Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru:

Canllaw Rhieni i

Ysgolion ac Addysg yng Nghymru

2015

2

Croeso i Ganllaw Rhieni SSCECymru i Ysgolion ac Addysg Cymru 2015

Nod y canllaw hwn yw rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol i deuluoedd y Lluoedd Arfog sy’n byw yng Nghymru neu sy’n symud i Gymru am y system addysg yng Nghymru.

I Bwy mae’r Canllaw Hwn?

Mae’r canllaw hwn ar gyfer teuluoedd y Lluoedd Arfog lle bo un rhiant neu’r ddau ohonynt yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd ac mae eu plant yn mynd / byddant yn mynd i’r ysgol yng Nghymru. Mae’r canllaw yn canolbwyntio ar addysg gynradd ac uwchradd orfodol i blant mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru (5-16 mlwydd oed).

Os oes gennych chi blant oedran cyn-ysgol neu sydd dros 16 oed, rydym wedi rhoi ychydig o wybodaeth sylfaenol am y trefniadau yng Nghymru, ond nid dyna ffocws y canllaw. Mae cysylltiadau â gwybodaeth bellach a fydd efallai o gymorth.

Cyn-filwyr a Milwyr Wrth Gefn

Os ydych chi wedi gadael y Lluoedd Arfog yn ddiweddar neu’n filwr wrth gefn, mae’n bosib bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd yn y canllaw hwn yn berthnasol i chi o hyd. Ble rydym wedi ychwanegu gwybodaeth benodol ar eich cyfer chi, caiff hynny ei nodi o dan bennawd ar wahân.

(Mae’r holl wybodaeth yn gywir ym Mai 2015. Caiff unrhyw newidiadau i bolisi a deddfwriaeth addysg neu amddiffyn perthnasol a fydd yn effeithio ar hyn eu diweddaru ar-lein drwy ychwanegiadau dilynol.)

3

Ynghylch Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCECymru)

Prosiect gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yw SSCECymru, a gafodd ei sefydlu yng Ngorffennaf 2014 i godi ymwybyddiaeth o’r heriau posibl mae plant milwyr sydd yn yr ysgol yng Nghymru yn gallu eu hwynebu o ganlyniad i adleoliad a/neu symud (symud cartref/ysgol). Nod y prosiect yw rhoi gwell dealltwriaeth i ysgolion ac awdurdodau lleol o anghenion posibl plant milwyr a chryfhau cysylltiadau ledled Cymru er mwyn helpu i feithrin a rhannu arfer da.

Hoffai SSCECymru ddiolch i'r llawer o rieni rydym ni wedi siarad â nhw wrth lunio'r canllaw hwn. Hefyd hoffem ni ddiolch i gydweithwyr ledled Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS), Cyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc y Weinyddiaeth Amddiffyn, y Lluoedd Arfog yng Nghymru, ysgolion, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a’r Army Families Federation (AFF) am eu cyfraniad at y canllaw.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect neu os hoffech chi roi adborth am y pecyn cymorth, cysylltwch â: Millie Taylor neu ewch i www.sscecymru.co.uk am ragor o wybodaeth.

4

Pwyllgor Sefydlog Cymru Gyfan ar Blant Milwyr mewn Addysg

Mae Pwyllgor Sefydlog Cymru Gyfan ar Blant Milwyr mewn Addysg yn grŵp o benaethiaid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, aelodau'r Lluoedd Arfog, swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn, a chyrff trydydd sector eraill sy'n gweithio gyda'i gilydd i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant milwyr mewn addysg, ac i ddatblygu a rhannu arfer da er mwyn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i fodloni anghenion plant milwyr mewn addysg ledled Cymru.

Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS)

Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i deuluoedd y Lluoedd Arfog y mae ganddynt blant mewn addysg ledled y DU a thramor.

Os oes gennych chi gwestiwn ynglŷn ag addysg Plant Milwyr, gallwch gysylltu gyda CEAS ar: DCYP-CEAS-Enquiries@mod.uk

Fel arall, gallwch alw CEAS ar 01980 618 244 (byddin: 94 344 8244) - os nad oes rhywun ar gael i gymryd eich galwad, mae yna gyfleuster i adael neges.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan: gwefan

5

Lluoedd Arfog yng Nghymru

6

Lluoedd Arfog yng Nghymru

Er nad yw amddiffyn wedi ei ddatganoli i Gymru a chan hynny’n rhan o bolisi llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd, mae trefniadau ar waith i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol weithio gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac aelodau’r Lluoedd Arfog ar bob lefel yng Nghymru.

Pecyn Cymorth y Lluoedd Arfog

Yn 2011, sefydlwyd Pecyn Cymorth Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru i sicrhau nad yw aelodau cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais wrth gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i’w gwasanaeth. Cafodd y pecyn cymorth ei ddiweddaru yn 2013 i gynnwys cyfeiriadau pellach ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog at amrediad o wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys addysg, tai, iechyd, gofal plant, cyflogaeth a mwy.

7

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Cafodd Cyfamodau Cymunedol y Lluoedd Arfog eu creu fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, ar ôl i’w hegwyddorion allweddol gael eu deddfu yn Neddf y Lluoedd Arfog 2011. Mae pob un o 22 awdurdod lleol Cymru wedi ymrwymo i Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog. Nod pob Cyfamod Cymunedol yw bodloni anghenion cymuned y Lluoedd Arfog o fewn yr awdurdod lleol penodol hwnnw. Bydd cyflawni ymrwymiadau’r Cyfamodau yn golygu gweithio ar y cyd ag amrywiaeth o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, cymdeithasau tai a sefydliadau addysg bellach ac uwch.


