.

55

Cymorth a Chyngor

Plant a Phobl Ifanc

MEIC Cymru
Angen gwybodaeth? Eisiau cyngor? Gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth am ddim i Gymru yw MEIC Cymru. Mae MEIC yn gallu rhoi cyngor beth bynnag y sefyllfa:

Military Kids Connect
Fforwm ar-lein ar gyfer plant Lluoedd Arfog o bob rhan o’r byd, gyda gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor, gemau a mwy:

Comisiynydd Plant Cymru
Cymorth a chyngor am hawliau dynol i blant a phobl ifanc:

56

Cymorth a Chyngor

Addysg

Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS)
Gwybodaeth a chymorth i deuluoedd milwyr a sifiliaid cymwys y Weinyddiaeth Amddiffyn ar bob agwedd ar addysg eu plant yn y DU a thramor:

ELSA Support
Gwefan cymorth llythrennedd emosiynol gydag adnoddau ar-lein ar gyfer athrawon a staff cynorthwyol:

Esytn
Arolygwyr ysgolion Cymru:

Royal Caledonian Educational Trust
Gweithio i hybu ymwybyddiaeth o anghenion plant milwyr yn yr Alban:

57

Cymorth a Chyngor

Addysg

Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion y Wladwriaeth
Rhwydwaith o ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr sy’n darparu cymorth a chyngor am Blant Milwyr ac a gynhyrchodd lawlyfr i ysgolion:

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Addysg

Cod Derbyniadau Ysgolion Cymru 2013

58

Cymorth a Chyngor

Addysg

Cod Ymarfer AAA i Gymru

Am fwy o wybodaeth am addysg a dysgu gydol oes yng Nghymru, ewch i wefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: http://www.wlga.gov.uk/lifelong-learning-culture-information

HMS Heroes

Menter mentora gan gymheiriaid ar gyfer plant milwyr sydd wedi eu lleoli yn Plymouth:

59

Cymorth a Chyngor

HIVES

Canolfannau gwybodaeth yw HIVES sydd ar gael i bob aelod cymuned y Lluoedd Arfog. Maent ar gael i bersonél priod a sengl fel ei gilydd, ynghyd â’u teuluoedd, dibynyddion a sifiliaid sy’n cael eu cyflogi gan y Lluoedd:

HIVE RAF VALLEY

HIVE CASGWENT AC INNSWORTH

HIVE SAIN TATHAN

Y Weinyddiaeth Amddiffyn – Gwasanaethau Cymorth

Rhestr o wasanaethau cymorth a chyngor o bersonél y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig:

60

Cymorth a Chyngor

Y Weinyddiaeth Amddiffyn – Gwasanaethau Cymorth

Soldiers, Sailors and Airmen Families Association (SSAFA)

Yn cynnig cymorth a chyngor i bersonél presennol a blaenorol y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd:

Army Families Federation (AFF)

Cefnogi teuluoedd y fyddin:

Royal Air Force Families Federation (RAFFF)

Cefnogi teuluoedd RAF:

Naval Teuluoedd Federation (NFF)

Cefnogi teuluoedd y Llynges Frenhinol a Môr-filwyr Brenhinol:

61

Cymorth a Chyngor

Y Weinyddiaeth Amddiffyn – Gwasanaethau Cymorth

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn helpu holl gymuned y Lluoedd Arfog drwy nawdd, brawdoliaeth a chynrychiolaeth yn ogystal â gwarchod Coffa dros y genedl:

Veterans UK

Yn darparu cymorth a chyngor i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd:

Samariaid

Llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw un sydd angen rhywun i siarad â nhw neu gymorth a chyngor:

62

Cymorth a Chyngor

Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog

Nod y Cyfamod Cymunedol yw annod cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

Cyfamodau Cymunedol Lluoedd Arfog yng Nghymru

Pecyn Cymorth Lluoedd Arfog Cymru

63

Atodiad A: Proffil Gwybodaeth Disgybl

64

Atodiad A: Proffil Gwybodaeth Disgybl