Yn ogystal â rhoi’r cyfle i anrhydeddu Lluoedd Arfog y DU, nod Cyfamod Cymunedol yw:

  • Annog cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog
  • Cydnabod a chofio’r aberthau mae cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu;
  • Annog gweithgareddau sy’n helpu i integreiddio cymuned y Lluoedd Arfog â bywyd lleol;
  • Annog cymuned y Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi’r gymuned ehangach, boed drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu fathau eraill o ymgysylltu.

8

Pam nad Oes Unrhyw Bremiwm Disgyblion sy’n Blant Milwyr?

Gan fod addysg wedi’i datganoli i Gymru, mae ffordd wahanol o’i hariannu. Hanfod y ffordd honno yw osgoi ariannu carfanau penodol a cheisio gofalu bod pob grant yn cynnwys y disgyblion i gyd gan gynnwys plant milwyr. Felly, does dim ffrwd ariannu ar wahân i blant milwyr trwy gyfrwng premiwm arbennig. Diben yr ariannu yw rhoi addysg i bob disgybl a gofalu na fydd neb ar ei golled.

Hefyd mae gan ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru y cyfle i wneud cais am arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy Gronfa Cymorth Addysg y Weinyddiaeth i Ysgolion â Plant Milwyr ar gyfer prosiectau penodol a fydd o fudd i blant milwyr o fewn cymuned yr ysgol. Mae SSCECymru yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i annog mwy o ysgolion i wneud cais am yr arian hwn lle bo angen. Mae bwriad i ddod â’r Gronfa Cymorth Addysg i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2017-18.

9

Addysg yng Nghymru

10

Addysg yng Nghymru

Mae addysg yng Nghymru wedi ei datganoli. Mae hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru y gallu i wneud deddfau a phenderfyniadau mewn perthynas ag addysg yng Nghymru sydd ar wahân i rai Llywodraeth y DU. Os ydych chi’n symud i Gymru, bydd rhai gwahaniaethau yn y ffordd mae’ch plentyn yn cael ei addysgu a’r asesiadau mae’n eu cymryd yn yr ysgol, ond hefyd mae llawer sy’n debyg rhwng system addysg Cymru a’r systemau sydd ar waith yng ngweddill y DU.

Mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu rhannu’n ysgolion gwirfoddol, rhai a gynhelir gan awdurdod lleol, ac ysgolion sefydledig. Mae yna ysgolion annibynnol hefyd. Mae addysg yn orfodol yng Nghymru rhwng 5 ac 16 mlwydd oed.

11

Addysg yng Nghymru

Blynyddoedd Cynnar

Mae’r blynyddoedd cynnar yn cael eu diffinio yng Nghymru fel cyfnod bywyd rhwng cyn geni i ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, neu 0 i 7 mlwydd oed.

Mae Cyfnod y Sylfaen yn gwrícwlwm cyfannol i blant rhwng tair a saith mlwydd oed. Mae wedi’i lunio i ddiwallu anghenion pob plentyn yn ôl hynt ei ddatblygiad unigol.

Cyn Ysgol

Hyd at fis Medi cyn pen-blwydd plentyn yn bump oed, mae’r rhai tair a phedair oed yn cael mynychu canolfan addysg y blynyddoedd cynnar (megis meithrinfa) ar gyfer Cyfnod y Sylfaen am o leiaf 10 awr yr wythnos yn ystod pob tymor (tua 38 o wythnosau’r flwyddyn) os yw’r rhieni’n dymuno hynny. Fe allai’r plentyn fynd naill ai i ysgol wladol neu ganolfan breifat ac arni sêl bendith yr awdurdod lleol yn un sy’n cynnig addysg y blynyddoedd cynnar trwy Gyfnod y Sylfaen. Bydd y gwasanaeth gwybodaeth lleol i deuluoedd yn gallu rhoi rhagor o fanylion ichi neu nodi ffynonellau perthnasol eraill: http://www.childreninwales.org.uk/in-your-area/family-information-services/

12

Addysg yng Nghymru

Gofal plant

Os ydych chi’n byw mewn bro sy’n ymwneud â Chynllun ‘Dechrau’n Deg’, byddwch chi’n cael hawlio hyn a hyn o oriau o ofal yn rhad ac am ddim i blant rhwng dwy a thair blwydd oed. Mae’r cynllun yn gweithredu o dan nawdd Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i deuluoedd a chanddynt blant bach yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dwy daflen – ‘Dewis Gofal Plant’ a ‘Cymorth i rieni a help ynglŷn â chostau gofal plant’ – i gynnig gwybodaeth am hyn. Dyma linc â’r ddwy ddogfen: http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/children-and-young-people/parenting-support-guidance/childcare/choosingchildcare/?lang=en

Pryd mae Plant yn Dechrau’r Ysgol yng Nghymru?

12

Pryd mae Plant yn Dechrau’r Ysgol yng Nghymru?

Yn Lloegr mae’r mwyafrif o blant yn dechrau’r ysgol gynradd yn y Medi cyn iddynt droi’n bump ond maent yn cael dechrau’r ysgol ym mhob un o dymhorau’r flwyddyn ysgol yn y flwyddyn maent yn troi’n bump;

Yng Nghymru mae plant yn dechrau’r ysgol gynradd yn y Medi cyn iddynt droi’n bump ond maent yn cael dechrau’r ysgol ym mhob un o dymhorau’r flwyddyn ysgol yn y flwyddyn maent yn troi’n bump;

Yn yr Alban mae plant â phen-blwydd rhwng Mawrth ac Awst yn dechrau’r ysgol yn yr Awst yn dilyn eu pumed pen-blwydd. Mae plant â phen-blwydd rhwng Medi a Chwefror yn dechrau’r ysgol yn yr Awst cyn eu pumed pen-blwydd (ond gall hyn gael ei ohirio tan y Medi canlynol);

Yng Ngogledd Iwerddon mae’r oedran dechrau ysgol orfodol isaf yn Ewrop: mae plant sydd wedi cyrraedd pedair oed ar 1af Gorffennaf yn dechrau’r ysgol yn y Medi canlynol.

13

Grwpiau Blwyddyn ac Adegau Tymhorau

Tabl Cymharu Grwpiau Blwyddyn Ysgol ledled y DU

Oed yn y flwyddyn ysgolCymruLloegrGogledd IwerddonYr Alban
Cwricwlwm Cenedlaethol CymruCwricwlwm CenedlaetholCwricwlwm Gogledd IwerddonCwricwlwm dros Ragoriaeth
4-5Cyfnod SylfaenDerbynDerbynP1Meithrin / Lefel gynnar
5-6Blwyddyn 1Blwyddyn 1P2P1 (Lefel gynnar)
6-7Blwyddyn 2Blwyddyn 2P3P2 (Lefel gyntaf)
7-8Cyfnod Allweddol 2Blwyddyn 3Blwyddyn 3P4P3 (Lefel gyntaf)
8-9Blwyddyn 4Blwyddyn 4P5P4 (Lefel gyntaf)
9-10Blwyddyn 5Blwyddyn 5P6P5 (Ail lefel)
10-11Year 6Year 6P7P6 (Ail lefel)
11-12Cyfnod Allweddol 3Blwyddyn 7Blwyddyn 7P8P7 (Ail lefel)
12-13Blwyddyn 8Blwyddyn 8P9S1 (Trydedd /Pedwaredd lefel)
13-14Blwyddyn 9Blwyddyn 9P10S2 (Trydedd /Pedwaredd lefel)
14-15Cyfnod AllweddolBlwyddyn 10Blwyddyn 10P11S3 (Trydedd /Pedwaredd lefel)
15-16Blwyddyn 11Blwyddyn 11P12S4 (Cyfnod hŷn)
Lefelau Uwch ac SCE Highers – ddim yn orfodol
16-17Post 16Blwyddyn 12Blwyddyn 12P13S5 (Cyfnod hŷn)
17-18Blwyddyn 13Blwyddyn 13P14S6 (Cyfnod hŷn)

14

Grwpiau Blwyddyn ac Adegau Tymhorau

Dyddiadau Tymhorau Cymru: 2015/16

Dyddiadau Tymhorau a GwyliauDyddiadau
Dechrau’r flwyddyn ysgol (Tymor yr Hydref)1 Medi
Hanner tymor26-30 Hydref
Diwedd Tymor yr Hydref18 Rhagfyr
Gwyliau’r Nadolig21 Rhagfyr-2 Ionawr
Dechrau Tymor y Gwanwyn4 Ionawr
Hanner tymor y Gwanwyn15-19 Chwefror
Diwedd Tymor y Gwanwyn24 Mawrth
Gwyliau’r Pasg25 Mawrth-8 Ebrill
Dechrau Tymor yr Haf11 Ebrill
30th May-3 June30 Mai-3 Mehefin
Diwedd Tymor yr Haf20 Gorffennaf

DS: Er y bydd dyddiadau ac amseroedd tymhorau yn debyg i’r tabl uchod mewn blynyddoedd dilynol, maent heb eu cadarnhau eto. Bydd angen gwirio gyda’ch ysgol/awdurdod lleol i gadarnhau’r dyddiadau ac unrhyw ddyddiau hyfforddiant mewn swydd yn y dyfodol. Bydd dyddiadau tymhorau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn sylweddol wahanol i’r dyddiadau a roddir uchod.

15

Addysg Gynradd

Mae addysg gynradd yng Nghymru o 5-11 blwydd oed. Mae’n cwmpasu’r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.

Cyfnod Sylfaen

Yng Nghymru, mae’r Cyfnod Sylfaen yn cwmpasu canlyniadau dysgu i blant rhwng 3 a 7 oed. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau meithrin a derbyn, yn ogystal â Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn ysgol gynradd. Y Cyfnod Sylfaen yw’r cwricwlwm statudol ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion eraill yng Nghymru ac mae’n annog plant i fod yn greadigol ac yn weithgar wrth ddysgu. Mae gan y Cyfnod Sylfaen 7 maes dysgu sy’n cael eu cyflwyno drwy weithgareddau a phrofiadau dysgu ymarferol, a hynny dan do ac yn yr awyr agored. Y meysydd dysgu yw:

  • Datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol
  • Iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu
  • Datblygiad mathemategol
  • Datblygiad yr iaith Gymraeg
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd
  • Datblygiad corfforol
  • Datblygiad creadigol

16

Addysg Gynradd

Cyfnod Allweddol 2

Mae Cyfnod Allweddol 2 yn ymdrin â’r Cwricwlwm Cenedlaethol i blant 7-11-blwydd oed. Mae plant yn cael eu haddysgu pynciau craidd mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth a phynciau di-graidd dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, addysg gorfforol, ac addysg grefyddol.
Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae plant yn dechrau cael eu hasesu am lythrennedd a rhifedd yn ogystal ag asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol.

17

Addysg uwchradd

Ar gyfer plant 11-16 blwydd oed y mae addysg uwchradd yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm yn ymrannu’n Gyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4. Yng Nghyfnod Allweddol 3, mae plant yn cael eu haddysgu pynciau craidd mathemateg, Saesneg, Cymraeg a gwyddoniaeth a phynciau di-graidd dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, addysg gorfforol, ac addysg grefyddol. Tua diwedd Cyfnod Allweddol 3, gofynnir i ddisgyblion ddewis y pynciau maent yn dymuno eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 4 ochr yn ochr â’r pynciau craidd (gorfodol).

Cyfnod Allweddol 3Cyfnod Allweddol 4
SaesnegSaesneg
Cymraeg iaith gyntaf neu Gymraeg ail iaithCymraeg iaith gyntaf neu Gymraeg ail iaith
MathemategMathemateg
GwyddoniaethGwyddoniaeth
Ieithoedd tramor modern (bydd hyn yn amrywio rhwng ysgolion)Addysg grefyddol
Dylunio a thechnolegAddysg gorfforol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) (Gwersi nid asesiadau)
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebuCynigir opsiynau ychwanegol gan ysgolion ar sail unigol
Hanes
Daearyddiaeth
Celf a dylunio
Addysg grefyddol
Cerddoriaeth
Addysg gorfforol

18

Addysg uwchradd

Addysg Bellach

Mae llawer o ddewisiadau ôl-16 i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Os hoffech chi gael cyngor pellach am raglenni astudio sydd ar gael, dylech chi gysylltu â’ch coleg 6ed dosbarth lleol.
Dyma rai gwefannau a allai fod o gymorth:
www.careerswales.com | www.collegeswales.ac.uk

19

Arholiadau ac Asesiadau yng Nghymru

20

Arholiadau ac Asesiadau yng Nghymru

Tabl Sy’n Dangos Arholiadau ac Asesiadau yng Nghymru

Oedran yn y Flwyddyn YsgolCymruArholiadau ac Asesiadau
Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru
4-5Cyfnod SylfaenDerbynDim asesiadau gorfodol. Mae’n ofynnol i athrawon wneud nodiadau am gyrhaeddiad a datblygiad i helpu gyda’r pontio i Gyfnod Allweddol 2
5-6Blwyddyn 1
6-7Blwyddyn 2
7-8Cyfnod Allweddol 2Blwyddyn 3Profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol blynyddol (Mai)
8-9Blwyddyn 4
9-10Blwyddyn 5
10-11Blwyddyn 6Asesiad diwedd Cyfnod Allweddol 2 (Tymor yr Haf) + phrofion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol blynyddol (Mai)
11-12Cyfnod Allweddol 3Blwyddyn 7Profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol blynyddol (Mai)
12-13Blwyddyn 8
13-14Blwyddyn 9Asesiad diwedd Cyfnod Allweddol 3 (Tymor yr Haf) + phrofion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol blynyddol (Mai)
14-15Cyfnod Allweddol 4Blwyddyn 10TGAU (lefel 1/2) | Bagloriaeth Cymru | Cymwysterau galwedigaethol
15-16Blwyddyn 11

21

Arholiadau ac Asesiadau yng Nghymru

Profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Ers Mai 2013 mae’n rhaid i bob plentyn Blwyddyn 2-Flwyddyn 9 sefyll y profion hyn mewn ysgolion yng Nghymru. Mae’r profion yn rhan o Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol newydd.


Prif nodau’r profion rhifedd a llythrennedd cenedlaethol yw:

  • Rhoi mesur cywir i ysgolion o sgiliau a galluoedd plant unigol;
  • Helpu i wella safonau llythrennedd a rhifedd ymhlith plant ledled Cymru;
  • Rhoi darlun cliriach o sut mae plant yn perfformio’n genedlaethol (tan hyn, mae ysgolion unigol wedi cynnal eu profion eu hunain mewn llythrennedd a rhifedd);
  • Y rhain fydd yr unig brofion darllen a rhifedd diwedd-blwyddyn y bydd ysgolion yng Nghymru yn eu cynnal rhwng Blwyddyn 2 a Blwyddyn 9.

22

Asesiadau Cyfnodau Allweddol 2 a 3

Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (Blwyddyn 6) a Chyfnod Allweddol 3 (Blwyddyn 9), mae’n ofynnol i athrawon wneud asesiadau statudol am bob plentyn. Bydd y mwyafrif o ddysgwyr yn 11 neu’n 14 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a 3 yn y drefn honno. Mae’n bosib y bydd rhai yn hŷn ac efallai bod rhai’n cael eu haddysgu mewn dosbarth lle mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr yn oedran gwahanol. Am bob cyfnod allweddol, mae’n rhaid i ddysgwyr gael eu hasesu’n statudol (h.y. rhaid iddynt dderbyn asesiad diwedd cyfnod allweddol gan athro) unwaith yn unig.

Pedair cydran sydd i’r asesiadau hyn, sef:

  • Gwaith ymarferol a llafar
  • Gwaith ysgrifenedig sy’n cael ei gwblhau yn y dosbarth
  • Gwaith cartref
  • Asesiadau yn yr ysgol


23

Asesiadau Cyfnod Allweddol 4

TGAU

TGAU yw’r prif gymhwyster addysgol cyffredinol yng Nghymru o hyd. Mae dwy lefel iddynt sef lefel 2 (graddau A*-C) a lefel 1 (graddau D-G). Bydd mynediad i naill ai lefel 1 neu lefel 2 yn pennu pa amrediad o raddau gall disgybl eu hennill. Mae’n ofynnol i ddisgyblion yng Nghymru sefyll TGAU mewn rhai pynciau craidd (Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth) a chyrsiau byr mewn Cymraeg ac addysg grefyddol. Yna gall disgyblion ddewis pynciau ychwanegol i’w hastudio i gwblhau eu hopsiynau TGAU.

Mae cwrs byr yn gyfartal â hanner TGAU a all gael ei gymryd mewn tua hanner yr amser (3 thymor yn fras).

Bydd y pynciau ychwanegol a’r cymwysterau sy’n cael eu cynnig yn amrywio rhwng ysgolion, felly mae’n bwysig siarad â’r ysgolion am eu meysydd llafur, er mwyn i chi a’ch plant allu gwneud y penderfyniadau mwyaf gwybodus.

O Fedi 2015 ymlaen, bydd newidiadau i gymwysterau TGAU mathemateg a Saesneg yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i blant sefyll dwy TGAU mewn mathemateg (mathemateg a rhifedd) a dwy TGAU mewn Saesneg (iaith a llên). I blant Cymraeg iaith gyntaf yng Nghymru, mae’r un peth yn wir am iaith a llên Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth ewch i:

24

Asesiadau Cyfnod Allweddol 4

Bagloriaeth Cymru

Mae llawer o ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ar hyn o bryd. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster sefydledig, wedi ei achredu’n swyddogol, sy’n cael ei ddarparu gan ysgolion, colegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Mae’n cyfuno sgiliau datblygiad personol â chymwysterau cyfredol, fel lefelau A,TGAU ac NVQs, i wneud un dyfarniad ehangach mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth arno. Mae myfyrwyr yn cael profiad o’r byd drwy amrywiaeth o brofiadau cysylltiedig â gwaith ac yn dysgu sut i gymhwyso sgiliau mewn sefyllfaoedd ymarferol.

Ar hyn o bryd mae Bagloriaeth Cymru ar gael ar lefel sylfaen, canolradd ac uwch. Yng Nghyfnod Allweddol 4, byddai disgyblion yn ymgymryd â’r Diploma Sylfaen. O Fedi 2015 ymlaen, caiff y cymhwyster ei newid i gynnwys cymwysterau Cyfnod Allweddol 4 cenedlaethol (lefel uwch) a sylfaen (lefel is) a chymhwyster ôl-16 cenedlaethol/sylfaen a chymhwyster uwch.

Am fwy o wybodaeth am Fagloriaeth Cymru ewch i:

25

Symud Ysgolion

26

Symud Ysgolion

Dod o Hyd i Ysgol/Derbyniadau

Mae’n bwysig dechrau gwneud trefniadau i’ch plentyn symud ysgol cyn gynted ag y gallwch chi. Mae sawl ffordd wahanol o ddysgu am ysgolion yn lleol:

  • Fy Ysgol Leol: : gwefan gan Lywodraeth Cymru yw hon sy’n cynnig gwybodaeth bwysig am ysgolion lleol gan gynnwys niferoedd disgyblion, cyflawniad, cyrsiau sy’n cael eu hastudio, cyllideb yr ysgol am bob disgybl a meincnodi (o’u cymharu ag ysgolion tebyg ledled Cymru). Gallwch chi chwilio yn ôl ysgol neu god post neu ardal awdurdod lleol;
  • Drwy swyddogion HIVE/lles/cymunedol y Lluoedd Arfog (mae rhestr ar ddiwedd y canllaw);
  • Drwy aelodau’ch cymuned Lluoedd Arfog: bydd llawer o rieni mewn cysylltiad â theuluoedd eraill sydd eisoes wedi symud i’r ardal/wedi byw yn yr ardal o’r blaen.

27

Symud Ysgolion

Dod o Hyd i Ysgol/Derbyniadau

Os oes modd, siaradwch /ymwelwch â’r ysgol(ion) hoffech chi i’ch plentyn eu mynychu. Gadewch iddynt wybod mai teulu’r Lluoedd Arfog ydych chi a rhowch gymaint o gefndir iddynt ag y gallwch am addysg eich plentyn hyd yma ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddo/ganddi.

Ar ôl i chi benderfynu ar ysgol(ion), bydd angen gwneud cais am le drwy’r awdurdod lleol. Mae’n bosib y bydd rhai ysgolion yn gallu gwneud cais ar eich rhan pan fyddwch yn siarad â hwy am le yn yr ysgol i’ch plentyn chi.

DS: mae Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dweud y gallwch chi wneud cais am le mewn ysgol i’ch plentyn chi cyn symud i’r ardal ar yr amod bod gennych god post (sy’n gallu bod yn god post y ganolfan) a phrawf o gael eich lleoli yno.

“Yng Nghymru mae’n rhaid i awdurdodau derbyn drin teulu’r Lluoedd Arfog fel bodloni’r meini prawf preswylio am ddalgylch ysgol, ar yr amod y gallant roi tystiolaeth y cânt eu lleoli yno cyn bo hir. Dylech sicrhau eich bod yn nodi’ch plentyn fel dod o deulu’r Lluoedd wrth i chi gwblhau’r ffurflenni cais perthnasol. Mae gan bob awdurdod lleol ei wybodaeth ei hun am dderbyniadau ysgol”

28

Symud Ysgolion

Cyn-filwyr

Os ydych chi’n ymadael â’r Lluoedd Arfog i gyfanheddu yng Nghymru neu os ydych wedi ymadael â’r Lluoedd Arfog yn ddiweddar, nid yw’r maen prawf uchod yn gymwys ar hyn o bryd.

Mae’r cod derbyniadau presennol llawn i Gymru ar gael i’w weld yma:

Apelio yn Erbyn Penderfyniad Derbyn

Os nad ydych wedi llwyddo i gael y lle(oedd) ysgol roeddech chi’n eu dymuno ar gyfer eich plant, gallwch chi apelio drwy broses apelio’r awdurdod lleol. Bydd y broses apelio yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, a bydd gwybodaeth ar gael ar eu gwefannau.

Os oes angen cyngor pellach arnoch chi am apeliadau ysgol, gan linell gymorth gan CEAS sydd ar agor rhwng 9.30am a 3.30pm, ddydd Llun i ddydd Gwener:

Ffôn: 01980 618 244 (milwrol: 94 344 8244)
E-bost: enquiries@ceas.uk.com | Ffacs: 01980 618245 (milwrol: 94 344 8245)

29

Symud Ysgolion

Trosglwyddo Gwybodaeth Eich Plentyn

Po fwyaf o wybodaeth sydd gan ysgol am addysg a chefndir eich plentyn, mwyaf y bydd yn eu helpu wrth sicrhau bod eich plentyn yn setlo i mewn i’r ysgol.

Dylai ysgol bresennol eich plentyn a’r ysgol newydd rydych wedi ei dewis gysylltu â’i gilydd i drosglwyddo gwybodaeth.

Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant wedi datblygu ffurflen PIP (Pupil Information Profile) y gall ysgolion ei defnyddio i drosglwyddo gwybodaeth am blant milwyr ar draws systemau addysgol. Ni fydd pob ysgol yn defnyddio hon, ond mae SSCECymru yn hyrwyddo defnydd y templed i ysgolion fel enghraifft o arfer da.

Ochr yn ochr â’r wybodaeth y bydd ysgol flaenorol eich plentyn yn ei throsglwyddo i’r ysgol newydd, efallai y dymunwch ddefnyddio ‘Pecyn Symud Ysgol’ y Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant sydd ar gael ar-lein i rieni (mae’n bosib y bydd copïau caled gan eich swyddog lles/HIVE lleol) gan ddarparu arweiniad defnyddiol am beth i’w drosglwyddo i ysgol newydd eich plentyn.

Mae yna becyn i blant hefyd sy’n gallu helpu i’w paratoi am symud newydd:

30

Symud Ysgolion

Bylchau Dysgu

Her gyffredin i blant wrth symud rhwng ysgolion (yn arbennig rhwng gwledydd gwahanol lle bydd y cwricwlymau’n wahanol o bosib) yw y gall bylchau mewn dysgu ddigwydd; pan fyddant wedi colli rhan o’r cwricwlwm am fod yr ysgol newydd wedi delio â hi’n barod, neu am eu bod yn cychwyn pwnc newydd yn hwyrach na disgyblion eraill am y tro cyntaf.

Yn aml bydd yr ysgol yn sylwi ar y bylchau hyn mewn dysgu wrth i wybodaeth eich plentyn gael ei throsglwyddo, neu byddwch chithau’n ymwybodol ohonynt yn barod ac wedi siarad â’r ysgol am hyn. Os dewch chi’n ymwybodol o unrhyw fylchau neu os ydych yn poeni am gynnydd eich plentyn, dylech chi gysylltu â’r ysgol i weld beth all gael ei wneud i helpu’ch plentyn adennill y tir hwn. Mae gan lawer o ysgolion amrediad o adnoddau fel clybiau gwaith cartref i gefnogi plant pan fyddant wedi syrthio ar ei hôl efallai neu pan fydd angen tipyn o gymorth ychwanegol arnynt.

Arolygiaeth Addysg: Estyn nid Ofsted

Yng Nghymru, corff annibynnol o’r enw Estyn sy’n arolygu ansawdd a safonau darparwyr addysg a hyfforddiant. Yn yr un modd ag Ofsted yn Lloegr, corff y Goron ydyw a gafodd ei sefydlu ym 1992 o dan Ddeddf Addysg.

Gallwch weld adroddiadau ysgol Estyn, gwybodaeth arolygon, ac enghreifftiau o arfer da o’u gwefan:

31

Absenoldeb yn Ystod y Tymor

Mae’r polisi yng Nghymru a Lloegr yn annog rhieni’n gryf i beidio â chymryd plant allan o’r ysgol yn ystod y tymor ac eithrio o dan ‘amgylchiadau eithriadol’. Mae meini prawf llym ar waith oddi wrth awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chanran yr absenoldeb heb awdurdod sy’n cael ei ganiatáu.

Mae SSCECymru yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ledled Cymru am sut i ystyried absenoldeb yn ystod amser tymor i blant milwyr y mae gwasanaeth gweithgar rhiant yn effeithio arnyn nhw, er enghraifft, pan all teuluoedd gymryd gwyliau gyda’i gilydd oherwydd cyfyngiadau ar wyliau milwyr.

Os ydych chi’n bwriadu mynd â’ch plentyn allan o’r ysgol am wyliau yn ystod y tymor neu am resymau eraill mewn perthynas â’ch lleoliad/ gwasanaeth chi neu’ch partner, mae’n bwysig eich bod yn siarad â’r ysgol ac yn esbonio’ch amgylchiadau. Yn yr un modd â rhannau eraill o’r DU, mae gan awdurdodau lleol broses o weithredu dirwyon a chymryd camau cyfreithiol mewn achosion eithriadol. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn pwysleisio mai’r ysgol sy’n cael penderfynu ynglŷn ag absenoldeb heb awdurdod, felly mae’n bwysig gwneud eich achos yn glir pan fydd absenoldeb yn gysylltiedig â’ch gwasanaeth chi/gwasanaeth eich partner.

32

Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anghenion Addysgol Arbennig

Anghenion addysgol arbennig

Os yw’ch plentyn yn cael rhagor o gymorth trwy Weithredu yn yr Ysgol/Gweithredu Ychwanegol yn yr Ysgol neu os yw’n ymwneud â datganiad o anghenion addysgol arbennig, rhaid gofalu bod yr ysgol newydd a’r awdurdod lleol yn gwybod am yr anghenion hynny pan gyflwynwch chi gais i’r ysgol.

Os ydych chi’n pryderu y gallai fod angen addysgol arbennig ar eich plentyn, er nad yw’n cael unrhyw gymorth ychwanegol ar hyn o bryd, dylech chi siarad â staff ysgol bresennol/newydd y plentyn am eich pryderon.

Mae côd ymarfer yng Nghymru am gyfrifoldebau statudol ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â rhoi cymorth ychwanegol o’r fath i blant yn yr ysgol.

33

Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anghenion Addysgol Arbennig

Anghenion addysgol arbennig

Mae mudiad Cyswllt Teulu Cymru wedi llunio llawlyfr defnyddiol iawn sy’n esbonio sut mae côd ymarfer anghenion addysgol arbennig yn gweithio yng Nghymru a pha hawliau sydd gan y rhieni. Mae ynddo wybodaeth am gyflwyno cais ar gyfer datganiad, asesiad statudol, apêl a chwyn hefyd:

Dyma gôd ymarfer presennol Cymru ym maes anghenion addysgol arbennig:

Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant sy’n cynnig cynghorion a chymorth i filwyr mae anghenion addysgol arbennig ar eu plant, hefyd. Dylai teuluoedd gofrestru eu plant gyda’r gwasanaeth hwnnw i gael y cynghorion diweddaraf drwy’r amser.

34

Yr Iaith Gymraeg

35

Yr Iaith Gymraeg

Y Cwricwlwm Cymraeg

Fel iaith genedlaethol Cymru, mae’r Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd ysgolion ac yn rhan orfodol o addysg pob plentyn. Mae llawer o rieni rydym ni wedi siarad â hwy sy’n symud yma o’r tu allan i Gymru wedi mynegi pryder am oblygiadau hyn i’w plant.

Tra byddwch chi’n byw yng Nghymru, bydd yn ofynnol i’ch plant ddysgu Cymraeg. Bydd hyn fel ail iaith neu iaith ychwanegol (WAL). Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, 3 a 4, byddant yn cael eu hasesu (yn ôl eu haddysg flaenorol, eu gwybodaeth a’u gallu). Yng Nghyfnod Allweddol 4, ar hyn o bryd mae’r cwricwlwm yn ei gwneud yn ofynnol i bobl disgybl gymryd cwrs byr yn y Gymraeg (sy’n gyfartal â hanner TGAU).

36

Yr Iaith Gymraeg

Y Cwricwlwm Cymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sydd efallai ynghlwm wrth ddysgu’r Gymraeg fel iaith ychwanegol ac yn datgan:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gan ddysgwyr y mae’r Saesneg neu’r Gymraeg yn iaith ychwanegol iddynt (EAL/WAL) heriau gwahanol mewn perthynas â chaffael iaith a llythrennedd. Efallai bod dysgwyr EAL/WAL yn dysgu Saesneg/Cymraeg am y tro cyntaf a, chan hynny, bydd angen cefnogaeth bwrpasol ychwanegol arnynt i’w helpu i ennill sgiliau llythrennedd priodol. Dylai deunydd gael ei ddarparu sy’n briodol i’w gallu, eu haddysg a’u profiad blaenorol, ac sy’n estyn eu datblygiad ieithyddol. Mae natur flynyddol y datganiadau disgwyliad yn gadael i ysgolion a lleoliadau sicrhau eu bod yn ymgorffori’r sgiliau priodol wrth gyflwyno’r cwricwlwm.”
Ffynhonnell: http://learning.wales.gov.uk/docs/learningwales/publications/141016-revised-areas-of-learning-and-programmes-of-study.pdf

Os ydych chi’n poeni am gyrhaeddiad eich plentyn neu’r heriau mae’n eu hwynebu o bosib wrth ddechrau dysgu’r Gymraeg am y tro cyntaf, mae’n bwysig siarad â’r ysgol i weld sut orau maent yn gallu cefnogi’ch plentyn chi.

37

Yr Iaith Gymraeg

Lwfans Ysgol Ddydd Gogledd Cymru

Efallai y bydd Lwfans Ysgol Ddydd Gogledd Cymru ar gael i deuluoedd milwyr sy’n gwasanaethu mewn swydd sefydledig mewn uned gymwys ac sy’n preswylio o fewn siroedd Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Ynys Môn ac sy’n bodloni’r holl feini prawf am daliad Lwfans Parhad Addysg. Mae hwn wedi ei ddylunio’n benodol i ganiatáu i blant sy’n symud i Ogledd Cymru, yn dilyn lleoliad swydd eu rhieni, fynychu ysgol ddydd annibynnol yn hytrach nag ysgol ddydd a gynhelir (ysgol gymunedol/sefydledig/wirfoddol) sy’n gweithredu’r polisi addysgu dwyieithog h.y. lle caiff Saesneg a Chymraeg eu siarad yn gyfartal yn yr ysgol. Mae gwybodaeth bellach am y lwfans ar gael drwy CEAS a thrwy gysylltu â’ch uned.

Oes Opsiynau Saesneg yn Ysgolion Gogledd Cymru?

Ledled y Gogledd, mae yna ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n dysgu drwy gyfrwng Saesneg fel y brif iaith. Byddwch chi’n gallu cael gwybod drwy wefan eich awdurdod lleol pa ysgolion sy’n gwneud hyn. D.S. Pan gaiff ysgol ei disgrifio fel ‘Saesneg gyda Chymraeg sylweddol’, mae hynny’n golygu mai ysgol cyfrwng Saesneg yw hi ond y bydd nifer uchel o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn yr ysgol.

38

Yr Iaith Gymraeg

Arferion a Digwyddiadau Cymru

Os ydych chi’n newydd i Gymru, efallai nad ydych hi’n ymwybodol o draddodiadau mae rhai ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan ynddy nhw.

Dydd Gŵyl Dewi

Y 1af o Fawrth yw diwrnod gŵyl Dewi, Nawddsant Cymru. Mewn llawer o ysgolion ledled Cymru, mae’r diwrnod yn cael ei nodi gyda gweithgareddau arbennig a gwisg ffansi (i blant iau). Mae rhai plant yn gwisgo gwisgoedd Cymreig traddodiadol, bydd eraill efallai’n gwisgo crysau rygbi neu’n mynd â chennin a Chennin Pedr i mewn (arwyddion cenedlaethol Cymru).

Eisteddfod

Gŵyl gerddoriaeth, llenyddiaeth a pherfformio i Gymru yw’r Eisteddfod. Mae rhai ysgolion yng Nghymru yn creu eu Heisteddfod eu hun fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Gall hyn gynnwys creu celf a chrefftau, ysgrifennu neu adrodd caneuon a cherddi. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal yn Saesneg ac yn y Gymraeg.

39

Gwybodaeth Bellach

Mae’r adran sy’n dilyn yn rhoi cysylltiadau â gwefannau a gwybodaeth bellach a fydd efallai o gymorth i chi, gan gynnwys dolenni â chysylltiadau mewn awdurdodau lleol ac arweiniad arall.

Derbyniadau Ysgol ac Ymholiadau Awdurdodau Lleol

Gweler y tabl isod o fanylion cysylltu pob tîm derbyniadau ysgol /addysg yng Nghymru.

42

Plant a Phobl Ifanc

MEIC Cymru

Angen gwybodaeth? Eisiau cyngor? Gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth am ddim i Gymru yw MEIC Cymru. Mae MEIC yn gallu rhoi cyngor beth bynnag y sefyllfa:

Military Kids Connect

Fforwm ar-lein ar gyfer plant Lluoedd Arfog o bob rhan o’r byd, gyda gwybodaeth ddefnyddiol, cyngor, gemau a mwy:

Comisiynydd Plant Cymru

Cymorth a chyngor hawliau dynol i blant a phobl ifanc:

Gwasanaethau Ieuenctid

Mae gwasanaethau ieuenctid ar gael dros bob awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gallu cynnig datblygiad cymdeithasol a phersonol i bobl ifanc drwy glybiau ieuenctid, gwaith preswyl a gwaith ar y stryd. Hefyd maent yn gallu darparu cymorth a chyngor i bobl ifanc. I ddod o hyd i’ch gwasanaeth agosaf, edrychwch ar restr A-Z o wasanaethau ar wefan eich awdurdod o dan ‘Y’.

43

Addysg

Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Plant (CEAS)

Gwybodaeth a chymorth i deuluoedd milwyr a sifiliaid cymwys y Weinyddiaeth Amddiffyn ar bob agwedd ar addysg eu plant yn y DU a thramor:

ELSA Support

Gwybodaeth a chymorth i deuluoedd milwyr a sifiliaid cymwys y Weinyddiaeth Amddiffyn ar bob agwedd ar addysg eu plant yn y DU a thramor:

Esytn

Arolygwyr ysgolion Cymru:

44

Addysg

Comisiynydd Plant Cymru

Cymorth a chyngor am hawliau dynol i blant a phobl ifanc:

Royal Caledonian Educational Trust

Gweithio i hybu ymwybyddiaeth o anghenion plant milwyr yn yr Alban:

Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion y Wladwriaeth

Rhwydwaith o ysgolion y wladwriaeth yn Lloegr sy’n darparu cymorth a chyngor am Blant Milwyr ac a gynhyrchodd lawlyfr i ysgolion:

46

Lluoedd Arfog a Chyrff Cymorth:

HMS Heroes

Menter mentora gan gymheiriaid ar gyfer plant milwyr sydd wedi eu lleoli yn Plymouth:

HIVES

Canolfannau gwybodaeth yw HIVES sydd ar gael i bob aelod cymuned y Lluoedd Arfog. Maent ar gael i bersonél priod a sengl fel ei gilydd, ynghyd â’u teuluoedd, dibynyddion a sifiliaid sy’n cael eu cyflogi gan y Lluoedd:

HIVE RAF VALLEY

HIVE CASGWENT AC ABERHONDDU

HIVE SAIN TATHAN AC HWLFFORDD

47

Lluoedd Arfog a Chyrff Cymorth:

Y Weinyddiaeth Amddiffyn – Gwasanaethau Cymorth

Rhestr o wasanaethau cymorth a chyngor o bersonél y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig:

Soldiers, Sailors and Airmen Families Association (SSAFA)

Yn cynnig cymorth a chyngor i bersonél presennol a blaenorol y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd:

Army Families Federation (AFF)

Cefnogi teuluoedd y fyddin:

Royal Air force Families Federation (RAFFF)

Cefnogi teuluoedd RAF:

48

Lluoedd Arfog a Chyrff Cymorth:

Naval Families Federation

Cefnogi teuluoedd y Llynges Frenhinol a Môr-filwyr Brenhinol:

Y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae’r Lleng Prydeinig Brenhinol yn helpu holl gymuned y Lluoedd Arfog drwy nawdd, brawdoliaeth a chynrychiolaeth yn ogystal â gwarchod Coffa dros y genedl:

Veterans UK

Yn darparu cymorth a chyngor i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd:

Samariaid

Llinell gymorth gyfrinachol i unrhyw un sydd angen rhywun i siarad â nhw neu gymorth a chyngor:

49

Lluoedd Arfog a Chyrff Cymorth:

Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog

Nod y Cyfamod Cymunedol yw annod cymunedau lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardal a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy’n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.

Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog

Pecyn Cymorth Lluoedd Arfog Cymru